Ewch i’r prif gynnwys

Buddion i gyn-fyfyrwyr

Fel cyn-fyfyriwr Prifysgol Caerdydd, mae gennych fynediad at ystod o wasanaethau a buddion unigryw sydd wedi'u cynllunio i gyfoethogi eich bywyd ar ôl graddio a'ch cefnogi drwy gydol eich gyrfa.

Er mwyn sicrhau eich bod yn manteisio ar y gwasanaethau hyn, gwnewch yn siŵr eich bod yn diweddaru eich manylion cyswllt.

Cefnogaeth yrfaol am dair blynedd

Fel cyn-fyfyriwr, mae gennych yr hawl i gael cymorth gyrfaol wedi'i deilwra gan Ddyfodol Myfyrwyr am hyd at dair blynedd ar ôl i'ch cwrs ddod i ben. Cofrestrwch i gael cyngor gyrfaol personol, arweiniad CV a llythyron eglurhaol, sesiynau hyfforddi a chyfweliadau ffug.

Gostyngiad ar astudiaethau ôl-raddedig

Os ydych chi'n ystyried astudiaethau pellach, gallech elwa o’r cynllun gostyngiad i gynfyfyrwyr ar gyfer astudiaethau ôl-raddedig. A chithau’n gyn-fyfyriwr ym Mhrifysgol Caerdydd, rydych chi'n gymwys i gael gostyngiad o 20% oddi ar ffioedd dysgu ar raglenni meistr amser llawn a rhan-amser cymwys ar y campws.

Cymuned cyn-fyfyrwyr byd-eang Caerdydd ar flaenau eich bysedd

Cysylltiad Caerdydd yw'r platfform rhwydweithio ar gyfer ein cymuned o gyn-fyfyrwyr. Mae miloedd o gyn-fyfyrwyr yn cynnig cymorth ac yn barod i helpu. Cysylltwch â chyn-fyfyrwyr o'ch diwydiant, estyn allan am gyflwyniadau, rhannu eich cyfleoedd neu ddod o hyd i fentor. Ymunwch â phlatfform Cysylltiad Caerdydd heddiw a gwnewch y cysylltiadau fydd yn eich rhoi ar ben y ffordd.

Gwahoddiadau i ddigwyddiadau

A chithau’n gyn-fyfyriwr o Brifysgol Caerdydd, byddwch yn cael gwahoddiadau unigryw i lansiadau, sesiynau rhwydweithio, trafodaethau a darlithoedd Prifysgol Caerdydd. I wneud yn siŵr eich bod yn clywed am y digwyddiadau, cofrestrwch ar gyfer e-byst i gyn-fyfyrwyr.

Gostyngiadau oddi ar nwyddau Prifysgol Caerdydd

Mae siop Undeb Myfyrwyr Caerdydd yn gwerthu dillad a nwyddau swyddogol Prifysgol Caerdydd gan gynnwys deunyddiau ysgrifennu ac anrhegion. I gael gostyngiadau a chynigion rheolaidd i gyn-fyfyrwyr, gwnewch yn siŵr eich bod wedi cofrestru i gael e-gylchlythyr misol Cyswllt Caerdydd.

Gwasanaethau llyfrgelloedd

Fel cynfyfyriwr mae gennych fynediad at lyfrgelloedd y Brifysgol a gallwch fenthyg hyd at 6 eitem ar y tro, heb gynnwys eitemau benthyciad byr. Mae aelodaeth yn rhad ac am ddim am y flwyddyn gyntaf, ac yn costio dim ond £10 y flwyddyn wedi hynny. Mae rhai adnoddau electronig penodedig ar gael hefyd drwy ddefnyddio’r mynediad Cerdded-i-Mewn i’n gwasanaeth Adnoddau Electronig.

Os oes gennych chi ymholiadau, ewch i dudalen y Llyfrgelloedd i gael rhagor o wybodaeth.

Cyfleusterau chwaraeon

Gall cyn-fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd ddefnyddio’r ystod lawn o gyfleusterau chwaraeon a ffitrwydd ar sail talu fesul tro neu brynu aelodaeth am bris gostyngol. Mae hyn yn cynnwys defnyddio’r campfeydd, yr ystafelloedd cryfder a chyflyru a’r dosbarthiadau ffitrwydd faint bynnag a fynnwch.

I gael rhagor o wybodaeth neu i gofrestru, ewch i’r dderbynfa yn y Ganolfan Ffitrwydd a Chyflyru (Heol Senghennydd) neu yn y Pentref Hyfforddiant Chwaraeon (Tal-y-bont) gan ddangos prawf o'ch Rhif Aelodaeth Cyn-fyfyriwr. Unwaith y byddwch chi wedi cofrestru gallwch chi ddechrau defnyddio ein cyfleusterau chwaraeon ar unwaith a threfnu cyfleusterau ar-lein gan ddefnyddio ap Chwaraeon Prifysgol Caerdydd.