Cadw mewn cysylltiad
![Ein graddedigion yn dathlu wedi graddio](https://cardiff.imgix.net/__data/assets/image/0004/28075/20118.jpg?w=575&ar=16:9&q=80&auto=format)
Mae’r profiadau a gewch yng Nghaerdydd yn mynd y tu hwnt i’ch amser ar y campws. Mae’n aelodaeth rad ac am ddim i gymuned o dros 210,000 o gynfyfyrwyr.
Mae ystod o wasanaethau dethol ar gael i gynfyfyrwyr i cyfoethogi eich bywyd ar ôl graddio. Er mwyn manteisio ar y gwasanaethau hyn, gwnewch yn siŵr eich bod yn diweddaru eich manylion.
Ym Mhrifysgol Caerdydd, mae ein cymuned fyd-eang o gynfyfyrwyr yn chwarae rhan weithredol yn ein dyfodol uchelgeisiol. Rhowch eich amser, eich arbenigedd a'ch profiad i gefnogi ac ysbrydoli myfyrwyr a'ch cyd-gyn-fyfyrwyr.