Gwobrau (tua)30 2022
Darllenwch straeon enillwyr gwobrau (tua) 30 sy’n rhan o’n rhestr derfynol o gynfyfyrwyr o Brifysgol Caerdyddsy’n arloesi ac yn torri tir newydd yn ogystal â rheolau.
Bu Gwobrau (tua) 30 cyntaf Prifysgol Caerdydd yn dathlu llwyddiannau cynfyfyrwyr sydd wedi gwneud cyfraniad cadarnhaol i'w cymuned, a'r cyfan cyn eu bod yn 30 oed. Wel, (tua) 30 oed.
Gan osgoi’r fformat traddodiadol o gael rhestr o '30 o dan 30', roedd Gwobrau (tua) 30 yn agored i gynfyfyrwyr o dan 30, yn ogystal â rhai hŷn, ond sy'n teimlo eu bod (tua) 30. Cafodd y Gwobrau eu creu i gydnabod cynfyfyrwyr o Brifysgol Caerdydd sydd wedi creu newid, arloesi a thorri tir newydd. Cafwyd ymateb anhygoel, gyda bron i 300 o enwebiadau yn cael eu cyflwyno. Wel, (tua) 300.
Cafodd cynfyfyrwyr o bob cwr o'r byd ac ystod eang o ddiwydiannau eu henwebu naill ai ganddyn nhw eu hunain neu gynfyfyrwyr eraill, staff neu gydweithwyr.
Ar ôl cryn ystyriaeth, dewiswyd enillwyr (tua) 30 a'u gwahodd i ddigwyddiad gwobrwyo arbennig ar 20 Hydref/neithiwr a gynhaliwyd yn adeilad sbarc | spark arloesol y Brifysgol. Cyflwynwyd y noson gan Gadeirydd y Cyngor a'r cynfyfyriwr, Pat Younge (BSc 1987), a'r cynfyfyriwr Babita Sharma (BA 1998) oedd meistr y seremonïau. Daeth tua 70 o gynfyfyrwyr, gwesteion a staff i'r noson arbennig hon, gyda chynfyfyrwyr yn teithio o UDA, Canada ac Ewrop i dderbyn eu gwobrau.
Gwyliwch fideo Gwobrau (tua)30 2022
Rydym wedi trefnu'r rhestr yn grwpiau i'ch helpu i lywio drwy straeon ein henillwyr:
Gweithredwr Cymunedol
Mae'r grŵp hwn o'n henillwyr i gyd yn weithredwyr cymunedol. Maent wedi cael eu cydnabod am fynd y tu hwnt i’r disgwyl ar gyfer cymuned, gan gyflawni newid - yn unigol a gydag eraill o'u cwmpas - i greu effaith gadarnhaol.
Jamilla Hekmoun (MA 2018)
Trefnydd cymunedol | Eiriolwr iechyd meddwl | Gwirfoddolwr
Derbynnydd Gwobr Cydnabyddiaeth Arbennig y Gweithredwr Cymunedol
Jamilla yw cadeirydd y Cynghrair Iechyd Meddwl Mwslimaidd a bu'n gweithio'n ddiflino drwy gydol y pandemig i ddarparu adnoddau iechyd meddwl i'r gymuned Fwslimaidd. Mae hi'n aelod o Fwrdd Cyngor Mwslimaidd Cymru, lle helpodd i drefnu Eid yn y Castell - un o'r digwyddiadau peilot cyntaf ar ôl COVID.
Mae hi hefyd yn aelod o fwrdd y Llinell Gymorth i Ieuenctid Mwslimaidd. Mae'r angerdd yma’n amlwg hefyd yn ei chymuned leol lle mae'n arwain gwaith Ymgysylltu â Chymunedau ar gyfer SEF-Cymru.
Mae Jamilla hefyd yn gwirfoddoli i Sefydliad Faraj, sy'n helpu pobl nid er elw i gael eu grymuso’n economaidd. Mae hi'n angerddol am helpu i leihau stigma ynghylch iechyd meddwl. Mae hi wedi ysgrifennu pennod mewn llyfr, "It's not about the Burqa" lle mae hi'n trafod ei phrofiad personol o iechyd meddwl a sut mae iechyd meddwl yn aml yn cael ei ystyried yn y gymuned Fwslimaidd.
Syeda Batool Zehra (LLB 2020)
Ymgyrchydd cymunedol | Model rôl
Mae Syeda wedi goresgyn rhwystrau sylweddol yn ei hymdrechion i astudio ar lefel addysg uwch, i greu gyrfa fel Bargyfreithiwr. Mae'n ymgyrchydd diflino dros geiswyr lloches ac fe neilltuodd lawer o'i hamser pan oedd yn fyfyriwr i gefnogi Student Action for Refugees (STAR), yn ogystal â Chyngor Ffoaduriaid Cymru Faire&Square. Bu hefyd yn aelod o fwrdd Ymddiriedolaeth Bethan Roper dros Ffoaduriaid.
Trwy ei hymrwymiad a'i gwaith caled, llwyddodd i ddylanwadu ar wleidyddion a sefydliadau i ddarparu llythyrau cefnogi, a pherswadiodd brifysgolion i roi ysgoloriaethau i geiswyr lloches. Ni chafodd Syeda ei digalonni gan yr anawsterau a wynebodd ac mae'n benderfynol o ysbrydoli pobl eraill fel hi i ddal ati wrth geisio cyfleoedd i gyflawni eu breuddwydion eu hunain.
Jack Collard (BSc 2021)
Trefnydd cymunedol| Cynllunydd trefol
Sefydlodd Jack British Roundnet pan oedd yn fyfyriwr. Corff llywodraethu cenedlaethol cwbl wirfoddol ac nid er elw ar gyfer chwaraeon rhwyd crwn yng Nghymru, Lloegr a'r Alban.
Eu nod yw annog mwy o bobl i fod yn weithgar, tyfu'r gymuned rhwyd crwn a chael cydnabyddiaeth gyda Sport UK yn y pen draw. Mae Jack yn arwain tîm o 12 (a gwirfoddolwyr ychwanegol) wrth gynnal cystadlaethau a digwyddiadau cenedlaethol i'r cyhoedd, myfyrwyr prifysgol a phlant ysgol o bob lefel.
O dan arweiniad Jack, maen nhw wedi cynnal proses ailfrandio hynod lwyddiannus, gan arwain at ddenu £6,000+ o fuddsoddiad ar gyfer eu rownd gyntaf erioed o nawdd. Mae hyn wedi helpu eu rhaglen i ddatblygu chwaraewyr o’r radd flaenaf, gan sicrhau bod Prydain yn cael ei chynrychioli yng nghystadleuaeth gyntaf erioed Cwpan Rhwyd Crwn y Byd.
Anna Celac (MA 2021)
Arbenigwr cyfathrebu | Blogiwr | Trefnydd cymunedol
Mae Anna yn dod o Comrat, yn ne Moldofa. Ar 24 Chwefror 2022, aeth miloedd o Wcrainiaid i Moldofa i ffoi rhag y rhyfel.
I'r gymuned leol, roedd hi'n heriol dod o hyd i adnoddau ar gyfer cynifer o bobl.
Penderfynodd Anna ddefnyddio pŵer y cyfryngau gan eu bod yn gallu sbarduno newid (fel y dysgodd yn yr Ysgol Newyddiaduraeth).
