Enwebu neu ymgeisio

Gallwch chi enwebu pobl nawr ar gyfer y bedwaredd seremoni wobrwyo flynyddol Gwobrau (tua)30.
P’un a ydych chi’n cyflwyno cais eich hun neu’n enwebu rhywun arall, cyflwynwch eich enwebiad erbyn dydd Sul 20 Gorffennaf 2025.
Enillwyr blaenorol
Dyma rai o enillwyr blaenorol (tua)30 sy’n gweithio ar draws ystod o feysydd ledled y byd, i’ch ysbrydoli.
Telerau ac amodau
- Mae'n rhaid i enwebeion fod yn gynfyfyrwyr Prifysgol Caerdydd.
- Gallwch chi enwebu pobl ar gyfer gwobrau 2025 rhwng 12:00, dydd Gwener 11 Ebrill (Amser Haf Prydain) a 23:59, ddydd Sul 20 Gorffennaf 2025 (Amser Haf Prydain).
- Os ydych chi'n enwebu rhywun arall, mae'n rhaid i chi roi caniatâd i ni gysylltu â'r unigolyn i wneud yn siŵr ei fod yn hapus i gael ei ystyried ar gyfer gwobr.
- Drwy wneud enwebiad, rydych yn rhoi caniatâd i'r brifysgol ddefnyddio'r cynnwys rydych wedi'i ddarparu ar ein gwefan, ar gyfer deunydd cyhoeddusrwydd a marchnata.
- Dewisir y rhai sy'n cyrraedd y rownd derfynol gan banel o feirniaid a benodir gan y brifysgol. Bydd penderfyniad y panel yn derfynol, ac ni fyddwn yn cymryd rhan mewn unrhyw ohebiaeth bellach ynglŷn â’r penderfyniad.
- Bydd y rhai a gyrhaeddodd y rownd derfynol a'r rhai a'u henwebodd, yn cael gwybod yn uniongyrchol cyn i unrhyw gyhoeddiadau gael eu gwneud. Os na fydd rhywun sydd yn y rownd derfynol yn dymuno derbyn y wobr, neu os yw wedi dewis peidio â chael gohebiaeth gan swyddfa'r cynfyfyrwyr, mae'r Brifysgol yn cadw'r hawl i ddewis a hysbysu'r nesaf ar y rhestr.
- Bydd pawb sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol yn cael eu gwahodd i ddigwyddiad Gwobrau (tua) 30 oed yng Nghaerdydd ym mis Hydref 2025. Sylwch ni fydd gallu’r enwebion i ddod i’r digwyddiad yn effeithio ar ganlyniad y cais.
- Nid oes rhodd ariannol yn rhan o’r wobr.
- Mae'r brifysgol yn cadw'r hawl i ganslo'r gystadleuaeth neu ddiwygio'r rheolau ar unrhyw adeg, heb roi rhybudd ymlaen llaw.
- Drwy wneud cyflwyniad, rydych yn caniatáu i'r data a ddarperir gennych gael ei ddefnyddio gan y brifysgol at ddibenion gweinyddu'r gystadleuaeth, ac yn unol â pholisi diogelu data Prifysgol Caerdydd. Bydd Tîm Cysylltiadau Cynfyfyrwyr yn cofnodi'r holl enwebiadau yn erbyn cofnod yr enwebai ar y gronfa ddata cynfyfyrwyr er mwyn cyfeirio atynt yn y dyfodol.
- Nid yw'r brifysgol yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am geisiadau a gwblhawyd yn anghywir, neu a gollwyd neu a ohiriwyd, nac am beidio â chynnwys cofnodion o ganlyniad i fethiannau technegol.