Ewch i’r prif gynnwys

Galw am ymarferwr allanol

Rydym yn gwahodd datganiadau o ddiddordeb gan weithwyr proffesiynol creadigol a brwdfrydig sydd â diddordeb mewn addysgu yn un o ysgolion pensaernïaeth gorau’r DU.

Rydym yn chwilio am ymarferwyr allanol sydd â hanes amlwg o addysgu. Bydd gennych chi hefyd agenda bendant yn ymwneud â dylunio pensaernïol cynaliadwy a chyfoes i gynorthwyo ein myfyrwyr mewn amgylchedd addysgu ac ymchwil bywiog a chydweithredol.

Gwahoddir cynigion ar gyfer y mathau canlynol o rolau i gynorthwyo ein rhaglenni israddedig ac ôl-raddedig yn 2025/26:

Mae Tiwtoriaid Stiwdio o gymorth er mwyn addysgu dylunio yn rhan o raglenni BSc Pensaernïaeth (blynyddoedd 1 a 2) ac MA mewn Dylunio Trefol (MA UD). Maent yn gweithio o fewn fframwaith o ddulliau addysgu a briffiau a sefydlwyd gan arweinwyr modiwlau dylunio.

Cynhelir y stiwdios o fis Hydref tan y Pasg ym mlynyddoedd 1 a 2 y rhaglen BSc, ac o fis Hydref tan mis Medi ar gyfer y rhaglen MA mewn Dylunio Trefol.

Bydd 12 o fyfyrwyr ym mhob stiwdio fel arfer. Mae'n ofynnol i fyfyrwyr ymateb i friff penodol sydd wedi'i osod i annog arferion penodol o wybod, bod a gweithredu o fewn cyd-destun addysgu a dysgu dylunio. Bydd y briff yn diffinio lleoliad daearyddol, yn ogystal â thema, agenda a rhaglen glir.

Rydym yn cynnig tiwtorialau wythnosol, naill ai mewn grwpiau bach neu gyda myfyrwyr unigol. Mae’r rhain yn rhoi amser a lle i ddatblygu a phrofi syniadau deallusol drwy ddylunio.

Rydym yn croesawu cynigion ar gyfer stiwdios mewn meysydd pwnc sy'n cyd-fynd ag un o'r themâu canlynol: 'personoliaeth a lle', 'trefoli', 'gwneud', 'amgylchedd', ac 'addasu'. Mae'r rhain yn cyd-fynd yn fras â Grwpiau Ymchwil ac Ysgoloriaethau'r ysgol ac mae dolenni i'w lawrlwytho ar gael ar y dde.

Mae Grŵp Cysylltiadau â’r Gweithle Ysgol Pensaernïaeth Cymru yn cynorthwyo ein rhaglen unigryw, 'Blwyddyn Addysg ar Waith' MArch1. Mae Tiwtoriaid Cysylltiadau â’r Gweithle yn mentora ac yn cynnig arweiniad ar ddylunio i grŵp bach o fyfyrwyr. Mae hyn yn cynnwys ymweliad rhithwir â swyddfa i adolygu profiad a gosod nodau ar gyfer hunanddatblygiad yn y gweithle. Yn rhan o hyn, byddwch yn cynnig cyngor, adolygiad ac asesiad fel tiwtor ar gyfer Dylunio ar Waith. Ei nod yw mynd i'r afael â heriau dylunio yn y byd go iawn trwy addysgu Prosiect Byw.

Gan amlaf, mae Tiwtoriaid Cysylltiadau â’r Gweithle yn benseiri cymwys RIBA Rhan III (neu gyfwerth) gyda phrofiad o weithio yn y maes. Byddai diddordebau mewn ailddefnyddio addasol, dylunio amgylcheddol ac ymgysylltu â'r gymuned yn cyd-fynd yn dda â briffiau ein Prosiect Byw.

Cynigir stiwdios dylunio yn nhrydedd flwyddyn ein BSc Pensaernïaeth (RIBA Rhan I).

Cynhelir y stiwdios o fis Hydref i fis Mehefin.