Defnyddio ei chyfrif Instagram i ysbrydoli dros 10,000 o ddilynwyr i godi ymwybyddiaeth o'r sefyllfa enbyd yn ei chymuned.
Nid yn unig y llwyddodd hi i godi ymwybyddiaeth - ond cododd arian hanfodol hefyd, gan brynu cyflenwadau ar gyfer canolfannau ffoaduriaid a theuluoedd oedd yn cynnal ffoaduriaid. Hyd yma, mae ei hymdrechion wedi helpu dros 6,000 o ffoaduriaid.
Jessica Mullins (BSc 2011)
Gweithiwr gofal iechyd | Rhwyfwr cefnforol | Ysgogydd
Derbynnydd Gwobr Dewis y Bobl
Therapydd Galwedigaethol yw rôl Jessica yn ystod y dydd, ac mae’n anturiaethwr gyda'r nos.
Ym mis Ionawr 2022, ar ôl rheoli ymgyrch 3 blynedd lwyddiannus, arweiniodd dîm (MEWN LLONG DDOFN) dros y llinell derfyn ar ôl rhwyfo â llaw 3,000 o filltiroedd ar draws Cefnfor yr Iwerydd (o'r dwyrain i'r gorllewin - yr Ynysoedd Dedwydd i Antigua). Fe gymerodd hi 42 diwrnod, 4 awr a 54 munud. Pam? I godi arian ac ymwybyddiaeth o Covenant House, CRISIS UK a Sefydliad Anthony Nolan.
Bu’n rhaid iddyn nhw wynebu newyn, tonnau enfawr, dadhydradu, blinder, rhithwelediadau yn ogystal â llywio drwy fywyd gwyllt (siarcod/morfilod). Nhw oedd tîm cymysg cyntaf o’i fath yn y byd i groesi unrhyw gefnfor a chyrraedd eu targed a chwalu’r record byd blaenorol o ran amser. Fel pe na bai hynny'n ddigon, penderfynodd wedyn hwylio'r daith yn ôl.
Ers hynny, mae Jessica wedi cyhoeddi erthyglau mewn ystod o gylchgronau, wedi cael cydnabyddiaeth gan gymdeithasau Therapydd Galwedigaethol ledled y byd, wedi bod yn westai ar bodlediadau amrywiol, cynnal ei blog ei hun, ac mae hi bellach yn canolbwyntio ar wneud areithiau ysgogol. Ei nod yw grymuso eraill i wthio y tu hwnt i ffiniau a gwireddu eu breuddwydion.
Gladys Emmanuel (LLM 2020)
Cyfreithiwr hawliau dynol | Eiriolwr tegwch o ran rhyw
Cyfreithiwr Hawliau Dynol ac Eiriolwr Rhywedd yn Nigeria yw Gladys; aelod o Gymdeithas Bar Nigeria (NBA) a Ffederasiwn Rhyngwladol Cyfreithwyr y Merched (FIDA Abuja).
Ar hyn o bryd mae'n gweithio yng Nghanolfan Grymuso Tabitha, lle mae'n arwain ymdrechion eirioli i fynd i'r afael â thrais ar sail rhywedd (gbv) ac yn rhoi cefnogaeth i ddioddefwyr/goroeswyr.
Yn ei rôl mae'n datblygu rhaglenni i fynd i'r afael â thrais o’r fath - yn fwyaf penodol "cynllun cyfreithwyr pro bono, "Ymgyrch gwrth-drais ar sail rhywedd a menter Empowering Her" (lledaenu negeseuon gwrth-drais ar sail rhywedd, adsefydlu goroeswyr, grymuso gweddwon, hyfforddi hyrwyddwyr gwrth-drais ar sail rhywedd, sefydlu unedau cymorth gwrth-drais ar sail rhywedd, a chlybiau ysgol).
Mae ei hangerdd dros hawliau dynol, hawliau menywod, materion rhywedd a chyfiawnder wedi rhoi cyfleoedd iddi ddefnyddio ei llais a'i harbenigedd ar lwyfannau sy'n canolbwyntio ar fynd i'r afael â thrais ar sail rhywedd, gan gynnwys erthygl arbennig fel "Woman of the Sun" ym mhapur newydd y Sun (papur newydd dyddiol cenedlaethol) a gweithio fel person adnoddau yn Ysgol y Gyfraith ym Mhrifysgol Northcap yn India.
Entrepreneuriaeth
Mae'r grŵp hwn o'n henillwyr i gyd yn entrepreneuriaid. Maent wedi’u cydnabod am ddangos pŵer entrepreneuriaeth lwyddiannus ac effaith mynd â syniad o’r cam cysyniadol i’r cam cyntaf.
Myles Hopper (BA 2010)
Entrepreneur | Amgylcheddwr | Eiriolwr yn erbyn tlodi bwyd
Derbynnydd Gwobr Cydnabyddiaeth Arbennig Entrepreneuriaeth
Sefydlodd Myles Mindful Chef yn 2015 gyda dau ffrind ysgol - sydd bellach yn cael ei gydnabod fel un o hoff focsys ryseitiau'r DU.
Yn 2018 fe wnaethant ardystio fel B Corp gan gredu y gallai busnesau wir gydbwyso pwrpas ac elw ar yr un pryd. Hyd at y dydd hwn maen nhw wedi rhoi dros 14 miliwn o brydau ysgol i blant sy'n byw mewn tlodi. Maent yn fusnes carbon niwtral sy'n gweithio tuag at Sero Net 2030.
Harneisio pŵer eu cymuned, maen nhw bellach yn rhedeg un o'r mentrau blynyddol mwyaf i glirio traethau yn y DU. Y llynedd, helpodd cwsmeriaid Mindful Chef i roi'r hyn sy'n gyfwerth â 350,000 o brydau bwyd drwy Brosiect Felix i'r rhai mewn angen. Ar ben hynny, fe wnaethant ailardystio’n ddiweddar fel B Corp gan ymuno â'r 3% uchaf o gwmnïau bwyd yn fyd-eang.
Joseph Ward (BSc 2018, PGCert 2019)
Arloeswr| Entrepreneur | Lansiwr roced
Joseph yw Prif Swyddog Gweithredol a Chyfarwyddwr Propulsion Small Spark Space Systems - cwmni a sefydlodd ar ôl graddio yn 2018, ac sydd bellach yn cyflogi 15 o beirianwyr a ffisegwyr mewn warws mawr yn Sblot, Caerdydd.
Mae Joseph wedi ennill sawl gwobr am ei ymroddiad i hyrwyddo ffiseg yng Nghymru. Mae hefyd yn cyfrannu llawer i'r gymuned leol, yn fwyaf diweddar drwy gyflenwi offer realiti rhithwir i ysgol anghenion arbennig yng Nghaerdydd er mwyn i'r plant gael blas ar deithio i'r gofod a dod yn ffisegwyr brwdfrydig.
Er bod ceisio adeiladu busnes newydd sbon wedi bod yn dalcen caled ar adegau yn ystod pandemig, mae wastad wedi aros yn bositif ac gofalu am ei weithwyr.
Liz Tan (BSc 2004)
Datblygwr eiddo
Mae Liz yn arweinydd ysbrydoledig sydd wedi cael llwyddiant ysgubol yn gynnar yn ei gyrfa. Mae ganddi sawl rôl uwch sy'n gysylltiedig â chwmni manwerthu ac eiddo amlganghennog IGB ym Malaysia.
