MA Dylunio Trefol

Mae’r rhaglen MA Dylunio Trefol, a gyflwynir ar y cyd gan Ysgol Pensaernïaeth Cymru ac Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio Prifysgol Caerdydd, yn un o’r rhaglenni ôl-raddedig mwyaf o’i bath, gan ddwyn ynghyd arbenigedd cyfunol y ddwy ysgol.
Nod y rhaglen hon yw galluogi ymarferwyr ac ysgolheigion i drawsnewid maes dylunio trefol drwy feddwl yn feirniadol ac ymarfer creadigol.
Mae gan ein MA Dylunio Trefol gysylltiadau â'r Grŵp Dylunio Trefol (UDG). Enillodd un o’n graddedigion MA Dylunio Trefol wobr y myfyriwr yng Ngwobrau Dylunio Trefol Cenedlaethol 2021. Dyma gyflwyniad byr i gyflwyniad buddugol He Wang, 'The Green Loop'.
Yn dod o gefndir daearyddiaeth ddynol, roeddwn i'n meddwl y byddwn i dan anfantais oherwydd fy niffyg gwybodaeth bensaernïol a'm galluoedd technegol. Yn lle hynny, dysgais i fod fy nghefndir ym maes daearyddiaeth yn fuddiol i fy nealltwriaeth o’r cwrs, yn enwedig wrth feddwl am safbwyntiau cymdeithasol, economaidd a gwleidyddol dewisiadau dylunio. Ar ben hynny, mae’r cyfle i gydweithio â chyfoedion o gefndiroedd academaidd gwahanol a chael adborth wythnosol gan diwtoriaid wedi bod yn amhrisiadwy ac yn brofiad dysgu cefnogol y byddwn i yn ei argymell.
Sut i wneud cais
I gael rhagor o wybodaeth am gynnwys, strwythur a ffioedd y cwrs a sut i gyflwyno cais, gweler tudalen wybodaeth y cwrs MA Dylunio Trefol.
Tîm y Cwrs
Cyd-Gyfarwyddwyr y Cwrs

Dr Nastaran Peimani
Senior Lecturer in Urban Design
Co-Director of MA Urban Design
- peimanin@caerdydd.ac.uk
- +44 (0)29 2087 5980
Tîm addysgu craidd
Ysgol Pensaernïaeth Cymru

Dr Nastaran Peimani
Senior Lecturer in Urban Design
Co-Director of MA Urban Design
- peimanin@caerdydd.ac.uk
- +44 (0)29 2087 5980

Angela Ruiz del Portal Sanz
Teacher in Sustainable and Urban Design
- ruizdelportala@caerdydd.ac.uk
- +44 (0)29 2087 6515
Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio
For more information on course content, structure, fees and how to apply, please visit our Coursefinder page.