Ap y Myfyrwyr
Dyma ein polisi preifatrwydd a'n datganiad hygyrchedd ynghylch ap y myfyrwyr.
Ein polisi ar breifatrwydd
Mae eich preifatrwydd yn bwysig inni, ac mae'r hysbysiad hwn yn nodi'r wybodaeth a gaiff ei chasglu wrth ichi ddefnyddio ap myfyrwyr Prifysgol Caerdydd ac at ba ddiben y caiff ei defnyddio.
Data ar ddefnydd
Mae’r ap yn casglu ystadegau ap (esboniad pellach ar gael isod), sy'n cael eu cynnal a'u rheoli gan gwmni trydydd parti (Google, Inc.) yn ogystal ag anfon gwybodaeth yn dilyn chwalfa. Caiff dewisiadau’r defnyddiwr eu cadw ar y ddyfais.
Pan fyddwch yn mewngofnodi i'r ap gan ddefnyddio'ch manylion Prifysgol, efallai y byddwn yn prosesu gwybodaeth bersonol fel y nodir yn ein hysbysiad diogelu data ar gyfer myfyrwyr ac ymgeiswyr. Bydd hyn yn personoli eich profiad gyda’r ap a'n helpu i gynnig cyfathrebiadau perthnasol. Er enghraifft, efallai y byddwn yn anfon cyfathrebiadau atoch am eich cwrs neu'n dangos statws y cyfleusterau sydd yn eich llety. Cedwir y wybodaeth hon yn unol â pholisi cadw data'r brifysgol neu am hyd at ddwy flynedd ar ôl y tro diwethaf i chi fewngofnodi.>
Hwyrach y bydd gwybodaeth am ddefnydd hefyd yn cynnwys monitro’r defnydd er mwyn gwella'r gwasanaeth a'r broses o gyfathrebu
Anfon gwybodaeth yn dilyn chwalfa a gwallau
Rydyn ni’n casglu gwybodaeth ddienw yn dilyn chwalfa sy'n cynnwys gwneuthuriad a model y ddyfais, fersiwn y system weithredu a’r cyfeiriad IP, a hynny drwy Sentry. Rydyn ni’n casglu'r wybodaeth hon i'n helpu i wella’r profiad o ddefnyddio’r ap. Nid yw'r wybodaeth hon yn cael ei chadw mewn ffordd a all arwain at y posibilrwydd rhesymol y bydd defnyddwyr unigol yn cael eu hadnabod, ac nid oes angen gwneud hynny arnon ni. Beth bynnag, mae'r wybodaeth yn cael ei storio'n ddiogel, a bydd ar gael i'r rheiny y mae’n rhaid iddyn nhw ei defnyddio i adolygu'r defnydd o’r ap.
Efallai y bydd Google/Apple yn casglu ystadegau ynghylch y defnydd ohono yn ogystal â gwybodaeth yn dilyn chwalfa, a gallwch chi weld sut maen nhw’n defnyddio eich data fel rhan o’r telerau a’r amodau yn Play Store ac App Store.
Diogelu data
Ewch i’n tudalennau ar ddiogelu data i gael rhagor o wybodaeth am ein Polisi Diogelu Data, eich hawliau a sut i fynegi pryder ynghylch y ffordd y mae eich data personol yn cael ei brosesu. Gallwch chi hefyd ddarllen einhysbysiad preifatrwydd ynghylch y wefan sy'n nodi sut y caiff data personol ei ddefnyddio a’i gasglu pan fyddwch chi’n defnyddio’r ap. Gallwch chi gysylltu â’n Swyddog Diogelu Data yn uniongyrchol drwy ebostio inforequest@caerdydd.ac.uk. Gallwch chi hefyd fynegi pryderon drwy gysylltu â Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO).
Prosesu Delwedd
Datganiad hygyrchedd ar gyfer ap myfyrwyr Prifysgol Caerdydd
Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn gymwys i ap myfyrwyr Prifysgol Caerdydd.