Un o'i phrif lwyddiannau ers astudio yn Ysgol Busnes Caerdydd yw sefydlu, dylunio a datblygu The Gardens Mall yn Kuala Lumpur o’i phen a’i phastwn ei hun. Agorodd y Mall yn 2007 ac mae'n cynnig profiad moethus i ddefnyddwyr. Mae'n cynnig cymysgedd o brofiadau ffasiwn, ffordd o fyw, adloniant a bwyta, a'r cyfan wedi'u curadu gan Liz. Heddiw, mae'r Mall yn cael ei gredydu i raddau helaeth fel un o brif fannau siopa De-ddwyrain Asia.
Ochr yn ochr â'i 'swydd bob dydd' yn y Mall, mae rolau Liz yn rhan o grŵp ehangach IGB yn golygu ei bod yn goruchwylio cyrhaeddiad rhyngwladol y cwmni ym meysydd eiddo rhyngwladol, manwerthu, masnachol, preswyl, adeiladu a lletygarwch a phortffolios TG.
Georgia Aubrey (BSc 2014)
Entrepreneur | Eiriolwr tegwch rhywedd
Cyd-sefydlodd Georgia Lovetovisit.com yn 2020. Mae'r tîm wedi tyfu i gynnwys 19 o weithwyr, ac maent wedi codi buddsoddiad o £1.1m hyd yma gan fuddsoddwyr angel/corfforaethol ac ymgyrch Hadau. Y flwyddyn nesaf maen nhw'n bwriadu codi rhagor o arian ac ehangu yn fyd-eang.
Mae Georgia yn cael gwared â’r rhagfarn yn ei diwydiant (a thu hwnt) i fenywod mewn rolau arwain. Er bod y buddsoddiad mewn busnesau newydd sy'n cael eu harwain gan fenywod yn cynyddu'n raddol, mae'n bell y tu ôl i ble y dylai fod. Ar hyn o bryd does gan 83% o gytundebau VC y DU ddim menywod o gwbl yn y timau sefydlu. Mae'n gobeithio y bydd ei gwaith caled a'i llwyddiant yn helpu i newid hyn.
Ymhlith ei llwyddiannau diweddar mae cyrraedd rownd derfynol gwobrau AccelerateHER mewn partneriaeth â Barclays Eagle Labs yn cynrychioli Cymru. Cafodd ei henwi ymhlith y 30 arweinydd benywaidd mwyaf dylanwadol gan Travel Tech 2022 ac yn ddiweddar cyrhaeddodd rownd derfynol Gwobrau Cyfryngau TTG 2022: John Hays Entrepreneur Ifanc y Flwyddyn. Enillodd Lovetovisit.com wobr Busnes Newydd y Flwyddyn 2022 yng Ngwobrau Busnesau Newydd Cymru.
Jon Szehofner (BScEcon 2007)
Entrepreneur moesegol | Eiriolwr dros lefelu i fyny
Sefydlodd Jon GDFM Consulting yn 28 oed ac ers hynny mae'r busnes wedi tyfu i fod yn dîm o 80 o bobl, a rhagwelir y bydd y cwmni’n tyfu eto dros y flwyddyn nesaf.
Ac ôl cael ei fagu mewn amgylchiadau digon diymhongar, mae Jon yn falch iawn o gefnogi'r agenda lefelu i fyny trwy ystod o fentrau sy'n canolbwyntio ar y gymuned a thrwy roi cyfleoedd cyflogaeth i bobl ifanc o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol difreintiedig.
Wrth i'r busnes dyfu, mae Jon wedi ymrwymo i ymgorffori ffactorau cymdeithasol, amgylcheddol, economaidd a moesegol ymhellach yng ngwerthoedd y cwmni ac wrth wneud penderfyniadau. O dan ei arweiniad, mae GDFM wedi datblygu diwylliant cydweithredol lle mae pawb yn rhannu llwyddiant y busnes.
Mae GDFM Consulting yn fusnes ymgynghoriaeth rheoli risg yng Nghaerdydd, Llundain a Leeds.
Ricky Martin (BSc 2006)
Yr entrepreneur recriwtio | Enillydd The Apprentice
Mae Ricky wedi ymroi i recriwtio gwyddonwyr i Sector y Gwyddorau Bywyd. Wrth wneud hynny, enillodd Ricky The Apprentice ar BBC1 yn 2012, a derbyn £250,000 i ddechrau ei fusnes ymgynghori ei hun, Hyper Recruitment Solutions (Adnoddau Dynol), ochr yn ochr â'r Arglwydd Alan Sugar.
Yn ystod y degawd diwethaf, mae’r busnes wedi newid bywydau dros 5,000 o wyddonwyr ac ar hyn o bryd mae'n creu refeniw o dros £15m, gan wneud elw o bron i £2m y flwyddyn ac mae'n cyflogi mwy na 50 o raddedigion STEM mewn 3 lleoliad yn y DU; Caeredin, Manceinion a Llundain.
Yn ystod y cyfnod hwn, mae Ricky hefyd wedi ymddangos ar y BBC ac iPlayer sawl gwaith fel arbenigwr cyflogadwyedd ar gyfer amrywiaeth o raglenni gan gynnwys gyda Stacey Dooley ar "The Nine to Five" yn cefnogi pobl ifanc 15 i 17 oed drwy gynnig profiad gwaith. Ar ben hynny, mae wedi cefnogi Women in Science (WISE) gyda'u gwobrau COVID di-glod yng Nghastell Windsor ochr yn ochr â'r Dywysoges Anne, mae Ricky yn llysgennad dros wyddoniaeth, cyflogadwyedd a Phrifysgol Caerdydd.
Gweithredwr Amgylcheddol
Mae’r grŵp hwn o’n henillwyr wedi cael eu cydnabod am eu heffaith gadarnhaol ar yr amgylchedd. Maent i gyd yn gwarchod ac yn cynorthwyo'r amgylchedd ar raddfa leol a byd-eang trwy hybu ymwybyddiaeth a chynhyrchu datrysiadau.
Harrison Marshall (MArch 2018), Joshua Peasley (MArch 2018) and Harry Thorpe (MArch 2018) - CAUKIN studio
Penseiri| Athrawon | Stiwardiaid cyfrifol o’r blaned
Derbynnydd Gwobr Cydnabyddiaeth Arbennig y Gweithredwr Amgylcheddol
Cyd-sefydlwyd CAUKIN Studio yn 2015 gan y Cyfarwyddwyr Joshua Peasley (MArch 2018), Harry Thorpe (MArch 2018) a Harrison Marshall (MArch 2018) , Mae’n galluogi cymunedau byd-eang drwy ddulliau ddylunio a phensaernïaeth gynaliadwy, ac mae eu gwaith yn addysgu ac yn gwella sgiliau cymunedau lleol ledled y byd.
Gan fynd i’r afael â llu o Nodau Datblygu Cynaliadwy, mae effaith CAUKIN yn cael effaith hynod arwyddocaol. Mae eu 52 prosiect ledled y byd wedi creu mannau sydd wedi’u dylunio’n well i 10,000 o ddefnyddwyr yn ogystal ag addysgu 800 o aelodau cymunedol am ddylunio ac adeiladu drwy 200,000 awr o addysg ar safleoedd. Maent hefyd wedi ymgysylltu â thros 50 o brifysgolion yn eu gweithdai trwy brosiectau myfyrwyr.
Mae CAUKIN yn parhau i gefnogi myfyrwyr Prifysgol Caerdydd – o wirfoddoli eu hamser ar gyfer cyflwyniadau a chynnig cyngor, i gynnig profiad gwaith ac interniaethau.
Oliver Cook (BScEcon 2007)
Entrepreneur Fintech | Ymgyrchwr dros newid hinsawdd
Oli yw Prif Swyddog Gweithredol a Chyd-sylfaenydd ekko, cwmni technoleg ariannol o’r radd flaenaf. Uchelgais y cwmni yw grymuso cannoedd ar filoedd o bobl a busnesau ledled y byd i fynd i’r afael â newid hinsawdd.
Drwy ddefnyddio technoleg flaengar, data carbon ac effeithiau pendant, a’u paru â gwyddoniaeth ymddygiadol, mae ekko wedi rhoi hwb i bobl i’w helpu i gymryd eu camau cyntaf i fod yn fwy cynaliadwy ac i leihau eu heffaith carbon. Mae cerdyn banc ac ap 'Good Vibes' ekko yn rhoi gwybod i chi beth yw ôl troed carbon cynnwys eich basged siopa mewn amser real ac, wrth dapio'r cerdyn, mae’r cwsmeriaid yn plannu coed, arbed plastig rhag cyrraedd ein cefnforoedd, ac yn gwrthbwyso baich carbon unrhyw unrhyw wariant yn awtomatig.
Ar hyn o bryd, mae ekko yn datblygu partneriaethau gyda rhai o frandiau mwyaf blaenllaw'r byd, gan gynnwys clybiau pêl-droed Cynghrair y Pencampwyr, i rymuso eu miliynau o gwsmeriaid a chefnogwyr ledled y byd i fynd i’r afael â newid hinsawdd.
Sophie Yeo (MA 2014)
Newyddiadurwraig | Hyrwyddwr amgylcheddol
Mae Sophie, a raddiodd o'r Ysgol Newyddiaduraeth, wedi mynd ymlaen i fod yn un o awduron mwyaf dylanwadol y DU a’r byd am faterion yr amgylchedd. Fe weithiodd yn llawrydd i lawer o gyhoeddiadau yn y DU a'r Unol Daleithiau wedi hynny, cyn symud yn ôl i'r DU i lansio ei busnes ei hun, yr Inkcap Journal; cyhoeddiad a chylchlythyr am wyddoniaeth, yr amgylchedd a natur.
Mae Sophie wedi creu ei harddull unigryw ei hun, gan adrodd straeon cymhellol a chymhwysfawr am wyddoniaeth a natur sydd wir yn cysylltu â darllenwyr, ac yn hysbysu pobl am rai o gymhlethdodau a gwirioneddau natur.
Mae Sophie wedi bod yn adeiladu ei brand mewn modd tawel a chyson, a dros y blynyddoedd mae wedi datblygu enw da cydnabyddedig fel storïwr angerddol, arbenigol, gan adrodd straeon pwysig sy'n dylanwadu ar feddylfryd pobl a hyd yn oed polisïau cyhoeddus ar adeg dyngedfennol i'n planed.
Alex Goff (MEng 2017)
Peiriannydd | Arloeswr | Nomad
Swydd gyntaf Alex oedd llenwi bagiau glo a symud silindrau nwy. Ers hynny mae wedi mynd ymlaen i adeiladu ceir rasio, trenau, peniau inswlin, AI ar gyfer banciau, cyn rhoi'r gorau i fywyd corfforaethol i fod yn entrepreneur, gan grwydro byw o amgylch Ewrop.
Mae ei ffocws entrepreneuraidd wedi bod ar fynd i'r afael â newid hinsawdd ym maes technoleg defnyddwyr, adeiladu traciwr bwyd sy'n dangos calorïau ac allyriadau'r bwyd rydych chi'n ei fwyta, a rheoli asedau sefydliadol, gan helpu i ddargyfeirio cyllid tuag at brosiectau wedi'u halinio â gwella’r hinsawdd.
Ar y ffordd, mae wedi bod yn rhan o IMechE, 50 peiriannydd blaenllaw'r Academi Beirianneg Frenhinol (ELA), wedi arwain tîm fformiwla myfyrwyr Prifysgol Caerdydd i fod y tîm cyntaf yn y DU i ennill Silverstone, wedi dysgu codio, wedi helpu eraill i ddysgu codio, helpu i ddatblygu IBM Watson, a helpu busnesau newydd ar draws y byd trwy ei waith llawrydd.
Mae bellach yn CTO yn Vula.
Gweithredwr Ecwiti
Mae ein henillwyr yn y grŵp hwn i gyd yn gweithio tuag at fwy o degwch mewn cymdeithas. Maent i gyd yn cydnabod bod gan bob unigolyn neu grŵp amgylchiadau gwahanol, ac yn ymgyrchu am well adnoddau neu gyfleoedd i gyflawni canlyniad cyfartal.
Rania Vamvaka (MSc 2017, MSc 2020, PhD 2019-)
Ymgyrchydd LHDTQ+| Eiriolwr ceiswyr lloches
Derbynnydd Gwobr Cydnabyddiaeth Arbennig y Gweithredwr Ecwiti
Rania (hi/hi) yw cyd-gadeirydd Glitter Cymru a sylfaenydd a chadeirydd Glitter Sisters, cangen enbys a womnx o Glitter. Mae Rania yn fenyw ddeurywiol allan a balch ac wedi siarad ar baneli di-ri, a’u trefnu, sy'n ymwneud â phwysigrwydd hawliau pobl queer o liw, gan roi llais i'r rhai sydd ei angen.
Cynghorodd Rania swyddogion cydlyniant cymunedol gwersyll lloches Penally ar Faterion Ceiswyr Lloches Queer Asylum a chafodd ei hyfforddi’n Hyrwyddwr Troseddau Casineb i ddiogelu pobl queer o liw. Roedd Rania yn rhan o banel Arbenigol Llywodraeth Cymru, ynglŷn â Chynllun Gweithredu LHDTQ gan gyfrannu at yr adran lloches. Ym mis Chwefror 2022, lansiodd Rania "Adroddiad Anghenion Lloches Tai LGBTQ+", yr adroddiad cyntaf o'i fath yn y DU.
Mae Rania yn gyd-gynullydd GASP, y Grŵp Ymchwil Rhywedd a Rhywioldeb yn Ysgol Gwyddorau Cymdeithasol y Brifysgol ac ar hyn o bryd mae'n Ymchwilydd Doethurol i’r Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol, sy'n canolbwyntio ar bolisïau lloches LHDTQ+.
Sudhuf Khan (BScEcon 2018)
Athrawes | Model rôl
Er gwaethaf amgylchiadau a olygodd nad oedd yn gallu cael addysg tan yn nes ymlaen yn ei bywyd, roedd Sudhuf yn benderfynol o ddilyn gyrfa ym maes addysgu a defnyddio ei hanfanteision i sbarduno ei chymhelliant i astudio ymhellach.
Ers cwblhau ei gradd, mae Sudhuf wedi mynd ymlaen i fod yn athrawes Cymdeithaseg yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro. Ar ben hynny, mae’n aelod o fwrdd Agored Cymru ac yn Llysgennad ar ran y Brifysgol Agored.
Mae Sudhuf wedi gweithio gyda’r Coleg i ddatblygu’r rhaglen diwtorial a oedd yn cynnwys datblygu adnoddau dysgu byr a gwahaniaethol, yn ogystal â chynnwys i’w gyflwyno gan diwtoriaid ar draws y Coleg.
