Ewch i’r prif gynnwys

Cynhadledd Cymdeithas Addysgwyr ym maes Pensaernïaeth 2023

Productive Disruptive AAE conference

12-15 Gorffennaf 2023, Ysgol Pensaernïaeth Cymru, Prifysgol Caerdydd, Caerdydd, DU.

Productive-Disruptive: spaces of exploration in-between architectural pedagogy and practice

"Ceisiodd nifer ohonom ateb pam mae cymaint o bellter rhwng y cwrs pensaernïaeth a'r hyn welwn ni yn y byd go iawn. Fodd bynnag, gellid hefyd gofyn y cwestiwn pam mae byd go iawn pensaernïaeth mor bell oddi wrth y dychymyg a chreadigrwydd sydd ynghlwm â’r cwrs pensaernïaeth." (myfyrdod myfyriwr MArch1, 2018)

Bydd Cynhadledd Cymdeithas Addysgwyr ym maes Pensaernïaeth (AAE) 2023 yn dod ag academyddion, myfyrwyr, ac ymarferwyr ym maes pensaernïaeth a rhanddeiliaid yn yr amgylchedd adeiledig ynghyd i gwestiynu a all y 'bylchau' rhwng addysg ac ymarfer ym maes pensaernïaeth, a heriau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol cyfredol, fod yn gynhyrchiol o ran peri newid.

Mae'r berthynas rhwng addysgeg ac ymarfer ym maes pensaernïaeth wedi bod yn cael ei hadolygu ers i’r ddeubeth gael eu ffurfioli. Yn addysgwyr ym maes pensaernïaeth yn Ysgol Pensaernïaeth Cymru, rydym wedi bod yn dystion i newidiadau ymysg myfyrwyr gradd meistr sy’n dychwelyd ar ôl blwyddyn allan yn ymarfer yn y maes. Mae nifer gynyddol o'u prosiectau dylunio ac ymchwil yn cwestiynu digonolrwydd addysg a digonolrwydd ymatebion cwmnïau pensaernïol o ran ymateb i argyfyngau byd-eang yn yr amgylchedd, ac i hil, yr economi, iechyd, cydraddoldeb a chyfiawnder. Mae ymatebion ac adborth y myfyrwyr ynghylch hyn, a'r ymdeimlad o frys sy’n ysgogi’r cyfan, yn estyn y tu hwnt i gwestiynu bylchau rhwng addysgeg ac ymarfer, ac yn fframio rhagofynion ehangach o ran arfer foesegol.

Bellach, felly, mae gofyn a yw myfyrwyr sy'n graddio yn barod i ymarfer, yn gwestiwn sydd wedi’i glymu’n dynnach o hyd i gwestiwn arall, sef a yw byd ymarfer yn barod ar eu cyfer hwy.

    • Sut gallai'r bwlch rhwng addysg ac ymarfer ym maes pensaernïaeth gael ei archwilio i ddatgelu mewn modd cynhyrchiol y ffyrdd o weithio nad ydynt bellach yn addas, a pheri newid?
    • Beth fyddai rôl posib personau fyddai’n gyfryngwyr o ran ysgogi newidiadau mewn modd effeithiol?
    • Sut gall addysg ym maes pensaernïaeth, gan gynnwys dylunio'r cwricwlwm esblygu er mwyn mynd i'r afael yn well â'r materion a'r heriau y mae dinasoedd a chymdeithasau'n eu hwynebu?

Bydd y gynhadledd hon yn gwahodd cyfraniadau sy’n trin a thrafod potensial cynhyrchu / tarfu (productive / disruptive) y bylchau sydd rhwng addysgeg bensaernïol, ymarfer, a’r cyd-destun byd-eang y maent yn ei ffurfio ac yn ymateb iddo, o ran archwilio’r gagendor rhwng disgwyliadau a phrofiadau; ymreolaeth a chydweithio; dysgu a gwireddu; delfrydau a chanlyniadau; ffiniau proffesiynol, cysyniadol a ffisegol; ac o ran cynnig a phrofi diffiniadau o arbenigedd, asiantaeth, pŵer, gwerth a llwyddiant rhwng addysg ac ymarfer pensaernïol.

