Am y Gwobrau (tua)30
Dysgwch fwy am y Gwobrau (tua)30, pwy all wneud cais, a phryd y cynhelir y noson wobrwyo.
Gan osgoi’r fformat traddodiadol o gael rhestr o '30 o dan 30', roedd Gwobrau (tua) 30 yn agored i gynfyfyrwyr o dan 30, yn ogystal â rhai hŷn, ond sy'n teimlo eu bod (tua) 30. Cafodd y Gwobrau eu creu i gydnabod cynfyfyrwyr o Brifysgol Caerdydd sydd wedi creu newid, arloesi a thorri tir Newydd.
Mae enwebiadau bellach wedi cau.
Cymhwysedd
Rydym yn sefydliad blaenllaw ar gyfer addysg uwch. Rydyn ni’n gwrthod cael ein cyfyngu gan rifau di-ystyr. Ac yn unol â’r bobl rydyn ni’n eu dathlu, sy’n torri’r rheolau ac yn arloeswyr, rydyn ninnau'n gwneud pethau mewn ffordd ychydig yn wahanol. Felly, os ydych chi'n gynfyfyriwr o dan neu hyd yn oed dros 30 oed, a chi'n teimlo (tua) 30 oed, gwnewch gais.
Digwyddiad gwobrau
Bydd yr enillwyr y Gwobrau (tua) 30 yn mynd ar y rhestr (tua) 30, yn cael gwobr a gwahoddiad i ymuno â ni i ddathlu yn nigwyddiad y gwobrau ddydd Iau 10 Hydref 2024.
Cynhelir y digwyddiad gan yr Llywydd ac Is-Ganghellor newydd Prifysgol Caerdydd Athro Wendy Larner. Ni fydd angen i chi wisgo'r tei du traddodiadol – dyma dathliad o gynfyfyrwyr dawnus Prifysgol Caerdydd.
Bachwch ar y cyfle i gael eich gweld a chysylltu â chynfyfyrwyr arloesol eraill o Brifysgol Caerdydd. Hyd yn oed os na allwch ddod i’r digwyddiad, gallwch fod yn falch o gael eich cydnabod ar y rhestr fawreddog hon. Rydym yn gwybod bod gennym gynfyfyrwyr gwych ledled y byd a fydd yn cael eu henwebu, a bydd y rhai sy’n cyrraedd y rownd derfynol yn cael eu dewis gan y panel ar sail teilyngdod, nid eu gallu i fynd i’r digwyddiad.