Mae hi hefyd yn aelod o fwrdd corff dyfarnu Agored Cymru sydd wedi ymrwymo i gefnogi cyflogadwyedd a dilyniant i ddysgwyr yng Nghymru.
Alex Davis (BMus 2015, MA 2016)
Cerddor| Addysgwr | Gwneuthurwr breuddwydion
Mae Alex Davis nid yn unig wedi rhagori yn ei yrfa fel addysgwr cerddoriaeth a Phennaeth Cynorthwyol, mae hefyd wedi cymryd camau breision i wella dyheadau cymuned amrywiol o fyfyrwyr yn Dagenham.
Ymunodd Alex pan oedd yr ysgol yn newydd sbon a helpodd i sefydlu "prosiect band mawr" a ariennir gan sefydliad Andrew Lloyd Webber ar gyfer pob disgybl CA3 i ddysgu chwarae offeryn a bod yn rhan o fand mawr. Datblygodd hefyd "Rhaglen Gyfoethogi" sy'n galluogi pob grŵp blwyddyn i fynd i ddarpar brifysgol bob blwyddyn.
Er mawr glod iddo, mae wedi meithrin cysylltiadau â Phrifysgol Caerdydd i greu 'Digwyddiad Band Mawr' blynyddol i fyfyrwyr blwyddyn 9 ac mae'n hyrwyddwr cydraddoldeb, amrywiaeth a chynwysoldeb yn y celfyddydau. Mae'n parhau i drawsnewid bywydau ei ddisgyblion, a'n braint ni fel prifysgol yw gweithio mewn partneriaeth ag ef i wella dyheadau'r cerddorion ifanc uchelgeisiol hyn.
Jessica Dunrod (BA 2020, MA 2022)
Cyfieithydd | Awdur | Eiriolwr tegwch
Mae'r cyfieithydd arobryn ac awdur plant, Jessica Dunrod, yn hyrwyddwr arferion cyfieithu moesegol a chynrychiolaeth gadarnhaol mewn llenyddiaeth plant.
Mae ei llyfrau'n cynnwys Outstanding a Your Hair is Your Crown a ysgrifennodd mewn ymateb i ‘The Black Doll Test’ (Prifysgol Brown) a brofodd fod ymddygiadau fel rhagfarn anymwybodol yn cael eu caffael erbyn bod plant yn yr ysgol gynradd.
Ehangodd Jessica ar yr ymchwil hon drwy fathu theori "The Elsa Affect" sy'n damcaniaethu sut mae diffyg cynrychiolaeth ym myd adloniant, marchnata a llenyddiaeth sydd wedi'i anelu at blant yn effeithio ar ddatblygiad cynnar plant.
Mae hi wedi cyfrannu at gynllunio’r cwricwlwm Cymreig newydd,mae'n ieithydd sy'n rhugl yn y Sbaeneg a Groeg Fodern, yn gyfieithydd, ac yn strategydd rhyngwladol. Yn 2021 cafodd ei henwi ar restr 15 o Eiconau Du Cymreig Wales Online.
Florence Craig (MA 2020)
Newyddiadurwr | Dylanwadwr | Eiriolwr anabledd
Mae Florence Craig yn newyddiadurwr arloesol gyda’r BBC ac yn Gymrawd o Ymddiriedolaeth John Schofield, sy'n arbenigo mewn newyddiaduraeth ddigidol a fideo arbrofol. Drwy ei gwaith, mae’n storïwr digidol-gyntaf blaenllaw yn y BBC ac yn wyneb newydd ym meysydd newyddiaduraeth gwyddoniaeth a thechnoleg. Ochr yn ochr â'i gwaith newyddiadurol, mae Florence yn ymdrechu i wneud y diwydiant cyfryngau yn fwy hygyrch i Gymry a phobl anabl, fel hi ei hun.
Yn 2020, lansiodd Florence frand dogfen ddigidol arobryn y BBC, BBC Reel ar draws y cyfryngau cymdeithasol ac mae wedi cronni mwy na 600,000 o ddilynwyr hyd yma. Mae hefyd yn ffilmio, golygu, cyflwyno a chynhyrchu rhaglenni dogfen gwyddoniaeth a thechnoleg ar gyfer y BBC ac mae wedi golygu clipiau digidol ar gyfer Channel 4 News drwy gydol 2021.
Mae Florence yn teimlo’n angerddol dros sicrhau amrywiaeth yn y cyfryngau. Helpodd i lunio polisi anabledd staff cyntaf ITN, ac mae hi bellach yn aelod o fwrdd BBC Ability, rhwydwaith staff anabl y BBC - gan lywio polisïau, trefnu digwyddiadau a chynnig mentora mewn ysgolion.
Jasper Wilkins (BA 2017)
Cynhyrchydd | Newyddiadurwr | Eiriolwr hygyrchedd
Mae Jasper yn gynhyrchydd, newyddiadurwr, a ffotograffydd o’r radd flaenaf. Mae wedi golygu clipiau ... ar gyfer BFI a BAFTA, cyfarwyddo sêr y Bake Off ar gyfer y Cyngor Prydeinig, yn ogystal â ffilmio cerddorion sy’n cynnwys Stormzy, Slayer, a Take That.
Yn ei swydd bresennol gyda UKTV mae'n rheoli'r tîm fideo sy'n gyfrifol am y comedi ar draws sianeli digidol Dave. O dan ei arweiniad, Dave yw'r sianel ddarlledu gyntaf a'r unig un yn y DU gyda gwasanaeth YouTube a Fideo Ar Alw gyda isdeitlau, sy'n golygu y gall pawb gael chwerthin yn braf ar Dave mewn ffordd sy’n gweithio orau iddyn nhw. Labelodd wasg y diwydiant yr arloesedd o ran hygyrchedd fel 'datblygiad arloesol i ddiwydiant darlledu'r DU'.
Er mai Dave yw'r sianel gyntaf i gyrraedd y nod hwn, ni ddylai fod yr olaf. Uchelgais Jasper yw sbarduno newid ystyrlon ar draws y byd darlledu ehangach a thaflu mwy o oleuni’r diwydiant ar hygyrchedd yn y gofod digidol.
Sheilla Mamona (BSc 2016)
Newyddiadurwr | Crëwr cynnwys | Eiriolwr tegwch hiliol
Mae Shei wedi dod yn bell, ac i gyfeiriad annisgwyl. Yn dilyn gradd mewn Mathemateg mae hi bellach yn gweithio fel awdur harddwch i gylchgrawn GLAMOUR. Mae ei henw hefyd wrth yr erthyglau y mae’n eu hysgrifennu ar gyfer The Sunday Times, Vogue, The Telegraph, Vanity Fair, ymhlith eraill.
Mae hi'n creu cynnwys cymdeithasol hynod boblogaidd ar gyfer digwyddiadau y tymor gwobrau megis carped coch BAFTA, yn ysgrifennu darnau di flewyn ar dafod fel "Sainsbury's Advert - racism" ac yn fwyaf diweddar 'Racism in the Ukraine border", a hyd yn oed wedi arwain pennod o BBC Women's Hour.
Enillodd Wobr wych yng Ngwobrau anrhydeddus British Society of Magazine Editors (BSME) ac mae'n ymdrechu i ysbrydoli merched o liw i ddilyn eu breuddwydion.
