Ewch i’r prif gynnwys

Ôl-raddedig a Addysgir

Rydyn ni’n cynnig graddau meistr ar gyfer y rhai sydd â gradd israddedig i ddod yn benseiri cwbl gymwys, yn ogystal â chyrsiau i weithwyr proffesiynol a graddedigion i ennill sgiliau arbenigol, gan adlewyrchu ein cryfderau yn yr amgylchedd adeiledig hanesyddol a chyfoes.

Cyrsiau pensaernïaeth achrededig

Mae ein rhaglenni Meistr mewn Pensaernïaeth (Rhan 2) a Dip.Ôl-radd mewn Pensaernïaeth: Ymarfer Proffesiynol (Rhan 3) dwy flynedd ill dau wedi’u hachredu gan ARB/RIBA.

An architectual design of several geometrically shaped buildings, with a few smll birds above

Meistr Pensaernïaeth (MArch)

Parhewch ar eich taith i ddod yn bensaer cymwys, yn hyderus yn eich gallu i fynd i’r afael â'r heriau a geir mewn byd cystadleuol a newidiol.

DPP

Dip.Ôl-radd mewn Pensaernïaeth: Ymarfer Proffesiynol

Yn y rhaglen hon, bydd myfyrwyr yn meithrin dealltwriaeth drylwyr o agweddau cyfreithiol ac economaidd ymarfer pensaernïol a chaffael ym maes adeiladu yn ogystal â meithrin medrau y bydd eu hangen ar bensaer i weithredu’n effeithiol.

Cyrsiau ôl-raddedig arbenigol

Mae'r cyrsiau i gyd yn ymwneud â rôl yr amgylchedd adeiledig wrth gynhyrchu heriau byd-eang megis newid yn yr hinsawdd. Mewn gwahanol ffyrdd, maen nhw hefyd yn trin a thrafod potensial arferion dylunio ac arloesedd i fynd i'r afael â'r heriau hyn, gan lunio rhagolygon gwell ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol a'n byd cyfunol yn y dyfodol.

Mae rhai ar gael yn rhan-amser neu drwy ddysgu o bell i gefnogi gweithwyr proffesiynol sydd am barhau i ymarfer wrth astudio. Mae llawer hefyd yn integreiddio arbenigedd gan ysgolion eraill y Brifysgol, sy’n gwneud dysgu traws-ddisgyblaethol ac arbenigol yn bosibl.

MA AD 2020

MA Dylunio Pensaernïol

Mae’r rhaglen hon ar gyfer ôl-raddedigion sy’n chwilio am gwrs blaengar ac ysgogol sy’n rhoi pwyslais ar ddylunio ac yn ystyried amryw agweddau dylunio ac ymchwilio a’r ffordd maen nhw’n ymwneud â’i gilydd.

Student looking at posters and architectural designs

MA Dylunio Trefol

Mae’r cwrs hwn, a redir ar y cyd ag Ysgol Bensaernïaeth Cymru, yn galluogi myfyrwyr i ddysgu gan ddefnyddio dylunio, theori, ac arferion dylunio datblygu a rheoli, a fydd yn llywio'r prosesau dylunio trefol.

MDA distance

Gradd Meistr ym maes Gweinyddu Dylunio (MDA)

The aim of this programme is to provide students with in-depth knowledge and understanding of the management and legal aspects of design, and the skills necessary to successfully administer the procurement of design services and building projects.

CMA 2

MSc Dulliau Cyfrifiadurol Pensaernïaeth

Mae'r cwrs hwn yn mynd i'r afael â'r galw am weithwyr creadigol proffesiynol sydd â sgiliau ym meysydd TG, saernïo digidol a meddalwedd efelychu, neu sydd â'r gallu i gynllunio dulliau datblygu meddalwedd penodol i ddatrys problemau dylunio unigryw.

Distance learning students study environmental design of buildings with sustainable practices

MSc Dylunio Adeiladau’n Amgylcheddol

Nod ein cwrs yw datblygu gwybodaeth ac arbenigedd ynghylch dylunio amgylcheddau iach a chyfforddus mewn adeiladau ac o'u cwmpas, beth bynnag fo'r hinsawdd, gan roi sylw priodol i faterion cynaliadwyedd.

SBC banner image

MSc Cadwraeth Adeiladau Gynaliadwy

Mae cwrs achredig Sefydliad Gwarchod Adeiladau Hanesyddol (HBC) yn ceisio bod yn unigryw ymysg ysgolion ym Mhrydain mewn dwy ffordd: