Ewch i’r prif gynnwys

Allgymorth

Mae ein gweithgareddau allgymorth yn cynnwys gweithdai mewn ysgolion cynradd, prosiectau dylunio ac adeiladu yn ystod yr haf yn Indonesia ac adeiladu cyfleusterau newydd yn Sambia.

Goleuadau'r Nadolig i blant Caerdydd

Mae'r prosiect hwn yn goleuo Chwarter Camlas Caerdydd gyda dyluniadau goleuadau Nadolig plant ysgolion cynradd yn ystod cyfnod yr ŵyl.

High-school children from across South Wales, setting out plans to set-up camp on Mars

Gweithdai Ysgol Pensaernïaeth Cymru

Gweithdai ar gyfer ysgolion cynradd ac uwchradd lleol i roi trosolwg i ddisgyblion o bensaernïaeth fel pwnc a phroffesiwn.

Children and women clustered around a model of a neighbourhood

Cystadleuaeth Llunio fy Stryd

Mae Ysgol Pensaernïaeth Cymru yn cynnal cystadleuaeth flynyddol o’r enw Llunio Fy Stryd. Diben y gystadleuaeth yw cyflwyno dysgwyr ifanc i syniadau am gartref, lle a chymuned.

Group of students building a paper structure

Cymorth Bagloriaeth Cymru gan Ysgol Pensaernïaeth Cymru

Cyfres o ddeunyddiau addysgu a dysgu sy'n cyflwyno pensaernïaeth i helpu i gyflawni heriau Bagloriaeth Cymru a datblygiad y prosiect unigol.

A wooden house for insects

Pecyn Adnoddau Pensaernïaeth

Pecyn adnoddau sy’n canolbwyntio ar gyflwyno pensaernïaeth a chysylltu â themâu’r cwricwlwm. Mae’r deunyddiau’n ddifyr ac yn hawdd eu defnyddio yn yr ystafell ddosbarth.

Adnoddau

I gefnogi nodau'r prosiect hwn, mae myfyrwyr israddedig o'r Ysgol, gyda chymorth Prosiect Partneriaeth Ysgolion y Brifysgol a CBAC, wedi paratoi cyfres o adnoddau addysgu a dysgu rhad ac am ddim.

Mae'r rhain yn cynnwys taflenni gwaith, tasgau gwersi cam wrth gam a chyflwyniadau PowerPoint i gyflwyno pensaernïaeth drwy’r cwricwlwm Cynradd a Bagloriaeth Cymru.

Adnoddau ar gyfer ysgolion cynradd

Cyflwyniad i Bensaernïaeth - Gwneud Tŷ Byg

Amrywiaeth o adnoddau, argymhellion a gweithgareddau gwersi ar gyfer dysgwyr Derbyn a Chyfnod Allweddol 1 (4-7 oed).

Adnoddau ar gyfer ysgolion uwchradd a cholegau addysg bellach

Cyflwyniad i Bensaernïaeth - Her fach gymunedol

Ei nod yw nodi materion o fewn yr amgylchedd adeiledig a deall sut i oresgyn y materion hyn gydag atebion dylunio.

Cyflwyniad i Bensaernïaeth - Her fach dinasyddiaeth fyd-eang

Wedi'i gynllunio i wneud dysgwyr yn ymwybodol o faterion sy'n ymestyn y tu hwnt i gwmpas eu gwlad eu hunain a'u galluogi i lunio ateb i orddefnydd adnoddau'r Ddaear.

Cyflwyniad i Bensaernïaeth - Pecyn adnoddau

Mae'n cynorthwyo athrawon i gyflwyno'r heriau a'r prosiect unigol ac mae'n ffynhonnell ysbrydoliaeth i ddysgwyr.