Parikrama Khot (LLM 2019)
Cyfreithiwr | Eiriolwr ecwiti | Mentor
Parikrama oedd y cyntaf yn ei theulu i fynd i’r brifysgol ac mae hi bellach yn gyfreithiwr ac yn ymgyrchydd cymdeithasol-gyfreithiol. Mae hi wedi ymrwymo i gynnal hawliau dynol - yn enwedig rhai menywod, plant, pensiynwyr, sectorau LHDTQIA+ ac ymylol, yn Pune, India.
Yn 2020 sefydlodd 'Sapient Law Chambers' – cwmni cyfreithiol sy’n cyflogi merched yn unig. Mae hi hefyd yn arwain cell menywod y Maharashtra Andhashraddha Nirmoolan Samiti India Shivaji Nagar yng nghangen Pune Maharashtra, gan gefnogi menywod a gafodd eu hecsbloetio'n ariannol neu a fu’n dioddef camdriniaeth. Mae wedi arwain ei thîm i gyflwyno gweithdai sensiteiddio rhywedd ar gyfer pobl ifanc mewn ardaloedd gwledig, a sesiynau ymwybyddiaeth gyfreithiol i bawb.
Mae hi'n mentora merched mewn ardaloedd gwledig ac yn eu hannog i ddilyn addysg uwch, ac i astudio'r gyfraith yn benodol - ac yn aml yn siarad â’u teuluoedd i ddeall y cyfleoedd a'r manteision y gall addysg eu darparu.
Hosanna Hali (BSc 2016, MSc 2018)
Dylanwadwr technoleg | Llysgennad STEM | Eiriolwr tegwch
Mae Hosanna yn cael effaith fel dylanwadwr technoleg, ar ôl adeiladu platfform a llu o ddilynwyr ar y cyfryngau cymdeithasol, i ysgogi grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol i ddilyn gyrfa ym maes technoleg.
Sefydlodd The Tech Cornr yn haf 2020 gyda'r nod o arwain, mentora ac ysbrydoli menywod i ymuno â'r diwydiant technoleg. Mae ei ffocws ar godi proffil swyddi nad yw’n rhai codio, ac mae hi wedi helpu cannoedd o bobl i ddod o hyd i swyddi. Mae'r Tech Cornr wedi cyrraedd rownd derfynol nifer o wobrau, ac enwyd Hosanna hyd yn oed fel un o'r 10 Menyw Ddu Ddylanwadol sy'n codio, gan People of Colour in Tech.
Mae gan y Tech Cornr dros 100,000 o ddilynwyr ar draws Instagram, Tik Tok a YouTube.
Suryatapa Mukherjee (BA 2015, MA 2017)
Newyddiadurwr | Dylanwadwr | Eiriolwr LHDTQ+
Mae Suryatapa yn cynnal podlediad LHDTQ+ Suno India, Pride and Prejudice, sef y cyntaf o'i fath yn India. Mae'n trafod pob peth queer – o wleidyddiaeth, cyfreithiau a gofal iechyd, i hanes, y celfyddydau a diwylliant. Cyrhaeddodd y brig yn adran ‘New and Noteworthy’ Apple Podcasts.
Roedd yn taro deuddeg gyda phobl y tu hwnt i’w ffiniau, gan ymddangos yn rhyngwladol ar gylchlythyr CNN, ac yn genedlaethol ar Indian Express, Mid-Day a Times of India. Mae hi hefyd yn trafod hawliau preifatrwydd, cyfreithiau cyfansoddiadol, etholiadau, a newid hinsawdd.
Yn flaenorol yn Stori Mojo, gwelodd miliynau ei hadroddiadau ar lawr gwlad ar brotestiadau yn erbyn y Ddeddf Diwygio Dinasyddiaeth yn Uttar Pradesh a therfysgoedd cymunedol yn y brifddinas, Delhi. Cyn hynny bu'n Uwch Olygydd Copi ar gyfer The Quint. Mae hi wedi ysgrifennu ar gyfer Vice, Huffington Post, Asia Times, The Wire ac eraill.
Arloesedd
Mae'r grŵp hwn o'n henillwyr yn cael eu cydnabod am arloesedd. Maen nhw i gyd yn dangos pa mor bwerus y gall creu a chyflwyno syniadau newydd o fewn eich diwydiant fod.
Dr Simon Thebault (MBBCh 2014)
Niwrolegydd | Gwyddonydd | Arloeswr
Derbynnydd Gwobr Cydnabyddiaeth Arbennig Arloesedd
Mae Dr Thebault yn Niwrolegydd a Gwyddonydd Clinigol ar ddechrau ei yrfa. Mae ei ymchwil ar drosi datblygiadau arloesol yn y labordy yn ymarfer clinigol i bersonoli triniaethau a gwella gofal i gleifion sy'n dioddef o glefydau awtoimiwnedd niwrolegol fel Sglerosis Ymledol.
Ar ôl derbyn ei radd yn yr Ysgol Meddygaeth, cwblhaodd radd Meistr mewn labordy yn Rhydychen, ac yna symudodd i Ottawa, Canada i hyfforddi fel Niwrolegydd. Mae wedi cymryd rôl flaenllaw wrth wneud ymchwil ar brawf gwaed o'r enw "Cadwyn Olau Niwroffilament" a’i gyflwyno. Gellir ddefnyddio’r prawf hwn i fonitro cleifion â Sglerosis Ymledol.
O ganlyniad i'w hymdrechion, gan gynnwys nifer o gyhoeddiadau ar y pwnc, mae'r prawf gwaed syml a chyfleus hwn bellach yn cael ei gymeradwyo a'i ddefnyddio fwyfwy yn y clinig. Mae'r llwyddiant cynnar hwn wedi gosod y llwyfan ar gyfer ei yrfa, ac mae bellach yn Gymrawd Clinigol ac Ymchwil ym Mhrifysgol Pennsylvania yn UDA.
Ar hyn o bryd mae'n gweithio ar nifer o ddulliau eraill o fesur hylif y gellir eu defnyddio yn yr un modd i ddarogan a rhagweld clefydau llidiol niwro-ymfflamychol.
Max Hayward (BA 2017)
Arloeswr | Torrwr rheolau | Cymysgwr diodydd
Mae Max yn arloeswr yn niwydiant lletygarwch y DU. Ers gweithio yn Lab 22, mae'r bar hwn yng Nghaerdydd wedi ennill gwobr 'Rhestr Diodydd Orau’r Byd' a'r 'Bar Coctel Gorau yn y DU'.
Fe chwaraeodd ran flaenllaw yn y gwaith o greu eu rhestr diodydd ragorol. Fe gipion nhw’n wobr yn bennaf oherwydd eu parodrwydd i arbrofi a thorri rheolau, ac am wthio’r ffiniau o ran cymysgu a dylunio yn barhaus.
Mae'r Gwasanaeth Coctels yn cydnabod "y prif weinydd Max Hayward [sydd] yn curadu rhestr diodydd feiddgar sy'n cael ei haddasu drwy gydol y flwyddyn." Gwyddoniaeth ac arloesedd yw’r ysbrydoliaeth y tu ôl i restr diodydd gyfredol Lab 22, Theory + Frontiers.
Coctel wisgi wedi’i rewi oedd creadigaeth arloesol ddiweddaraf Max, ac enillodd daith i Miami am ei waith gyda wisgi David Beckham - Haig. Mae Max yn gwbl angerddol am ei waith cymysgu diodydd ac mae’n benderfynol o wneud yn siŵr bod ei westeion yn cael y profiad gorau posibl.
