MSc Dulliau Cyfrifiadurol mewn Pensaernïaeth
Mae'r cwrs hwn yn mynd i'r afael â'r galw am weithwyr creadigol proffesiynol sydd â sgiliau ym meysydd TG, saernïo digidol, meddalwedd efelychu, neu'r gallu i gynllunio dulliau datblygu meddalwedd penodol i ddatrys problemau dylunio unigryw.
Bydd ein dull amlddisgyblaethol yn rhoi gwybodaeth a sgiliau i fyfyrwyr fydd yn eu galluogi i ganfod dulliau cyfrifiadurol arloesol i'w defnyddio yn y diwydiannau creadigol a dylunio.
Mae’r rhaglen yn addas ar gyfer graddedigion mewn pensaernïaeth, yr amgylchedd adeiledig, peirianneg sifil, peirianneg bensaernïol a chyfrifiadureg, neu ar gyfer gweithwyr proffesiynol sy'n dymuno datblygu arbenigedd mewn dulliau cyfrifiadurol mewn pensaernïaeth.
Sut i gyflwyno cais
I gael mwy o wybodaeth am gynnwys, strwythur a ffioedd y cwrs a sut i gyflwyno cais, gweler tudalen wybodaeth y cwrs MSc Dulliau Cyfrifiadurol mewn Pensaernïaeth.
Tîm y Cwrs
Cyfarwyddwr y cwrs
Yr Athro Wassim Jabi
Chair in Computational Methods in Architecture
- jabiw@caerdydd.ac.uk
- +44 (0)29 2087 5981
Darlithwyr
Cefnogi Derbyn Myfyrwyr
Gweinyddwr Derbyn Myfyrwyr Pensaernïaeth
For more information on course content, structure, fees and how to apply, please visit our Coursefinder page.