Ewch i’r prif gynnwys

Cynnig cefnogaeth o ran gyrfaoedd

Dangoswch beth ellir cael ei gyflawni gyda gradd o Brifysgol Caerdydd drwy rannu eich profiadau gyrfa neu roi cyfleoedd i fyfyrwyr, a’u cefnogi gyda’u gyrfaoedd yn y dyfodol.

Gwnewch gyflwyniad gyrfaoedd neu ymunwch â phanel

Bydd ein myfyrwyr yn elwa’n fawr o gael gwybodaeth uniongyrchol gan gyn-fyfyrwyr profiadol a llwyddiannus. Drwy rannu eich gwybodaeth a'ch cyngor yn rhan o banel gyrfaoedd neu gyflwyniad, gallwch roi gwybodaeth a chyngor i'n myfyrwyr ar eu gyrfaoedd yn y dyfodol.

Mynegwch eich diddordeb

Cynnig interniaeth

A allai eich cwmni gynnig interniaeth â thâl i fyfyriwr presennol neu fyfyriwr graddedig ifanc?

P'un a ydych yn byw yn y DU neu dramor, rydyn ni’n awyddus i gynyddu’r nifer o interniaethau â thâl sydd ar gael i’n myfyrwyr.

A chithau’n gyn-fyfyriwr, bydd eich sefydliad yn elwa o frwdfrydedd, sgiliau a gwybodaeth y myfyrwyr; ar yr un pryd a’u cefnogi nhw i benderfynu ar eu cynlluniau o ran gyrfa.

Mae cyfleoedd interniaeth yn rhoi cyfle gwerthfawr i fyfyrwyr cyfredol gael profiad gwaith, ond hefyd yn bwysicaf oll, i elwa o gyn-fyfyrwyr sydd wedi bod yn llwyddiannus yn eu meysydd.

Rhagor o wybodaeth

Hanesion cefnogaeth o ran gyrfaoedd

Ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o fyfyrwyr ym maes y gyfraith

Roedd Nneka Akudolu (LLB 2001, PgDip 2002, Hon 2023) eisiau rhannu ei phrofiad a'i gwybodaeth, a dychwelodd i roi sgwrs gyrfaoedd i fyfyrwyr yn Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth.

Ysbrydoli talent greadigol y dyfodol

Diwrnod y Diwydiant Ysgrifennu Creadigol yn agor drysau am y tro cyntaf ym Mhrifysgol Caerdydd