Bydd Cynhyrchu-Tarfu: mannau o archwilio rhwng addysgeg ac ymarfer pensaernïol yn cael ei gynnal yn Ysgol Pensaernïaeth Cymru, Prifysgol Caerdydd, rhwng 12-15 Gorffennaf 2023 a bydd opsiynau o ran sesiynau ar-lein pwrpasol ar gael. Rydym yn annog cydweithio rhwng addysgwyr, ymarferwyr, myfyrwyr, a rhanddeiliaid yn yr amgylchedd adeiledig.

Prif Areithiau

Dydd Mercher 12 Gorffennaf 1700-1900

Uwchgynhadledd gyda Muyiwa Oki, Darpar Lywydd RIBA, Dan Benham, Darpar Lywydd RSAW a Charlie Edmonds, Civic Square a Future Architects Front - Noddir gan Arcadis. Adeilad Bute, Neuadd Arddangos 0.66
Ar agor i bawb - cofrestrwch yma

Dydd Iau 13 Gorffennaf 1730-1830

Andrew Freear, Rural Studio - ar agor i gynrychiolwyr cofrestredig cynhadledd aae2023
Adeilad Bute, Neuadd Arddangos 0.66.

Dydd Gwener 14 Gorffennaf 1130-1230

Immy Kaur, Civic Square - yn agored i gynrychiolwyr cofrestredig cynhadledd aae2023 
Adeilad Bute, Neuadd Arddangos 0.66.

Dydd Sadwrn 15 Gorffennaf 1000-1200

Ymyriadau creadigol i greu cymdogaethau - gweithdy gyda theatr Common Wealth, Pafiliwn Grange.
Agored i bawb - cofrestrwch yma

Dyddiadau allweddol

DyddiadDyddiad
29 Medi 2022 Galw am gynigion ar gyfer papurau a gweithdai
16 Tachwedd 2022 Dyddiad cau ar gyfer crynodebau o bapurau a gweithdai
14 Rhagfyr 2022 Hysbysiad derbyn / Cofrestru'n agor
31 Ionawr 2023Dyddiad cau ar gyfer cofrestru’n gynnar
1 Mawrth 2023 Dyddiad cau ar gyfer drafft o bapurau ar gyfer eu hadolygu gan gyd-ymchwilwyr
3 Mai 2023 Dyddiad cau ar gyfer papurau llawn ar gyfer y gynhadledd
5 Gorffennaf 2023 Dyddiad cau ar gyfer cofrestru
12 Gorffennaf 2023 Digwyddiad min nos i lansio’r gynhadledd
13-14 Gorffennaf 2023 Sesiynau cyflwyno papurau a gweithdai'r gynhadledd
15 Gorffennaf 2023 Teithiau maes y gynhadledd

Galwad am gyflwyniadau

Rydym yn gwahodd cyfraniadau sy’n dathlu gallu’r bylchau rhwng addysgeg bensaernïol ac ymarfer i gynhyrchu / tarfu gan ehangu dealltwriaeth, herio rhagdybiaethau, meithrin dyheadau, ehangu ffiniau, gwahodd cydweithrediadau, a phrofi syniadau newydd a’u rhoi ar waith.

Gallai themâu papurau a gweithdai gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i):

Addysgeg yn tarfu, ar frys, mewn ffordd gynhyrchiol ar ymarfer ac i'r gwrthwyneb: a yw graddedigion yn barod i ymarfer neu a yw ymarfer yn barod ar gyfer graddedigion; bylchau o ran cynhwysiant mewn addysg ac ymarfer; sgiliau, ymddygiadau a chodau ymddygiad; ymreolaeth unigol neu ymarfer cydweithredol; asesu a metrigau llwyddiant; cysyniadau o ran methiant a risg; canlyniadau anfwriadol; nwyddháu addysg; llwybrau i mewn i a thrwy bensaernïaeth; addysgeg ar waith; delfrydau a chanlyniadau prosiectau byw; addysgeg ac ymarfer mewn argyfwng hinsawdd.

