Ewch i’r prif gynnwys

Straeon codi arian

Cipolwg ar straeon diddorol gan ein cymuned o gyn-fyfyrwyr. Darllenwch am eu llwyddiannau a’u heffaith, wrth geisio helpu dylanwadu ar y byd ac ar fywydau’r bobl o’u cwmpas.

Codwyr Arian Rhithwir #TîmCaerdydd Nelson Selvaraj

Codwyr Arian Rhithwir #TîmCaerdydd Nelson Selvaraj

2 Hydref 2020

Mae Nelson Selvaraj (MSc 2015) yn aelod o staff ac yn gynfyfyriwr sydd newydd redeg ras rithiol i godi arian ar gyfer ymchwil a gynhelir ym Mhrifysgol Caerdydd. Yma, mae’n sôn am yr hyn a’i ysbrydolodd i wynebu’r her gorfforol hon ac mae’n rhannu ei ddoethineb â’r rheini sy’n ystyried gwneud rhywbeth tebyg.

Cwrdd â’r Ymchwilydd – Dr Sarah Lauder

Cwrdd â’r Ymchwilydd – Dr Sarah Lauder

17 Medi 2020

Canser y fron yw'r canser mwyaf cyffredin ymhlith menywod a phob blwyddyn mae tua 55,000 o bobl yn cael diagnosis yn y DU yn unig. Cyn Mis Ymwybyddiaeth Canser y Fron ym mis Hydref, buom yn siarad â'r ymchwilydd canser Sarah Lauder (BSc 2002, PhD 2007), sy’n Gydymaith Ymchwil yn Lab Imiwnoleg Canser Gallimore Godkin Prifysgol Caerdydd.

Adeiladu dyfodol cynaliadwy ar gyfer yr amgylchedd ynghyd â’r economi 

Adeiladu dyfodol cynaliadwy ar gyfer yr amgylchedd ynghyd â’r economi 

17 Awst 2020

Mae Gerwyn Holmes (BSc 2005), sylfaenydd y busnes newydd arobryn Ecoslurps, yn siarad â ni am ein dibyniaeth ar blastig untro, gwersi a ddysgwyd mewn busnes, effeithiau COVID-19 a’i gyngor ar gyfer Graddedigion 2020.

Myfyrio ar Fywyd – Dino Willox (BA 1996, MA 1999, PhD 2003)

Myfyrio ar Fywyd – Dino Willox (BA 1996, MA 1999, PhD 2003)

17 Awst 2020

Dino Willox yw’r cyfarwyddwr ar gyfer cyflogadwyedd myfyrwyr Prifysgol Queensland ac mae wedi bod mewn sawl rôl ym Mhrifysgol Caerdydd, gan gynnwys Pennaeth Cofnodion Myfyrwyr a Chofrestrydd Cynorthwyol. Roedd Dino hefyd yn fyfyriwr Prifysgol Caerdydd dair gwaith ac mae wastad wedi hyrwyddo amrywiaeth a chynhwysiant mewn Addysg Uwch. Yma, maen nhw’n adlewyrchu ar eu gyrfa, hel atgofion am Gaerdydd, a chynnig cipolwg gwerthfawr.

Hoffi bwyd, casáu gwastraff – bwyta’n foesegol ac effaith y cyfnod clo

Hoffi bwyd, casáu gwastraff – bwyta’n foesegol ac effaith y cyfnod clo

31 Gorffennaf 2020

Mae Lia Moutselou (Daearyddiaeth a Chynllunio 2002-2005) yn uwch-reolwr polisi ar gyfer corff gwarchod dŵr ac yn un o bedwar cyfarwyddwr Lia’s Kitchen, sy’n gwmni buddiant cymunedol. Mae gan Lia brofiadau eang ac mae wedi bod yn ddarlithydd yn ogystal â myfyriwr ym Mhrifysgol Caerdydd. Yma, mae hi’n trafod gwastraff bwyd, y diwydiant bwyd, ryseitiau newydd, a’i barn ar y byd, ar ôl y pandemig.

