Ewch i’r prif gynnwys

Straeon codi arian

Cipolwg ar straeon diddorol gan ein cymuned o gyn-fyfyrwyr. Darllenwch am eu llwyddiannau a’u heffaith, wrth geisio helpu dylanwadu ar y byd ac ar fywydau’r bobl o’u cwmpas.

Gwersi mewn bywyd gan Leonardo da Vinci – I Gynfyfyrwyr, Gan Gynfyfyrwyr

Gwersi mewn bywyd gan Leonardo da Vinci – I Gynfyfyrwyr, Gan Gynfyfyrwyr

14 Gorffennaf 2021

Mae Rose Sgueglia (BA 2008, PGDip 2009) yn awdur, newyddiadurwr ac ymgynghorydd marchnata wedi'i lleoli yng Nghaerdydd. Sefydlodd Miss Squiggles, cylchgrawn digidol ac asiantaeth marchnata cynnwys ac mae ei gwaith wedi'i gyhoeddi yn GQ, La Repubblica, Yahoo a WI Life. Yma mae hi'n disgrifio'r gwersi bywyd annisgwyl a ddysgodd gan ddyn a oedd yn byw dros 500 mlynedd yn ôl.

Myfyrio ar Fywyd: Agnes Xavier-Phillips YH DR (LLB 1983)

Myfyrio ar Fywyd: Agnes Xavier-Phillips YH DR (LLB 1983)

23 Mehefin 2021

Mae Agnes Xavier-Phillips JP DR (LLB 1983) yn fenyw nad yw'n ofni manteisio ar gyfle. Yn ystod ei gyrfa bu’n gweithio fel athrawes, nyrs, cyfreithiwr, ac mae bellach yn gwirfoddoli ei hamser a’i harbenigedd i gefnogi ystod o sefydliadau gan gynnwys Prifysgol Caerdydd.

Pam mae bod yn Llywodraethwr Ysgol yn rhoi cymaint o foddhad – I Gynfyfyrwyr, Gan Gynfyfyrwyr

Pam mae bod yn Llywodraethwr Ysgol yn rhoi cymaint o foddhad – I Gynfyfyrwyr, Gan Gynfyfyrwyr

23 Mehefin 2021

Pan ymddeolodd Richard Ayling (BA 1968) o fyd busnes, roedd am barhau i wneud y gorau o’i sgiliau a'i brofiad yn ogystal â dod o hyd i ffordd newydd o gyfrannu at y gymdeithas. Yma mae’n disgrifio, ar ôl iddo wneud cais i fod yn Llywodraethwr Ysgol, y llwybr heriol sy’n rhoi cymaint o foddhad iddo.

Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines

Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines

22 Mehefin 2021

Mae rhai o aelodau cymuned o gynfyfyrwyr Prifysgol Caerdydd wedi'u hanrhydeddu yn Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines.

Mae dros draean o Aelodau’r Senedd yn gynfyfyrwyr neu gyn-staff o Brifysgol Caerdydd

Mae dros draean o Aelodau’r Senedd yn gynfyfyrwyr neu gyn-staff o Brifysgol Caerdydd

24 Mai 2021

O'r 60 Aelod o'r Chweched Senedd, mae gan 22 gysylltiadau agos â Phrifysgol Caerdydd ac maent naill ai'n gynfyfyrwyr, yn Gymrodyr er Anrhydedd neu'n gyn-aelodau staff.

Creu amgylchedd gwaith hapusach mewn byd ôl-bandemig

Creu amgylchedd gwaith hapusach mewn byd ôl-bandemig

19 Mai 2021

Mae cynfyfyriwr Prifysgol Caerdydd, Megan Wesley (BA 2015) yn gyd-sylfaenydd ac yn gyfarwyddwr yn Libratum, cwmni 'lles yn y gweithle' a greodd gyda'i mam cyn i COVID-19 daro. Mae Megan yn esbonio pam nawr, yn fwy nag erioed, bod lles mor bwysig ac yn rhannu rhai o'i hawgrymiadau gorau i weithwyr a chyflogwyr i'w helpu i greu lle cadarnhaol i weithio ynddo.

Chwiorydd mewn busnes – cynnyrch cychod gwenyn

Chwiorydd mewn busnes – cynnyrch cychod gwenyn

28 Ebrill 2021

Astudiodd dwy chwaer, Gillian Nimmo (BSc 1985) a Jane Nimmo (BSc 1986) yr un cwrs ym Mhrifysgol Caerdydd dros 30 mlynedd yn ôl ac yn ddiweddar rhoddodd y ddwy eu pennau at ei gilydd i redeg busnes bach ecogyfeillgar o’r enw Let it Bee, yn gwerthu gofal croen cynaliadwy, sebon a cynhyrchion eraill o gychod gwenyn. Maen nhw'n gweithio yn eu ceginau eu hunain, gyda chymorth miloedd o wenyn prysur.

Adfer Coedwigoedd Arfordirol Kenya – I Gynfyfyrwyr, Gan Gynfyfyrwyr

Adfer Coedwigoedd Arfordirol Kenya – I Gynfyfyrwyr, Gan Gynfyfyrwyr

16 Ebrill 2021

Mae grŵp o gynfyfyrwyr Prifysgol Caerdydd wedi cychwyn eu helusen eu hunain o'r enw'r Little Environmental Action Foundation (LEAF). Mae Freddie Harvey Williams (BSc 2014) yn ysgrifennu am ei daith tuag at gadwraeth a gweithio gyda'i ffrindiau o Gaerdydd.

Myfyrio ar Fywyd: Dr Darren Freebury-Jones (BA 2010, MA 2012, PhD 2016)

Myfyrio ar Fywyd: Dr Darren Freebury-Jones (BA 2010, MA 2012, PhD 2016)

16 Ebrill 2021

Mae Dr Darren Freebury-Jones (BA 2010, MA 2012, PhD 2016) yn gyn-fyfyriwr sydd wedi cael tri gradd yng Nghaerdydd ac yn ddarlithydd Shakespeare poblogaidd yn Stratford-upon-Avon. Mae ei angerdd wedi arwain at ddarganfyddiadau rhyfeddol am fyd llenyddiaeth. Mae'n egluro pam y dewisodd ymroi ei hun i'r Bardd, a'r gwersi y mae wedi'u dysgu ar y ffordd.

Bragu storm: Sarah John heb os yw’r Bòs

Bragu storm: Sarah John heb os yw’r Bòs

25 Mawrth 2021

Mae Sarah John (BA 2011), sylfaenydd a chyfarwyddwr Boss Brewing, yn fenyw sy'n benderfynol i gyflawni ei nodau a thorri rhwystrau ar hyd y ffordd. Yma, mae'n disgrifio taith gyffrous llawn llwyddiannau busnes, gan frwydro yn erbyn cewri corfforaethol, dod â'i baban newydd-anedig i gyfarfodydd, a herio'r drefn sydd ohoni yn gyffredinol.