Gofod Cyhoeddus ac Astudio Tiriogaethau Trefol
Mae’r grŵp ymchwil ac ysgolheictod Trefolrwydd yn cynnal darlith wadd gan yr Athro Andrea Mubi Brighenti i drafod lleoedd cyhoeddus ac astudio tiriogaethau trefol.
Dyddiad: Dydd Iau 7 Rhagfyr 2023, 12:30 - 13:30
Siaradwr: Yr Athro Andrea Mubi Brighenti, Prifysgol Trento, yr Eidal
Yn y ddarlith hon, mae’r Athro Brighenti yn ceisio cyflwyno tiriogaetheg yn ddull ymchwil y gellir ei ddefnyddio mewn ffordd sensitif i astudio gofod cyhoeddus. Bydd yn ystyried y mannau cyfarfod rhwng theori gymdeithasol, ethnograffeg, daearyddiaeth ddynol a dylunio, sef offer defnyddiol er mwyn astudio’r broses o fynd ati i greu tiriogaeth. Mae pob tiriogaeth yn cael ei llunio gan rymoedd dychymyg a ffigurol bywyd cymdeithasol wrth i’r rhain gael eu hymgorffori mewn set o ddeunyddiau. Gan ddechrau o'r rhagdybiaeth hon, hoffai ddangos ychydig o achosion ac enghreifftiau posibl yn y dyfodol ym maes astudiaethau trefol.
Athro Theori Gymdeithasol a Gofod a Diwylliant yn Adran Cymdeithaseg, Prifysgol Trento, yr Eidal yw Andrea Mubi Brighenti. Mae ei bynciau ymchwil yn ymdrin yn fras â materion sy’n ymdrin â gofod, grym a’r gymdeithas. Ef yw awdur Elias Canetti and Social Theory (Bloomsbury, 2023). The Bond of Creation; (gyda Mattias Kärrholm) Animated Lands. Studies in Territoriology (Gwasg Prifysgol Nebraska, 2020);Teoria Sociale. Un percorso introduttivo [Social Theory. An Introduction] (Meltemi, 2020), The Ambiguous Multiplicities: Materials, episteme and politics of some cluttered social formations (Palgrave Macmillan, 2014), Visibility in Social Theory and Social Research (Palgrave Macmillan, 2010) aTerritori migranti [Migrant Territories. Space and Control of Global Mobility] (ombre corte, 2009). Ei wefan ymchwil yw www.capacitedaffect.net
Cyfeirnod y cyfarfod: 889 8613 4848
Cyfrinair: 624008