Ewch i’r prif gynnwys

I Gynfyfyrwyr, Gan Gynfyfyrwyr

Arddangos eich prosiect, yr hyn rydych chi’n teimlo’n angerddol yn eu cylch, a sgiliau

I Gynfyfyrwyr, Gan Gynfyfyrwyr’ yw ein cyfres newydd o blogiau sy’n rhoi sylw i’r straeon yr hoffech eu hadrodd i’ch cyfoedion. Efallai eich bod yn rhan o brosiect cymunedol anhygoel neu fod eich sefydliad yn arloesi a datrys problemau?

Rydym yn chwilio am gynfyfyrwyr sydd am rannu eu hangerdd ac arddangos eu sgiliau. Dewch yn awdur 'I Gynfyfyrwyr, Gan Gynfyfyrwyr' a chyflwyno’ch syniad.

Rydyn ni'n rhannu'r holl erthyglau yn ein e-gylchlythyr misol i gyn-fyfyrwyr sy'n cael ei anfon at dros 120,000 o gynfyfyrwyr.

Cyflwynwch eich syniad

Darllenwch erthyglau I Gynfyfyrwyr, Gan Gynfyfyrwyr

Mae’r daith yn cychwyn yma – I Gynfyfyrwyr, Gan Gynfyfyrwyr

Mae’r daith yn cychwyn yma – I Gynfyfyrwyr, Gan Gynfyfyrwyr

12 Hydref 2020

Mae Nadine Lock (BA 2001) wedi gweithio mewn Adnoddau Dynol ers dros ddeng mlynedd yn y Trydydd Sector a'r Sector Preifat. Mae'n adlewyrchu ar y daith y mae Dosbarth 2020 yn ei hwynebu, ac yn rhannu rhai pethau y byddai wedi bod yn falch o gael gwybod fel rhywun oedd newydd raddio.

Osgoi chwythu eich plwc drwy ddod o hyd i’ch ‘peth’ – I Gynfyfyrwyr, gan Gynfyfyrwyr

Osgoi chwythu eich plwc drwy ddod o hyd i’ch ‘peth’ – I Gynfyfyrwyr, gan Gynfyfyrwyr

23 Medi 2020

Daeth Gemma Clatworthy (BA 2007) ar draws ei hangerdd dros adrodd straeon pan fu’n astudio Hanes Hynafol ym Mhrifysgol Caerdydd, ond nid tan bandemig byd-eang a chyfnod clo cenedlaethol y dysgodd am bŵer canolbwyntio ar rywbeth rydych chi'n ei garu i leddfu straen. Yma, mae'n rhannu ei brwydrau gyda chydbwyso gyrfa, gofal plant a'r awydd afrealistig i fod yn berffaith, a sut y gwnaeth osgoi chwythu’i phlwc o drwch blewyn drwy ddefnyddio grym ei theimladau i fod yn greadigol.

Mercy Ships, y GIG, a systemau gofal iechyd ar draws y byd – I Gynfyfyrwyr, Gan Gynfyfyrwyr

Mercy Ships, y GIG, a systemau gofal iechyd ar draws y byd – I Gynfyfyrwyr, Gan Gynfyfyrwyr

16 Gorffennaf 2020

Mae Leo Cheng (LLM 2006) yn llawfeddyg y geg, y genau a’r wyneb, y pen, a’r gwddf sydd wedi treulio rhan fwyaf o’i fywyd yn teithio’r byd ac yn helpu’r rheiny o’r ardaloedd tlotaf drwy roi llawdriniaeth am ddim a darparu gofal iechyd sydd ei ddirfawr angen. Mae bellach wedi troi ei sylw a’i ymdrechion tuag at COVID-19 ac mae’n myfyrio ar ei brofiad hyd yn hyn gyda’r GIG a’i bryderon ynghylch y rheiny sydd heb system iechyd gwladol.

Cadw pobl mewn cysylltiad gyda chelf – I Gynfyfyrwyr, Gan Gynfyfyrwyr

Cadw pobl mewn cysylltiad gyda chelf – I Gynfyfyrwyr, Gan Gynfyfyrwyr

22 Mehefin 2020

Mae’r artist a’r pensaer, Katherine Jones (BSc 2011, MArch 2013, PGDip 2015), yn egluro sut ellir ymgorffori grym hiraeth a’n hawydd i ymgysylltu mewn adeiladau a’r celf sy’n eu darlunio.

Cerflun ar gyfer Arglwyddes Rhondda – I Gynfyfyrwyr, Gan Gynfyfyrwyr

Cerflun ar gyfer Arglwyddes Rhondda – I Gynfyfyrwyr, Gan Gynfyfyrwyr

13 Mai 2020

Mae Julie Nicholas (MSc 2005) yn egluro pam ei bod yn codi arian ar gyfer cerflun newydd o gyn-lywydd Prifysgol Caerdydd, Arglwyddes Rhondda, yn ei dinas genedigol yng Nghasnewydd.

Mae gweithio gartref yn gweithio – I Gynfyfyrwyr, Gan Gynfyfyrwyr

Mae gweithio gartref yn gweithio – I Gynfyfyrwyr, Gan Gynfyfyrwyr

21 Ebrill 2020

Yn y cyntaf o’n blogiau i Gynfyfyrwyr, Gan Gynfyfyrwyr, mae Graham Findlay (PgDip 1991) yn ystyried sut y gallai pandemig Covid-19 fod wedi dod â gweithio hyblyg gam yn nes i bobl anabl. Mae Graham wedi bod yn ymgyrchydd dros hawliau anabledd ers blynyddoedd lawer.