Cynyrchu/tarfu moesegol a gwleidyddol: dyletswyddau o ran gofal moesol ac athronyddol; gwirfoddoli a syndrom gwaredwr (saviour syndrome); gweithredaeth ar ffurf pensaernïaeth mewn addysgeg ac ymarfer; safbwyntiau ffeministaidd; safbwyntiau ôl-drefedigaethol a dad-drefedigaethol; beirniadaethau o ddulliau cynhyrchu; cysyniadau o werth; cyfalaf dynol a chynhyrchu'r amgylchedd adeiledig; cymhlethdod a chyfrifoldeb; bylchau rhwng delfrydau penseiri a buddiannau rhanddeiliaid.

Dulliau cynhyrchu a tharfu rhyngddisgyblaethol ac amlddisgyblaethol: ffiniau arbenigedd; cydweithio, cyd-gynhyrchu, pŵer ac asiantaeth; addysgeg ac ymarfer amlddisgyblaethol; trosi o'r cysyniad i'r gweithredu; cyfathrebu a gweithredu ar draws disgyblaethau a rhyngddynt; dulliau cynhyrchu digidol a chorfforol; methodolegau amlddisgyblaethol.

Rydym yn Bydd cyfraniadau’r gynhadledd yn cynnwys:

    • papurau 3000-6000 (caiff y rhain a chyflwyniad 20 munud eu cynnwys yn y gynhadledd)
    • Cynigion ar gyfer gweithdai (gellir eu cynnig fel gweithdai hyd at 1-1.5 awr)
    • Cynigion ar gyfer posteri A1 yn ymdrîn ag Astudiaethau Achos (gall gynnwys modelau os cânt eu cludo gan awdur)
    • Ffilmiau (nodwch hyd - 10 munud ar y mwyaf)

Bydd y crynodebau yn cael eu hadolygu gan gymheiriaid ar sail ddwbl-ddall sy’n aelodau o bwyllgor trefnu 2023 yr aae. Bydd holl bapurau’r gynhadledd yn cael eu cynnwys yn nhrafodion ar-lein llawn y gynhadledd a byddant hefyd yn cael eu gwahodd i gyflwyno cynigion ar gyfer papurau mewn rhifyn arbennig o Charrette, cyfnodolyn yr aae.

Cyflwyniadau haniaethol ar gau - cysylltwch â ni i holi am bresenoldeb mewn cynadleddau

Aelodau Pwyllgor Cymdeithas yr Addysgwyr Pensaernïol (aae)

    • Yr Athro Jane Anderson (Yr Ysgol Pensaernïaeth, Prifysgol Oxford Brookes)
    • Dan Jary (Yr Ysgol Pensaernïaeth, Prifysgol Sheffield)
    • Yr Athro Hannah Vowles (Ysgol Pensaernïaeth a Dylunio Dinas Birmingham)
    • Julian Williams (Yr Ysgol Pensaernïaeth a Dinasoedd, Prifysgol Westminster)

Golygyddion Charrette

  • Dr Annie Bellamy (Pensaernïaeth a'r Amgylchedd Adeiledig, UWE Bryste)
  • Dr Davide Landi (Pensaernïaeth a'r Amgylchedd Adeiledig, Prifysgol Gorllewin Lloegr, Bryste)

Cadwch eich lle

Cofrestrwch am le.