Dr Samyakh Tukra (MEng 2017)
Arloeswr | Entrepreneur
Derbynnydd Gwobr Dewis y Bobl
Sam yw sylfaenydd a Phrif Swyddog Gweithredol Third Eye Intelligence. Mae wedi datblygu algorithm deallusrwydd artiffisial sy'n esblygu sy'n galluogi meddygon i ymyrryd yn gynnar a chynyddu cyfraddau goroesi.
Mae eu halgorithm yn defnyddio data a gesglir yn rheolaidd mewn gofal dwys i ragfynegi'r risg o fethiant organau, marwolaethau, a pha mor hir y bydd angen aros yn ysbyty, gyda’r bwriad o arwain meddygon wrth wneud penderfyniadau ar sail tystiolaeth.
O dan arweinyddiaeth Sam, mae Third Eye wedi ennill nifer o wobrau yn y sector Technoleg Feddygol, gan gynnwys yng Ngholeg Imperial, ac yn Sioe Graddedigion Byd-eang Dubai.
Mo Binesmael (MEng 2017) and Dan Harborne (BSc 2019) - Route Konnect
Arloeswyr | Entrepreneuriaid
Mae Mohamed Binesmael (Prif Swyddog Gweithredol) a Daniel Harborne (CTO) wedi adeiladu Route Konnect – cwmni sy'n cynnig gwybodaeth gwbl ddienw i'w cleientiaid ynghylch sut mae pobl a cherbydau yn defnyddio’n dinasoedd.
Gall y wybodaeth hon wella hygyrchedd a diogelwch, a helpu i fynd i'r afael â phethau aneffeithiol eraill. Yn y sector ffyrdd, mae Route Konnect yn helpu i leihau tagfeydd a mynd i'r afael â'r swm enfawr o allyriadau CO2 sy'n cael ei allyrru gan draffig aneffeithlon – gan arbed ein hamser a'n planed.
Mae arloesiadau AI Route Konnect yn cynnig yr atebion cwbl ddienw cyntaf yn y byd ar gyfer dadansoddi symudiadau ar draws nifer o gamerâu – mae’r technolegau eraill yn defnyddio dulliau treiddiol megis adnabod wynebau neu bod pob camera yn gweithredu ar wahân, ac yn colli'r wybodaeth a geir o weld y darlun ehangach.
Mae 2022 wedi bod yn flwyddyn gyffrous i'r cwmni, gan gwblhau prosiect, gwerth £100,000, cael $1 miliwn mewn buddsoddiad, ac ennill gwobr Cwmni Cychwynnol Arloesol y Flwyddyn yng Ngwobrau Dechrau Busnes Newydd yng Nghymru.
George Bellwood (BSc 2019), Robin Davies (BSc 2018), Christopher Morris (BSc 2018), Laura Choy (BSc 2022), Daniel Addis (BSc 2021), and Alissa Lutsina (BSc 2022) - Virtus Tech
Mae Virtus Tech yn gwmni arbenigol blaenllaw gyda chefnogaeth Google mewn technoleg rithwir, a lansiwyd yn 2018 gan y cyd-sylfaenwyr George Bellwood (BSc 2019) (Prif Swyddog Gweithredol) a Robin Davies (BSc 2018) (Prif swyddog technoleg).
Mae talentau Caerdydd yn mynd ymhell, gyda thîm Peirianneg Meddalwedd sy’n cynnwys Christopher Morris (BSc 2018), Laura Choy (BSc 2022) a Daniel Addis (BSc 2021), yn ogystal â'r Gweithiwr Cyswllt Busnes a Marchnata, Alissa Lutsina (BSc 2022).
Eu nod yw darparu ateb dim côd i gwmnïau i adeiladu llyfrgell o efelychiadau hyfforddi VR rhyngweithiol diderfyn, gan bontio rhwng gwe 2.0 a gwe 3.0 o fewn y gofod hyfforddi, sy'n hygyrch ar unrhyw ddyfais.
Mae eu platfform realiti rhithwir cynhwysfawr yn darparu'r offer sydd ei angen ar weithwyr proffesiynol y diwydiant i greu eu cynnwys hyfforddiant rhithwir eu hunain yn gyflym ac yn effeithiol, lle gellir trochi gweithwyr mewn senario 'byd go iawn' 360 gradd yn ogystal â rhyngweithio â gwrthrychau dysgu digidol 3D ar gyfer trosglwyddo gwybodaeth uchel, gan arbed amser ac arian i fusnesau.
Cymru i'r Byd
Mae ein henillydd yn y grŵp hwn yn cymryd rhan flaenllaw wrth ddod â Chymru i’r byd. Maent wedi cael eu cydnabod am ddathlu popeth Cymreig ar raddfa fyd-eang, gan gynnwys iaith, hanes a diwylliant.
Dr Matthew Jones (MA 2017)
Hyrwyddwr y Gymraeg/Cymru | Dylanwadwr | Addysgwr
Derbynnydd Gwobr Cydnabyddiaeth Arbennig Cymru i'r Byd
Mae Dr Jones yn Athro Cyfarwyddo Cynorthwyol yn Rhaglen Ysgrifennu'r Brifysgol ym Mhrifysgol Florida. Yn y rôl hon, yn ogystal â'i gyfrifoldebau addysgu, mae'n meithrin cysylltiadau trawsatlantig rhwng Cymru a'r UDA.
Hyd yma, mae wedi gweithio gyda nifer o raglenni ac asiantaethau Cymreig i gyflogi myfyrwyr o America (sydd wedyn yn gallu ymgolli yn niwylliant Cymru) yn ogystal â pharatoi rhaglen astudio dramor yng Nghaerdydd ar gyfer myfyrwyr Prifysgol Florida ar fywyd cyfreithiol a diwylliannol yng Nghymru ar ôl Brexit ac ar ôl yr UE.
Mae hefyd yn sefydlu rhaglenni yn UDA ar gyfer myfyrwyr prifysgol ac ysgolion uwchradd o Gymru. Ers 2017 mae hefyd wedi dod yn rhugl yn y Gymraeg ac yn defnyddio ei rôl academaidd i godi ymwybyddiaeth am iaith, hanes, a diwylliant Cymru.
Newyddiaduraeth a'r Cyfryngau
Mae'r grŵp hwn o enillwyr i gyd yn cael eu cydnabod am eu gwaith ym maes newyddiaduraeth a'r cyfryngau. Maent yn cael eu dathlu am eu newyddiaduraeth wych sy'n amserol ac yn effeithiol.
Chaitanya Marpakwar (MA 2011)
Newyddiadurwr sydd wedi ennill gwobrau
Derbynnydd Gwobr Cydnabyddiaeth Arbennig Newyddiaduraeth a'r Cyfryngau
Mae Chaitanya yn newyddiadurwr ymchwiliol sydd wedi ennill gwobrau gyda'r Times of India ym Mumbai. Mae'n ymdrin â materion dinesig a gwleidyddiaeth.
Mae wedi ennill gwobr fawreddog Ramnath Goenka ddwywaith am ei ohebu helaeth ar fudiad Save Aarey, menter yn erbyn torri 3,000 o goed i adeiladu sied ceir Metro yng nghoedwig Aarey Colony Mumbai, a'i gyfres o adroddiadau ymchwiliol ar y sgam prynu pengwiniaid yn Sw Byculla Mumbai.
