Cynigiwch interniaeth neu leoliad gwaith
Manteisiwch ar dalent, angerdd a syniadau y gall ein myfyrwyr eu cynnig i’ch sefydliad a chyflogi arweinwyr yfory heddiw.
Mae cyfleoedd yn y gweithle yn gallu para unrhyw hyd rhwng pythefnos a blwyddyn, gyda sefydliadau o bob maint, a gallen nhw ddigwydd unrhyw le yn y byd. Llenwch ein ffurflen ar-lein i fynegi eich diddordeb.
Holl wasanaethau asiantaeth, ond heb y gost
Mae ein tîm yn ddolen gyswllt rhwng cyflogwyr a myfyrwyr er mwyn rheoli'r broses o drefnu lleoliadau ar eich rhan, gan arbed eich amser ar ddisgrifiadau swydd a llunio rhestr fer.
Mae cyfleoedd yn amrywio o leoliadau tymor-byr, interniaethau haf, swyddi blwyddyn neu brosiectau busnes byw, ac rydym yn gweithio gyda holl gyflogwyr o bob maint o BBaChau i recriwtwyr rhyngwladol mawr.
Rwy’n credu ei bod yn hanfodol annog cynfyfyrwyr i gynnig interniaethau – fel gwaith ystyrlon, cyflogedig. Mae'n ein cysylltu â chenedlaethau eraill, yn cadw syniadau yn ffres, yn herio ein ffordd o weithio, yn ein hatgoffa pam yr ydym yn gwneud yr hyn rydym yn ei wneud, ac mae’n sicr wedi newid y ffordd rwy'n gweithio gyda phobl. Mae pob un o'r tri intern wedi dysgu gymaint i mi wrth gydweithio â nhw, a byddwn yn argymell unrhyw un i ddilyn y rhaglen mewn amrantiad.
Sut mae'n gweithio
- Llenwch ein ffurflen gais ar-lein a bydd aelod o’r tîm cysylltiadau cynfyfyrwyr yn cysylltu â chi i drafod gofynion pellach.
- Creu manyleb swydd a threfnu dyddiad y cyfweliad.
- Hysbysebu'r swydd i fyfyrwyr drwy Gyfrif Gyrfaoedd y myfyrwyr.
- Ceisiadau’n cael eu rhoi ar restr fer a'u hanfon atoch.
- Y cyflogwr yn cyfweld ac yn penodi'r ymgeisydd llwyddiannus.
Manylion cyswllt
Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch y gwirfoddoli, cysylltwch â ni:
Cysylltiadau Datblygu a Chynfyfyrwyr
Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n cael y newyddion diweddaraf i gynfyfyrwyr, a chadw mewn cysylltiad gyda Phrifysgol Caerdydd drwy gyflwyno eich gwybodaeth gyswllt gyfredol.