Cofrestrwch nawr

Cysylltu â ni

Cadeirir ‘Productive-Disruptive: spaces of exploration in-between architectural pedagogy and practice’ gan

  • Caroline Almond
  • Dr Steve Coombs
  • Professor and WSA Head of School Juliet Davis
  • Dr Ed Green
  • Dr Julie Gwilliam
  • Dr Shan Shan Hou
  • Professor Mhairi McVicar (Chair)
  • Sarah O'Dwyer
  • Professor Andrew Roberts
  • Professor Magda Sibley
  • Yasser Mehahed
  • Melina Guirnaldos Diaz

yn Ysgol Pensaernïaeth Cymru, Prifysgol Caerdydd, y DU, ac mae'n gynhadledd Cymdeithas Addysgwyr Pensaernïaeth (AAE).

I gysylltu â threfnwyr y gynhadledd, cysylltwch â aae2023@caerdydd.ac.uk.

Prif Areithiau

Ymhlith prif areithiau cynhyrchiol-anghonfensiynol yr aee yn 2023 y mae:

  • Immy Kaur - Civic Square
  • Charlie Edmonds - Civic Square And Future Architects Front
  • Andrew Freear - Rural Studio
  • Muyiwa Oki - Mace Group And Riba President-Elect
  • Immy Kaur - Civic Square
  • Charlie Edmonds - Civic Square And Future Architects Front
  • Andrew Freear - Rural Studio
  • Muyiwa Oki - Mace Group And Riba President-Elect

Immy Kaur, Civic Square

Throughout her decade-long career, Immy has focused on convening and building community, the role of citizens in radical systemic change, and how we together create more democratic, distributed, open-source social and civic infrastructure. Through this work, she has discovered much about economic justice and broader injustices, the pivotal role of land and social/civic infrastructure in neighbourhoods, and the value extracted from communities through our broken investment models. It’s an ongoing journey of discovery, emergence and learning together.

Immy is a Co-Founder and Director of CIVIC SQUARE. CIVIC SQUARE is a public square, neighbourhood lab, and creative + participatory platform focused on regenerative civic and social infrastructure within neighbourhoods. Immy is part of a creative and dynamic leadership team who works alongside the local neighbourhood, to offer a bold approach to visioning, building and investing in civic infrastructure for neighbourhoods of the future.

Charlie Edmonds, Civic Square and Future Architects Front

Charlie is the Dark Matter Designer at CIVIC SQUARE and a freelance writer on architecture and the built environment as it relates to labour and climate. His writing has appeared in the Architectural Review, Building Design Magazine, and The Architects' Journal. Charlie holds a Master's in Architecture and Urban Design from the University of Cambridge where he co-founded the Future Architects Front with Priti Mohandas. FAF is a grassroots organisation driving political action through architecture towards a future of social and ecological justice. Charlie's work at CIVIC SQUARE revolves around the challenge of retrofit: how to decarbonise our neighbourhoods at scale, and how this can be organised through hyperlocal social movements and governance.

Andrew Freear, from Yorkshire, England, is Director of Rural Studio at Auburn University.

For over two decades Freear has lived in rural Newbern, Alabama, a town with a population of 187, where he runs a program that questions the conventional education and role of architects. His students have designed and built more than 220 community buildings, homes, and parks in their under-resourced community. He is a teacher, designer, builder, advocate, and liaison between local authorities, community partners, and students.

Freear’s work has been published extensively, and he regularly lectures around the world. He has designed and built exhibits at London’s Victoria & Albert Museum, the Whitney Biennial, and the Museum of Modern Art in NYC, as well as the Milan Triennale and the Venice Biennale.

His honors include the Ralph Erskine Award, the Global Award for Sustainable Architecture, and the Architecture Award from the American Academy of Arts and Letters. Freear was a 2018 Loeb Fellow at Harvard University and in 2020 received the President’s Medal from the Architectural League of New York, the League’s highest honor. In 2021, he was inducted as a National Academician into the National Academy of Design and this Fall 2022, Rural Studio received the National Design Award in Architecture / Interior Design from Cooper Hewitt, Smithsonian Design Museum.