Cydweithio â ni
Gall cyn-fyfyrwyr weithio gyda'r brifysgol i ddod ag amrywiaeth o fuddion i'w gweithle.
Recriwtio graddedigion Caerdydd
Gall ein Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd eich helpu i gael mynediad at y myfyrwyr mwyaf dawnus a brwdfrydig ar gyfer swyddi gwag i raddedigion yn eich sefydliad. Gall y tîm hysbysebu eich rolau yn rhad ac am ddim a'u hyrwyddo i fyfyrwyr a graddedigion diweddar. Gallwch hefyd hysbysebu swyddi ac arddangos eich sefydliad yn ein ffeiriau gyrfaoedd blynyddol, gan eich helpu i gwrdd â'n myfyrwyr wyneb yn wyneb fel rhan o'ch ymgyrch recriwtio graddedigion.
Cynnig interniaeth i fyfyrwyr
Manteisiwch ar dalent, angerdd a syniadau y gall ein myfyrwyr eu cynnig i’ch sefydliad a chyflogi arweinwyr yfory heddiw. Mae cyfleoedd yn y gweithle yn gallu para unrhyw hyd rhwng pythefnos a blwyddyn, gyda sefydliadau o bob maint, a gallen nhw ddigwydd unrhyw le yn y byd. Rhagor o wybodaeth.
Ysgol Busnes Caerdydd
Mae Ysgol Busnes Caerdydd yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau, digwyddiadau a chyfleoedd ar gyfer cydweithredu sy'n cefnogi busnesau ac entrepreneuriaid. Rhagor o wybodaeth.
Datblygiad Proffesiynol
Mae Ysgol Busnes Caerdydd yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau, digwyddiadau a chyfleoedd ar gyfer cydweithredu sy'n cefnogi busnesau ac entrepreneuriaid. Dysgwch ragor am sut y gallant gefnogi eich busnes..
Codi arian corfforaethol
Gall eich cwmni gefnogi ymchwil Prifysgol Caerdydd ym maes y niwrowyddorau ac iechyd meddwl neu ymchwil canser, sy'n newid bywydau, ac ymgysylltu â'ch staff drwy godi arian corfforaethol. Gall codi arian gyda chydweithwyr helpu i roi hwb i ysbryd tîm a hyrwyddo iechyd a lles cadarnhaol. Mae hefyd yn ffordd wych o fodloni amcanion cyfrifoldeb corfforaethol ac arddangos cefnogaeth eich sefydliad i ymchwil byd-eang, sy'n digwydd yma yng Nghaerdydd.
Dysgwch ragor am drefnu i dîm corfforaethol redeg Hanner Marathon Caerdydd neu gymryd rhan mewn gweithgareddau codi arian eraill fel heriau neu ddigwyddiadau.
Ym Mhrifysgol Caerdydd, mae ein cymuned fyd-eang o gynfyfyrwyr yn chwarae rhan weithredol yn ein dyfodol uchelgeisiol. Rhowch eich amser, eich arbenigedd a'ch profiad i gefnogi ac ysbrydoli myfyrwyr a'ch cyd-gyn-fyfyrwyr.