Mae tua 24 o fyfyrwyr a dau diwtor yn y naill stiwdio. Mae'n ofynnol i fyfyrwyr ymateb i agenda thematig a bennir gan arweinwyr y stiwdio, ac rydym yn gofyn am gynnig drafft un dudalen o hyd, yn ogystal â CV. Mae’r ysgol yn agored i gynigion gan unigolion a allai ymuno ag aelod staff mewnol, neu ymuno o dîm sydd eisoes wedi’i sefydlu.

Rydym yn croesawu cynigion ar gyfer stiwdios mewn meysydd pwnc sy'n cyd-fynd ag un o'r themâu canlynol: 'personoliaeth a lle', 'trefoli', 'gwneud', 'amgylchedd', ac 'addasu'. Mae'r rhain yn cyd-fynd yn fras â Grwpiau Ymchwil ac Ysgoloriaethau'r ysgol ac mae dolenni i'w lawrlwytho ar gael ar y dde.

Rydym yn cynnig tiwtorialau wythnosol, naill ai mewn grwpiau bach neu gyda myfyrwyr unigol. Mae’r rhain yn rhoi amser a lle i ddatblygu a phrofi syniadau deallusol drwy ddylunio.

Dylai’r stiwdios arwain at gyflawni fframwaith deilliannau dysgu’r ysgol sy’n cyd-fynd â’r meini prawf a bennwyd gan Sefydliad Brenhinol Penseiri Prydain (RIBA) a’r Bwrdd Cofrestru Penseiri (ARB).

Cynigir unedau dylunio yn ail flwyddyn ein Meistr mewn Pensaernïaeth (MArch RIBA Rhan II) a’r MA mewn Dylunio Pensaernïol (MA AD).

Rydym yn gwahodd cynigion ar gyfer unedau thematig gan unigolion sydd â hanes amlwg o ragoriaeth ym maes dylunio lefel uchel. Gellir dangos hyn ar ffurf prosiectau ymarferol, stiwdios dylunio blaenorol, cyhoeddiadau, a/neu wobrau. Dylai ymgeiswyr allu addysgu dylunio o agenda ddiffiniedig sy'n berthnasol i ddisgwrs ac arferion pensaernïol cyfoes. Ar ben hynny, dylai fod ganddynt brofiad helaeth o integreiddio dylunio ac ymchwil.

Cynhelir unedau MArch o fis Hydref tan y Pasg, tra bod stiwdios MA AD yn ymestyn o fis Hydref i fis Medi. Mae pob uned lefel meistr yn cynnwys 9–10 myfyriwr fel arfer, ond mae’n bosibl y byddwn yn ystyried unedau mwy os bydd darpar arweinwyr yn cynnig dulliau addysgu cydweithredol.

Disgwylir i fyfyrwyr ymweld â safleoedd dethol o leiaf unwaith, a bydd teithiau astudio yn aml yn cael eu hymgorffori yn y cwricwlwm. Mae tiwtorialau wythnosol, a gynhelir naill ai mewn grwpiau bach neu gyda myfyrwyr unigol, yn rhoi amser a lle i ddatblygu a phrofi syniadau deallusol drwy ddylunio.

Deilliannau

Dylai’r holl addysgu uchod arwain at gyflawni deilliannau dysgu’r ysgol sy’n cyd-fynd â’r meini prawf a bennwyd gan Sefydliad Brenhinol Penseiri Prydain (RIBA) a’r Bwrdd Cofrestru Penseiri (ARB) ar gyfer Rhannau I a II yn y drefn honno.

Mae'n ofynnol i fyfyrwyr ddatblygu traethawd ymchwil dylunio sy'n ymateb i fater neu thema a ddiffinnir yn glir, ac a gefnogir gan arweinydd eu huned. Mae’r traethawd dylunio estynedig yn gyfrwng i fyfyrwyr ennill sgiliau pwysig mewn ymchwilio a’u trosi’n rhaglen bensaernïol, ffurf a datrysiad perthnasol.

Hanes a Theori

Mae gennym ddiddordeb mewn cael ymarferwyr allanol i gynorthwyo ein gwaith addysgu Hanes a Theori yn y rhaglen BSc (RIBA Rhan1). Mae’n cynnwys cyfres o fodiwlau a addysgir drwy ddarlithoedd, gweithdai a seminarau. Rydym yn chwilio am ddealltwriaeth o hanes a theori pensaernïol (a threfol/cynllunio) a ddatblygwyd drwy astudiaethau pensaernïol neu bwnc cyfatebol, yn ogystal â diddordeb brwd yn y maes.  Yn rhan o dîm, gallai eich arbenigedd gynnwys cyfrannu mewn tiwtorialau, seminarau neu weithdai.

