Mae ein hynodrwydd yn ysgol bensaernïaeth yn ganlyniad i’n ffocws hirsefydlog ar gynaliadwyedd a lles cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol, a’n lleoliad unigryw yng nghanol dinas fywiog Caerdydd, prifddinas Cymru gyda’i threftadaeth gyfoethog a’i diwylliannau a thirweddau amrywiol.
A ninnau’n sefydliad sy'n arwain y byd ac sy'n pennu’r agenda, rydyn ni’n mynd ati i feithrin amgylchedd cydweithredol ar gyfer addysgu ac ymchwil. Rydyn ni’n frwd dros amrywiaeth a natur drawsddisgyblaethol pensaernïaeth, ac yn ceisio rhagoriaeth mewn addysg ac ymchwil ym meysydd dylunio, y celfyddydau, y dyniaethau a'r gwyddorau.