Ewch i’r prif gynnwys

Sioe Ysgol Pensaernïaeth Cymru 2024

Cafodd Sioe Haf Ysgol Pensaernïaeth Cymru 2024 ei lansio ar 21 Mehefin 2024 am 18:00.

Sioe dan arweiniad myfyrwyr yw hon. Mae'n ymdrech ar y cyd gan bob blwyddyn, cwrs a stiwdio dylunio yn Ysgol Pensaernïaeth Cymru.

Bydd yr arddangosfa’n cynnwys detholiad wedi’i guradu o ddarluniau, delweddiadau, modelau, siartiau, diagramau, mapiau, posteri, ffilmiau, arteffactau, a gwaith arall o’r holl gyrsiau a gynhelir yn yr ysgol yn y flwyddyn academaidd 2023-24.

Teitl y sioe yw ‘Transition’. Drwy guradu'r sioe, mae'r myfyrwyr yn dangos rhai o'r ffyrdd y mae newidiadau mawr sy'n effeithio ar gymdeithas heddiw - megis heriau i hawliau dynol a newid yn yr hinsawdd - yn effeithio ar eu prosiectau ac yn llunio eu syniadau dylunio, eu cynigion a'u delfrydau.

Archebwch docynnau ymlaen llaw