Ewch i’r prif gynnwys

Dod yn fentor

Counselling appointment for young asian woman student in counsellor College office. Horizontal indoors waist up shot with copy space.

Gallwch gefnogi cyn-fyfyrwyr neu fyfyrwyr presennol drwy ein rhaglenni mentora.

Ni waeth faint o amser y gallwch ei roi, mae ein rhaglenni hyblyg yn cynnig dewis o fentora untro, anffurfiol, neu strwythuredig, i’ch siwtio chi.

Yn ogystal â chefnogi eraill, gall mentora eich helpu i ddatblygu sgiliau newydd, gwella eich CV, ac adeiladu eich rhwydwaith proffesiynol.

Menywod yn Mentora

Mae ein rhaglen flynyddol Menywod yn Mentora (Womentoring) wedi'i chynllunio i ysbrydoli a grymuso'r genhedlaeth nesaf o gyn-fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd, ac mae’n cysylltu mentoriaid benywaidd ar frig eu meysydd mewn diwydiannau megis y gyfraith, technoleg, cyllid, gweithgynhyrchu a chyhoeddi, â mentoreion ar ddechrau eu gyrfa

Mae'r rhaglen fflach-fentora hon, a gynhelir ym mis Mawrth bob blwyddyn, yn cael effaith fawr ar fentoriaid a mentoreion mewn amser byr. Neilltuir hyd at dri mentorai i bob mentor, ac yn ystod y mis, maent yn cynnal cymysgedd o sesiynau grŵp ac un-i-un. Mae rhaglen Menywod yn Mentora yn gyfle traws-gynhwysol. Mae nodweddion allweddol Menywod yn Mentora yn cynnwys:

  • fflach-fentora
  • cyn-fyfyrwyr i gyn-fyfyrwyr
  • ar-lein
  • pedwar wythnos yn ystod mis Mawrth

Os oes gennych ddiddordeb mewn cymryd rhan yn y rhaglen Menywod yn Mentora nesaf, e-bostiwch alumni@caerdydd.ac.uk.

Mentora myfyriwr

Dan arweiniad ein tîm gyrfaoedd Dyfodol Myfyrwyr, mae Cynllun Mentora Gyrfa Prifysgol Caerdydd yn gyfle i fyfyrwyr elwa o drafod eu cynlluniau gyrfa gyda gweithiwr proffesiynol profiadol yn eu maes dewisol. Mae mentoriaid o gyn-fyfyrwyr yn cael eu paru â mentoreion o fyfyrwyr a darperir fframwaith ar gyfer sgyrsiau.

Bydd disgwyl i chi gyfarfod am o leiaf chwe sesiwn dros gyfnod o bedwar mis rhwng mis Ionawr a mis Ebrill. Byddwn yn recriwtio ar gyfer y cynllun rhwng Medi - Tachwedd a bydd unrhyw ddatganiadau o ddiddordeb a gyflwynir ar ôl hyn yn cael eu hystyried y flwyddyn wedyn. Mae nodweddion allweddol y rhaglen hon yn cynnwys:

  • mentora anffurfiol
  • cyn-fyfyrwyr i fyfyrwyr
  • ar-lein neu wyneb yn wyneb
  • pedwar mis – Ionawr i Ebrill

Os oes gennych ddiddordeb mewn cymryd rhan yn y rhaglen fentora myfyrwyr nesaf, e-bostiwch alumni@caerdydd.ac.uk.

Mentora anffurfiol ar Cysylltiad Caerdydd

Helpwch eich cyd-gyn-fyfyrwyr drwy gynnig mentora a chymorth gyrfaol arall drwy ein platfform rhwydweithio ar-lein, Cysylltiad Caerdydd. Mae Cysylltiad Caerdydd yn gyflym, yn hawdd ac yn hyblyg, ac mae’n ei gwneud hi'n hawdd i gyn-fyfyrwyr sy'n cynnig neu'n ceisio mentora ddod o hyd i'r person perffaith. Gallwch chwilio yn ôl diwydiant, lleoliad, neu’r pwnc a astudir, a chynnig cymaint neu gyn lleied o amser ag sy'n addas i chi. Mae nodweddion allweddol mentora Cysylltiad Caerdydd yn cynnwys:

  • mentora anffurfiol
  • cyn-fyfyrwyr i gyn-fyfyrwyr
  • ar-lein
  • hyblyg o ran hyd ac amseru

Dyma ffordd wych o adeiladu'ch rhwydweithiau o fewn y gymuned cynfyfyrwyr, a helpu'r rheiny sydd angen cymorth, heb ymrwymo i berthynas fentora hirach am dymor penodol. Cofrestrwch ar gyfer Cysylltiad Caerdydd.