Ewch i’r prif gynnwys

Cymunedau ar-lein

Mae ymuno ag un o’n cymunedau ar-lein yn ffordd wych o gadw mewn cysylltiad â holl bethau Prifysgol Caerdydd ar ôl i chi raddio.

Byddwch yn ymuno â miloedd o gyn-fyfyrwyr gyda phrofiad a rennir o Gaerdydd. Rhwydweithio yn fyd-eang ac yn lleol, darganfyddwch y diweddaraf am Gaerdydd, a mwynhewch ychydig o hiraeth am eich dyddiau prifysgol.

Noder bod y platfform rhwydweithio cyn-fyfyrwyr Cysylltiad Caerdydd wedi cau ym mis Ebrill 2025.

Byddwch yn ymuno â miloedd o gyn-fyfyrwyr gyda phrofiad a rennir o Gaerdydd. Rhwydweithio yn fyd-eang ac yn lleol, darganfyddwch y diweddaraf am Gaerdydd, a mwynhewch ychydig o hiraeth am eich dyddiau prifysgol.

Ymunwch â grŵp LinkedIn

Mae Rwydwaith Cyn-fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd yn grŵp LinkedIn swyddogol ar gyfer graddedigion Prifysgol Caerdydd a’r sefydliadau a’i rhagflaenodd. Mae hwn yn le i chi gysylltu â chyn-fyfyrwyr eraill, datblygu eich rhwydwaith proffesiynol a rhannu manylion swyddi a chyfleoedd.

Rhwydwaith i’n cyn-fyfyrwyr rwydweithio, rhannu’r wybodaeth ddiweddaraf a chael trafodaethau ystyrlon yw Rhwydwaith Cyn-fyfyrwyr Ysgol Busnes Caerdydd.

Ymunwch â chymuned ar-lein yn agos atoch chi

Mae yna lawer o ffyrdd gwych o gysylltu â’n Canghennau byd-eang ar-lein. Darganfod mwy am gymunedau ar-lein yn eich ardal chi.

Ymunwch â grŵp Facebook

Mae miloedd o gynfyfyrwyr Prifysgol Caerdydd yn aelodau o’n grwpiau Facebook. Mae’n le gwych i rannu atgofion, dod o hyd i hen ffrindiau a rhannu eich newyddion.

Pan fyddwch yn gwneud cais i ymuno, gofynnir ambell i gwestiwn syml er mwyn gwirio pwy ydych chi. Gofynnwn i bob aelod barchu rheolau’r grŵp.

Cynfyfyrwyr 1950-1959
Cynfyfyrwyr 1960-1969
Cynfyfyrwyr 1970-1979
Cynfyfyrwyr 1980-1989
Cynfyfyrwyr 1990-1999
Cynfyfyrwyr 2000-2009
Cynfyfyrwyr 2010-2019
Cynfyfyrwyr 2020-2029