Ewch i’r prif gynnwys

Israddedig

Rydyn ni’n cynnig y sgiliau sydd eu hangen ar ein myfyrwyr israddedig i ddylunio a chreu adeiladau hyfryd sy'n ymateb i gyd-destunau technolegol, cymdeithasol, diwylliannol, economaidd a phroffesiynol sy'n newid.

Yn Ysgol Pensaernïaeth Cymru, mae eich llwybr i ddod yn bensaer cwbl gymwys yn dechrau gyda’n BSc Astudiaethau Pensaernïol tair blynedd o hyd (Rhan 1). Ar ôl cwblhau’r BSc, gallwch chi symud ymlaen i astudio ein Meistr mewn Pensaernïaeth dwy flynedd o hyd (Rhan 2), lle byddwch chi’n treulio blwyddyn ar leoliad ymarfer pensaernïol, gan ennill profiad proffesiynol.

Y cam olaf yw cwblhau ein PgDip mewn Pensaernïaeth: Ymarfer Proffesiynol (RIBA/ARB Rhan 3) a gyflwynir trwy ddysgu cyfunol, wrth i chi ymgymryd â swydd amser llawn. Wedi'i ddilysu gan RIBA, mae'r diploma hwn yn gyfwerth ag Arholiad RIBA mewn Ymarfer Proffesiynol (Rhan 3), ac yn eich gwneud chi’n gymwys i ymarfer yn bensaer.

Ein cyrsiau

An Architecture student arranges her work on a wall, ready for exhibition

Astudiaethau Pensaernïol (BSc)

Mae'r BSc/MArch yn gynllun gradd unigryw, oherwydd ar ôl i chi orffen eich blwyddyn olaf yn astudio'r radd BSc, rydych yn treulio blwyddyn gyntaf eich gradd MArch yn gwneud ymarfer pensaernïol.