Delio â chofgolofnau dadleuol yn Estonia a thu hwnt

Delio â chofgolofnau dadleuol yn Estonia a thu hwnt

23 Gorffennaf 2020

Mae Federico Bellentani (PhD 2018) yn rheolwr ymchwil digidol i bartner Google Cloud yn yr Eidal. Mae ei ymchwil PhD am gofgolofnau dadleuol wedi dod yn fwyfwy perthnasol o ganlyniad i brotestiadau rhyngwladol a galwadau i dynnu cerfluniau i lawr. Mae’n trafod ei ddarganfyddiadau o Estonia a’i safbwyntiau ar ddelio â chofgolofnau dadleuol ledled y byd.

Mercy Ships, y GIG, a systemau gofal iechyd ar draws y byd – I Gynfyfyrwyr, Gan Gynfyfyrwyr

Mercy Ships, y GIG, a systemau gofal iechyd ar draws y byd – I Gynfyfyrwyr, Gan Gynfyfyrwyr

16 Gorffennaf 2020

Mae Leo Cheng (LLM 2006) yn llawfeddyg y geg, y genau a’r wyneb, y pen, a’r gwddf sydd wedi treulio rhan fwyaf o’i fywyd yn teithio’r byd ac yn helpu’r rheiny o’r ardaloedd tlotaf drwy roi llawdriniaeth am ddim a darparu gofal iechyd sydd ei ddirfawr angen. Mae bellach wedi troi ei sylw a’i ymdrechion tuag at COVID-19 ac mae’n myfyrio ar ei brofiad hyd yn hyn gyda’r GIG a’i bryderon ynghylch y rheiny sydd heb system iechyd gwladol.

Mae’n rhaid i ddiwydiannau creadigol gefnu ar docenistiaeth, ar fod yn arwynebol ac anwiredd

Mae’n rhaid i ddiwydiannau creadigol gefnu ar docenistiaeth, ar fod yn arwynebol ac anwiredd

26 Mehefin 2020

Mae Joycelyn Longdon (BSc 2019) yn farchnatwr llawrydd a sylfaenydd BLACKONBLACK, asiantaeth greadigol sy’n hyrwyddo amrywiaeth yn y diwydiannau creadigol a chefnogi pobl greadigol o liw. Cawsom air gyda hi am ei gwaith, effaith COVID-19 ac #MaeBywydauDuoBwys, a beth ddaw gyda’r dyfodol.

Cadw pobl mewn cysylltiad gyda chelf – I Gynfyfyrwyr, Gan Gynfyfyrwyr

Cadw pobl mewn cysylltiad gyda chelf – I Gynfyfyrwyr, Gan Gynfyfyrwyr

22 Mehefin 2020

Mae’r artist a’r pensaer, Katherine Jones (BSc 2011, MArch 2013, PGDip 2015), yn egluro sut ellir ymgorffori grym hiraeth a’n hawydd i ymgysylltu mewn adeiladau a’r celf sy’n eu darlunio.

Y teulu sy’n llawn cynfyfyrwyr Caerdydd

Y teulu sy’n llawn cynfyfyrwyr Caerdydd

19 Mehefin 2020

Dr Abdul C.M. Mae Rasheed yn fewnfudwr cenhedlaeth gyntaf o bentref bach gwledig yn Sri Lanka. Roedd yn Swyddog Ymchwil yn yr Ysgol Cemeg rhwng 1975 ac 1978. Mae wedi ymddeol o’i waith fel Uwch-beiriannydd Datblygu erbyn hyn,ond mae ganddo atgofion melys o’i amser yng Nghaerdydd. Mor felys oeddynt, iddo annog ei bedwar o blant i astudio ym Mhrifysgol Caerdydd.