MA Dylunio Pensaernïol
Mae’r MA Dylunio Pensaernïol ar gyfer myfyrwyr sy’n chwilio am gwrs ôl-raddedig cyfoethog, uwch a difyr sy’n canolbwyntio ar yr agweddau lluosog ar ddylunio ac ymchwilio a’r gwahanol gysylltiadau rhwng y meysydd hyn.
Drwy wneud cwrs MA Dylunio Pensaernïol, bydd myfyrwyr yn datblygu’r sgiliau sydd eu hangen i ddod yn feddylwyr ac yn ymarferwyr dylunio-ymchwilio soffistigedig, a fydd yn eu galluogi i ddefnyddio eu gwybodaeth sy’n seiliedig ar ddylunio mewn amgylcheddau cymhleth.
Llawlyfr MA dylunio pensaernïol 2024
Mae Llawlyfr MA Dylunio Pensaernïol yn cael ei gyhoeddi'n flynyddol ar gyfer yr holl fyfyrwyr ôl-raddedig rhyngwladol, staff a chyfranwyr allanol. Mae'r llawlyfr yn ganllaw i bob agwedd ar raglen meistr MA Dylunio Pensaernïol, gan gynnwys strwythur y cwrs, y dulliau dysgu ac asesu, y modiwlau, yr unedau dylunio a’r cymorth sydd ar gael i fyfyrwyr.
Sut i wneud cais
I gael rhagor o wybodaeth am gynnwys, strwythur a ffioedd y cwrs, gan gynnwys sut i wneud cais, gweler ein tudalen sy’n rhoi gwybodaeth am gwrs MA Dylunio Pensaernïol.
Digwyddiadau allweddol
Dyddiadau | Amserlen |
---|---|
4 Tachwedd 2024 | ART701 (Dylunio ac Ymchwilio Pensaernïol) Adolygiadau beirniadol dros dro’r hydref |
9 Rhagfyr 2024 | ART701 (Dylunio ac Ymchwilio Pensaernïol) Adolygiadau diwedd y tymor |
11 Chwefror 2025 | ART701 (Dylunio ac Ymchwilio Pensaernïol) Adolygiadau beirniadol dros dro’r gwanwyn |
24 Mawrth 2025 | ART701 (Dylunio ac Ymchwilio Pensaernïol) Adolygiadau terfynol |
6 Mai 2025 | ART701 Adolygiadau portffolio + cyflwyniad dyddiadur adlewyrchol |
9 Mai 2025 | ART701 (Dylunio ac Ymchwilio Pensaernïol) Adolygu portffolios |
26 Mai 2025 | ART704 (Traethawd Hir) Dechrau (myfyrwyr nad ydynt yn ailsefyll) |
16 Mehefin 2025 | ART704 (Traethawd Hir) (strwythur uned) Adolygiadau beirniadol dros dro |
7 Gorffennaf 2025 | ART704 (Traethawd Hir) (strwythur uned) Adolygiadau terfynol |
28 Gorffennaf 2025 | ART704 (Traethawd Hir) Adolygiadau dros dro o astudiaethau hunangyfeiriedig (myfyrwyr nad ydynt yn ailsefyll) |
25 Awst 2025 | ART704 (Traethawd Hir) Cyflwyno traethawd hir (myfyrwyr nad ydynt yn ailsefyll) |
3 Hydref 2025 | ART704 (Traethawd Hir) Arholiadau llafar (myfyrwyr nad ydynt yn ailsefyll) |
13 Hydref 2025 | ART704 (Traethawd Hir) Adolygiadau dros dro o astudiaethau hunangyfeiriedig (myfyrwyr o’r CE a’r rhai sy’n ailsefyll) |
10 Tachwedd 2025 | Dyddiad cau terfynol ar gyfer cyflwyno (myfyrwyr o’r CE a’r rhai sy’n ailsefyll) |
19 Tachwedd 2025 | ART704 (Traethawd Hir) Arholiadau llafar (myfyrwyr o’r CE a’r rhai sy’n ailsefyll) |
Unedau dylunio
Byddwch yn gweithio mewn grwpiau bach o’r enw ‘unedau dylunio’ dan arweiniad Arweinydd Uned. Bydd yn diwtor profiadol ym maes dylunio ac ymchwilio pensaernïol. Mae’r unedau’n cynnwys:
- Uned A:H>D_Lahore 2024 Pensaernïaeth a Threftadaeth Gyfoes ar gyfer Datblygiad Cymdeithasol-Economaidd
- Uned B: EcoLoci (2022-2023)
- Uned C: Amgylcheddau Dysgu – Labordy Dylunio Ymchwilio (Labordy LE-DR), Dr Hiral Patel (2022-2023)
- Uned D: DYFROEDD TREFOL, CYRFF, CYSYLLTIADAU/DATGYSYLLTIADAU (2022-2023)
Ceir disgrifiadau llawn o’r unedau yn Llawlyfr MA Dylunio Pensaernïol.
Tîm y cwrs
Cyfarwyddwr y cwrs ac arweinwyr unedau
Dr Federico Wulff
Darllenydd, Pensaernïaeth a Dylunio Trefol MA AD Cyfarwyddwr Cwrs
Dirprwy gyfarwyddwr cwrs
Angela Ruiz Del Portal
Darlithydd mewn Dylunio Cynaliadwy a Threfol
Arweinwyr unedau
Dr Hiral Patel
Uwch Ddarlithydd mewn Pensaernïaeth, Cyfarwyddwr Ymgysylltu
Cynorthwy-ydd addysgu
Cymorth derbyn myfyrwyr
Gweinyddwr Derbyn Myfyrwyr Pensaernïaeth
For more information on course content, structure, fees and how to apply, please visit our Coursefinder page.