Technoleg

Rydym yn chwilio am ymgynghorwyr sydd ag arbenigedd ym maes Technoleg Bensaernïol i gynorthwyo prosiectau myfyrwyr RIBA Rhan I a Rhan II. Dylai fod gan ymgeiswyr ddiddordeb mewn ysbrydoli myfyrwyr ac yn gallu eu herio i integreiddio technoleg mewn prosiectau dylunio gyda phwyslais penodol ar dectoneg bensaernïol, materoliaeth, ffabrig adeiladau, adeiladu adeiladau, ac integreiddio datrysiadau dylunio adeiladau carbon isel/di-garbon a chynaliadwy. Gall hyn gynnwys arbenigedd penodol mewn deunydd, cysur thermol, awyru, ffiseg adeiladu, gwasanaethau adeiladu, strwythurau, a diogelwch tân.

Adolgwyr dylunio

Yn rheolaidd yn ystod y flwyddyn, rydym yn gofyn i weithwyr proffesiynol adolygu gwaith myfyrwyr. Rydym yn awyddus i glywed gan bob pensaer, gan gynnwys arbenigwyr mewn maes penodol, felly ewch ati i fynegi diddordeb.

Rhaglenni cyfredol y mae'r alwad hon yn berthnasol iddynt

Enghreifftiau o waith yn y gorffennol

Sut i wneud cais

Mae dwy ran i’r broses ymgeisio.

Defnyddiwch y ddolen hon i fynegi eich diddordeb. Ar ôl gwneud hynny, bydd angen i chi gyflwyno CV ac enghreifftiau o waith dylunio gwreiddiol a/neu addysgu pensaernïol blaenorol.

Arweinwyr uned – gofynnir i chi hefyd gyflwyno datganiad o ddiddordeb un dudalen o hyd, sy’n cynnwys:

  • Nod, amcanion a chwmpas yr uned: maes pwnc, cwestiynau a allai godi o fewn yr uned, ffyrdd o weithio (darlunio, modelu, cyfrifiadurol, cydweithredol, ar safle, ac ati)
  • Lleoliad ac adnoddau: lle bydd y myfyrwyr yn gweithio (yng nghefn gwlad, y dref, y ddinas, ardal, gwlad, ac ati). Pa adnoddau allai fod eu hangen i gefnogi’r uned?
  • Os yw'n bosibl, byddem hefyd yn gofyn i chi ystyried: amserlennu cyffredinol, goblygiadau adnoddau gan gynnwys costau deunyddiau, asesiad risg (gallwn roi cyngor ar hyn), ymweliadau â safle ac ymweliadau astudio

Dylech hefyd ystyried methodoleg, sgiliau, dysgu a chanlyniadau disgwyliedig.

Nodwch yn eich cynnig ym mha raglen yr hoffech ymgorffori’r uned: BSc (RIBA Rhan I), MArch (Rhan RIBA Rhan II) neu MA AD. Rydym yn cadw’r hawl i awgrymu mannau eraill.

Dyddiad cau: 31 Mai 2025

Os derbynnir eich cynnig am stiwdio neu uned, fe'ch gwahoddir i gyflwyno briff manwl arall.

Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a chreu amgylchedd gwaith cynhwysol. Rydym o’r farn y gellir gwneud hyn drwy ddenu, datblygu a chadw ystod amrywiol o staff o lawer o gefndiroedd gwahanol.

Felly, rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob rhan o’r gymuned, beth bynnag fo’u rhyw, eu hethnigrwydd, eu hanabledd, eu cyfeiriadedd rhywiol, eu hunaniaeth draws, statws eu perthynas, eu crefydd neu eu cred, eu cyfrifoldebau gofalu neu eu hoedran.

Cysylltu

Os hoffech ragor o wybodaeth, cysylltwch â Samantha Johnson:

Samantha Johnson

Samantha Johnson

Finance Manager

Email
johnsons18@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2087 6728