Ewch i’r prif gynnwys

Gwobrau (tua)30

Mae Gwobrau (tua) 30 yn dathlu'r cynfyfyrwyr o Brifysgol Caerdydd sy’n arloesi, ac yn torri tir newydd yn ogystal â thorri rheolau. Gallwch chi enwebu pobl nawr.

Byddwn yn cydnabod rhestr o (tua) 30 o bobl sydd wedi gwneud cyfraniad cadarnhaol yn eu cymuned cyn eu bod yn 30 oed. Wel, (tua) 30 oed.

Am y Gwobrau (tua)30

Dysgwch fwy am y Gwobrau (tua)30, pwy all wneud cais, a phryd y cynhelir y noson wobrwyo.

Enwebu neu ymgeisio

Gallwch chi enwebu pobl nawr! Cyflwynwch eich enwebiad erbyn dydd Sul 20 Gorffennaf 2025.

Gwobrau (tua)30 2024

Darllenwch straeon enillwyr gwobrau (tua) 30 sy’n rhan o’n rhestr 2024 derfynol o gynfyfyrwyr o Brifysgol Caerdydd sy’n arloesi ac yn torri tir newydd yn ogystal â rheolau.

Enillwyr blaenorol

Gwobrau (tua)30 2023

Darllenwch straeon enillwyr (tua)30 2023.

Gwobrau (tua)30 2022

Darllenwch straeon enillwyr (tua)30 2022.

Straeon yr enillwyr

Troi poen yn ddiben: gweledigaeth ar gyfer gofal llygaid sy’n hygyrch i bawb

Optometrydd yw Lucky Aziken (MSc 2023) sy’n darparu gwasanaethau gofal llygaid fforddiadwy a chynaliadwy yn Nigeria a Malawi.

Cyn-fyfyriwr o’r Ysgol Cerddoriaeth yn ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o artistiaid ifanc 

Guy Verral-Withers (BMus 2013) yn cyflwyno opera i gynulleidfaoedd newydd a chynnig llwyfan i artistiaid ifanc fedru llwyddo. 

Hyrwyddo newid cadarnhaol i iechyd meddwl yn y gymuned Fwslimaidd

Jamilla Hekmoun (MA 2018) yw cadeirydd y Gynghrair Iechyd Meddwl Mwslimaidd (MMHA). Bu’n gweithio’n ddiflino yn ystod y pandemig yn darparu adnoddau a chefnogaeth i’r gymuned Fwslimaidd.

Dyn mewn cadair olwyn yn cael ei lun wedi’i dynnu wrth ymyl trên yng ngorsaf danddaearol Llundain Bermondsey.

“Cynnig y rhyddid i bobl ddewis sut maen nhw’n teithio”

Mae Cellan Hall (BSc 2019, MSc 2021) yn datblygu ap sy'n defnyddio data ffynhonnell agored System Danddaearol Llundain i weld a yw lifftiau gorsafoedd y metro yn gweithio.

Cynfyfyriwr Caerdydd yn ‘ymestyn am yr entrychion’

Mae gwaith Dr Jenifer Millard (MPhys 2016, PhD 2021) yn cyflwyno’r podlediad Awesome Astronomy a’i dawn i rannu ei hangerdd, wedi sicrhau cryn waith iddi ym maes cyflwyno ar y teledu a’r radio.

Newid dyfodol gofal cleifion mewn Uned Gofal Dwys (ICU)

Dr Samyakh Tukra (MEng 2017) yw sylfaenydd a Phrif Swyddog Gweithredol Third Eye Intelligence, sydd wedi datblygu system deallusrwydd artiffisial unigryw a phwerus (AI).