Mae’r ap hwn yn cael ei gynnal gan Brifysgol Caerdydd. Rydym am i gymaint o bobl â phosibl allu defnyddio’r ap hwn. Er enghraifft, mae hynny’n golygu y dylech allu:
- chwyddo’r sgrîn i wneud popeth yn fwy ac yn gliriach
- gwrando ar y rhan fwyaf o'r ap drwy ddefnyddio darllenydd sgrîn
Rydym hefyd wedi gwneud y testun mor syml â phosibl i’w ddeall a defnyddio ffontiau cyferbyniad uchel.
Mae gan AbilityNet gyngor ar wneud eich dyfais yn haws ei defnyddio os oes gennych anabledd.
Pa mor hygyrch yw’r ap hwn
Rydym yn gwybod nad yw rhai rhannau o’r ap hwn yn gwbl hygyrch:
- Efallai na fydd dolenni i gynnwys trydydd parti’n gwbl hygyrch, gan ddibynnu ar y cynnwys.
- Nid oes gan ddelweddau ffrwd newyddion gyfieithiadau testunol os yw’r delweddau’n cynnwys testun.
- Efallai na fydd yr amserlen yn gwbl hygyrch.
Adborth a manylion cyswllt
Rydym bob amser yn ystyried ffyrdd o wella hygyrchedd yr ap hwn. Os byddwch yn cael unrhyw broblemau nad ydynt wedi’u rhestru ar y dudalen hon, yn credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd neu am roi unrhyw adborth ar yr ap hwn, gallwch gysylltu â ni:
- ebostiwch studentappfeedback@caerdydd.ac.uk
- ffoniwch +44 (0)29 2087 4000
Byddwn yn ystyried eich cais ac mewn cysylltiad â chi cyn pen 30 diwrnod.
Rhoi gwybod am broblemau sy’n ymwneud â hygyrchedd yr ap hwn
Rydym bob amser yn ystyried ffyrdd o wella hygyrchedd yr ap hwn. Os ydych yn cael unrhyw broblemau nad ydynt wedi’u rhestru ar y dudalen hon, neu os ydych yn credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, ebostiwch studentappfeedback@caerdydd.ac.uk
Gweithdrefn orfodi
Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) sy’n gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau Ffonau Symudol) (Rhif 2) 2018 (‘y rheoliadau hygyrchedd’). Os nad ydych yn fodlon ar sut rydym yn ateb eich cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cyngor a Chymorth Cydraddoldeb (EASS).
Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd yr ap hwn
Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i wneud ei hapiau’n hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau Ffonau Symudol) (Rhif 2) 2018.
Statws cydymffurfio
Mae’r wefan hon yn cydymffurfio’n rhannol â safon AA yn y Canllawiau ar Hygyrchedd Cynnwys Gwefannau – fersiwn 2.1 oherwydd cyfuniad o ddiffyg cydymffurfio ac eithriadau a restrir isod:
Cynnwys anhygyrch
Mae’r cynnwys a restrir isod yn anhygyrch am y rhesymau canlynol.
- Ni allwn reoli cynnwys trydydd parti ac, o'r herwydd, ni ellir sicrhau ei fod yn hygyrch.
- Mae eitemau ffrwd newyddion yn gynnwys sy’n cael ei gynhyrchu gan ddefnyddwyr, ac ni ellir sicrhau bod unrhyw destun yn briodol.
- Mae’r amserlen yn defnyddio meddalwedd trydydd parti sy’n cyfyngu ar y gallu i’w haddasu.
Beth rydym yn ei wneud i wella hygyrchedd
Rydym bob amser yn ystyried ffyrdd o wella hygyrchedd ac yn gwneud gwelliannau’n aml. Os oes gennych unrhyw awgrymiadau pellach, ebostiwch studentappfeedback@caerdydd.ac.uk
Paratoi'r datganiad hygyrchedd hwn
Paratowyd y datganiad hwn ar 06/08/2021.
Rydym yn profi hygyrchedd yr ap yn rheolaidd ac yn gwneud gwelliannau’n barhaus o ganlyniad i'r profion hyn.