Enillodd wobr Red-Ink Clwb Gwasg Mumbai hefyd am ei ohebu dylanwadol ac am wneud gwahaniaeth i fywydau pobl gyffredin. Derbyniodd Gymrodoriaeth Newyddiaduraeth Asia yn Singapore a Chymrodoriaeth Llysgenhadon Cyfryngau India-Yr Almaen Robert Bosch Stiftung yn yr Almaen.
Mae Chaitanya yn credu bod y ffordd mae straeon yn cael eu hadrodd yn newid ond mae'r gwerthoedd sy'n gyrru newyddiaduraeth go iawn sy'n llawn ysbryd cyhoeddus yr un fath o hyd a'i bod yn bwysig ailadeiladu newyddiaduraeth leol fel grym democrataidd hanfodol.
Tomos Lewis (BA 2013)
Uwch-newyddiadurwr | Storïwr gweledol
Mae Tomos Lewis yn Uwch-newyddiadurwr yn Newyddion BBC Cymru, ac mae’n gynhyrchydd, dyn camera, golygydd a chyfarwyddwr. Mae’n credu’n gryf mai ei ddyletswydd fel newyddiadurwr yw addysgu ac ymgysylltu, yn ogystal ag adrodd straeon personol mewn ffordd sy’n ysgogi emosiwn.
Mae ei waith yn eithriadol o eang. Mae wedi gweithio ar bynciau sy'n amrywio o atal hunanladdiad i COP26, gan weithio ar ddarnau diddorol am yr hinsawdd, sy’n bwnc y mae’n teimlo’n angerddol yn ei gylch. Mae Tom yn adnabyddus am ei ddull ffilmio hardd, sinematig, ac arddull adnabyddus ar ffurf adroddiad newyddion.
Fe wnaeth gwaith Tom ar Ryfel y Falklands dynnu sylw, gan greu cyfres o ddarnau newyddion yn ogystal â rhaglen ddogfen y bu'n ei ffilmio a'i chyfarwyddo o'r enw "Ending the Falklands War". Creodd y cyfle i gyn-filwyr adrodd eu straeon, gan fyfyrio ar bynciau fel galar, rhyfel a PTSD, ac mae llawer ohonynt wedi dweud bod ei waith wedi cynhyrchu ymdeimlad o gatharsis ac wedi ailgysylltu â hen ffrindiau rhyfel o ganlyniad.
Dr Jenifer Millard (MPhys 2016, PhD 2021)
Seryddwr| Podlediwr | Dylanwadwr STEM
"Merch o'r Barri" yw Dr Millard sydd wedi serennu yn y modd mae hi wedi ymgysylltu â'r cyhoedd. Mae ganddi dros 4,000 o ddilynwyr ar Twitter erbyn hyn ac mae’n gweithio mewn sawl maes mewn perthynas â newyddiaduraeth wyddonol ac allgymorth.
Mae Jenifer yn gyd-gyflwynydd ar bodlediad Seryddiaeth Awesome (sy’n denu 40,000 o wrandawyr ar gyfartaledd bob mis), yn brif olygydd ac yn awdur erthyglau ar gyfer ap poblogaidd Fifth Star Labs' Sky Guide (tua 200,000 o lawrlwythiadau), a chafodd ei phenodi’n ddiweddar yn Llywydd Anrhydeddus Cymdeithas Astro y Barri.
Mae hi wedi bod ar raglenni teledu a radio yn aml (Times Radio, BBC Breakfast, BBC World News, Radio 5 Live) i drafod pynciau gofod pwysig a chyffrous fel hynt a helynt JWST, ac yn gyflwynydd ar gyfer sioe deledu Weatherman Walking BBC1 Wales. Mae Dr Millard hefyd yn eiriolwr dros allgymorth gwyddonol y tu allan i'w swydd ac yn cymryd rhan gyda chynulleidfaoedd o bob math, o ymweld ag ysgolion, i helpu i drefnu a chynnal digwyddiad poblogaidd Astrocamp star party.
Mae Dr Millard yn ffigwr hynod ddylanwadol o ran ymgysylltu â'r cyhoedd, yn gyrru addysg ymlaen ac yn gwneud cyfraniadau cadarnhaol ym maes newyddiaduraeth wyddonol ac allgymorth, a does dim i awgrymu ei bod am arafu.
Vicky Chandler (BA 2015)
Arweinydd digidol | Cyhoeddwr arloesol
Mae Vicky wedi cael dringo’r ysgol yn eithriadol o gyflym fel gweithiwr proffesiynol ifanc yn y sector cyhoeddi. Mae’n arloeswr blaenllaw ym maes cyhoeddi digidol ac yn goruchwylio un o frandiau digidol mwyaf cyffrous Hearst UK, Delish.
Dechreuodd ei gyrfa newyddiaduraeth wrth astudio ar gyfer ei BA yn yr Ysgol Newyddiaduraeth, yn ysgrifennu ar gyfer papurau fel Metro a The Independent ochr yn ochr â'i hastudiaethau.
Saith mlynedd ers graddio, mae Vicky wedi mwynhau gyrfa wych gyda Hearst ers hynny, ar ôl ymuno fel awdur digidol ar gyfer Good Housekeeping yn 2015, gan symud i rôl Golygydd Bwyd Digidol, ac yna gofynnwyd iddo arwain lansiad Delish UK yn 2019.
Mae rôl Vicky yn cynnwys goruchwylio tîm sy'n dod â chynnwys bwyd arloesol a chyffrous yn fyw i gynulleidfa lwglyd o fwydgarwyr, o gynnwys hirach i gyfresi fideo cyffrous. Yn ystod y cyfnod hwn, mae Vicky wedi cael nifer o lwyddiannau, gan gynnwys cael ei henwi ar restr fawreddog Forbes 30 Under 30 yn 2022.
Kate O’Connor (BA 2012)
Person Creadigol | Comedïwr | Newidiwr gyrfaoedd
Roedd Kate wrth ei bodd pan gafodd le ar gynllun graddedigion mawreddog Accenture yn 2012. Fodd bynnag, ar ôl ychydig flynyddoedd, sylweddolodd nad ymgynghori ynghylch rheolaeth oedd hi am wneud am byth.
A hithau’n hoff iawn o ysgrifennu yn ei hamser hamdden, ac â diddordeb brwd mewn comedi, penderfynodd ei bod eisiau dilyn llwybr creadigol. Felly, fe aeth amdani ac astudio MA mewn Hysbysebu Creadigol ym Mhrifysgol Falmouth ac aeth yn ôl i fod yn intern yn 26 oed.
Ers hynny mae hi wedi dilyn gyrfa lwyddiannus fel Uwch-swyddog Hysbysebu Creadigol. Ar hyn o bryd mae hi'n Uwch-swyddog Creadigol yn Momentum Worldwide. Mae ei llwyddiannau diweddar yn cynnwys ennill Gwobrau Aur yng Ngwobrau The Drum Experience a Gwobrau Campaign Experience am broses cymryd drosodd Merck Twitch, 'Game On! For MS!’.
Cysylltwch â'n henillwyr
Gallwch gysylltu â’n henillwyr ar Gysylltiad Caerdydd, ein platfform rhwydweithio i gynfyfyrwyr ar-lein. Ewch ati i chwilio am fentor, gofyn cwestiynau am eich diwydiant, a gwneud cysylltiadau ar draws y gymuned gyfan o gynfyfyrwyr.