Enwebwch gyn-fyfyrwyr ar gyfer Gwobrau (tua) 30 2024. Rydyn ni’n gwahodd staff i rannu straeon am gyn-fyfyrwyr sydd wedi creu newid, wedi’u hysbrydoli, ac sy’n dangos beth mae'n ei olygu i fod yn un o gyn-fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd.
Y tu ôl i lenni twrnamaint rygbi’r Chwe Gwlad eleni, roedd Kate Davis, sydd â gradd mewn Ffisiotherapi o Brifysgol Caerdydd, yn gweithio'n galed i gadw carfan rygbi Lloegr mewn cyflwr corfforol gwych.
Cyflwynwyd y Wobr Gwyddoniaeth a Chynaliadwyedd i gyn-fyfyriwr Ysgol Pensaernïaeth Cymru, Dr Hashem Taher (MSc 2017) yng Ngwobrau Cyn-fyfyrwyr Study UK yr Aifft.