Ewch i’r prif gynnwys

Dylanwadu ar y genhedlaeth nesaf

Cefnogwch y genhedlaeth nesaf o fyfyrwyr a chyn-fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd drwy rannu eich arbenigedd a'ch profiad. Mae sawl ffordd o gymryd rhan.

Cwblhau proffil cyn-fyfyrwyr

Yr amser sydd ei angen: 10 munud

Rhannwch yr hyn y gallwch chi ei gyflawni drwy ennill gradd o Brifysgol Caerdydd i ysbrydoli myfyrwyr presennol a myfyrwyr y dyfodol. Dywedwch wrthym am eich profiadau, eich llwyddiannau a'ch cyflawniadau. Hwyrach y caiff eich proffil ei ddefnyddio ar-lein, ar gyfryngau cymdeithasol, neu mewn prosbectysau, cylchgronau a deunyddiau hyrwyddo eraill. Os hoffech gymryd rhan, llenwch ein ffurflen fer.

Mynegwch eich diddordeb

Ysgrifennwch erthygl ar gyfer ein blog - I Gyn-fyfyrwyr, gan Gyn-fyfyrwyr

Yr amser sydd ei angen: 2 awr

‘I Gyn-fyfyrwyr, Gan Gyn-fyfyrwyr’ yw ein cyfres o flogiau sy’n rhoi sylw i’r straeon yr hoffech chi sôn amdanyn nhw wrth eich cyfoedion. Wedi bod yn rhan o brosiect cymunedol arbennig? Ydy eich ymchwil neu eich sefydliad yn arloesol ac yn datrys problemau? Ydy eich gwaith yn grymuso neu’n hyrwyddo amrywiaeth? Eisiau rhannu eich atgofion o Gaerdydd, neu dynnu sylw at eich diddordebau?

Rhagor o wybodaeth

Cyfranwyr 'Bossing It' - Rhannwch eich cyngor o ran gyrfa ar 'Bossing It'

Yr amser sydd ei angen: 30 munud

Mae ein cyfres blogiau 'Bossing It' yn dwyn ynghyd gyngor ar yrfaoedd gan ystod o gyn-fyfyrwyr. Mae cyn-fyfyrwyr llwyddiannus yn rhannu eu profiadau ym mhob rhifyn i helpu cenhedlaeth nesaf cyn-fyfyrwyr Caerdydd. Mae'r rhain yn cynnwys awgrymiadau ymarferol ar gyfweliadau a CVs, blas ar fyd gwaith, ac ati. Rydyn ni’n edrych am gyfranwyr a syniadau ar gyfer pynciau yn y dyfodol.

Rhagor o wybodaeth