Gwaddol llawfeddyg o Gymru yma o hyd, ac yn ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o fyfyrwyr meddygol Prifysgol Caerdydd
Bu i Dr John Thomas gael ei eni yng Nghymru, ac yntau’n llawfeddyg uchel ei barch a llawn gweledigaeth, aeth ymlaen i ddilyn gyrfa ddisglair yn UDA. Gwnaeth ei angerdd dros feddygaeth ac addysg er pawb ysbrydoli ei deulu i sefydlu Bwrsariaeth Dr John Thomas, er cof amdano, a’i bwriad oedd cefnogi myfyrwyr meddygol ym Mhrifysgol Caerdydd sy’n ei chael hi’n anodd yn ariannol.
Yr ieuengaf o bump o blant, fe’i anwyd yn 1933, a chafodd ei fagu ym mhentref Dryslwyn, ger Llandeilo. Pan fuodd John yn ifanc iawn, bu farw ei dad a’i fam oedd yn gyfrifol am fagu a chefnogi’r teulu, a rheoli’r fferm fechan oedd ganddynt.
Rhagorodd John yn yr ysgol a’i freuddwyd oedd dod yn feddyg. Serch hynny, doedd y teulu ddim yn gefnog, ac roedd yn debyg y byddai addysg y brifysgol y tu hwnt i'w afael.
Gwenodd ffawd ar John pan fuodd yn llwyddiannus yn cael Ysgoloriaeth — roedd hyn yn gwbl allweddol i’w lwyddiant ac a ganiataodd iddo astudio meddygaeth, ac yn 1952, gadawodd Cymru i astudio ym Mhrifysgol Caeredin.
Nid dim ond trawsnewid cwrs bywyd John a wnaeth y gefnogaeth a gafodd yn ystod y dyddiau cynnar hyn, ond hefyd ei ysbrydoli i roi yn ôl yn ystod y blynyddoedd dilynol. Ac yntau’n eiriolwr cadarn dros addysg, ei ddyhead mwyaf oedd helpu unigolion a ddaeth o gefndiroedd llai breintiedig i gael mynediad i’r fath cyfleoedd a fuddiodd mor ddylanwadol arno.
Bu iddo gwrdd â'i wraig Betty yng Nghaeredin, ac yn haf 1958, wedi iddo raddio, fe wnaeth John gael interniaeth lawdriniaeth gyda Chlinig Guthrie yn Pennsylvania. Fe aeth y pâr priod ati ar daith odidog dramor, gan ddechrau bywyd newydd yn yr Unol Daleithiau.
Ar ôl cwblhau ei gyfnod preswyl, arhosodd John yn y clinig, gan ennill bri yn glinigwr craff a llawfeddyg talentog. Yn sgil hynny, cafodd ei enwi’n Brif Feddyg ac o dan ei arweiniad, daeth enw Clinig Guthrie yn gyfystyr â gofal arloesol i gleifion.
Yn 1972, fe gwblhaodd yr ail 'allolchiad gwaed' llwyddiannus erioed, sef gweithdrefn feddygol sy'n ymwneud â draenio pob diferyn o waed o'r corff. Bachgen saith oed oedd y claf dan sylw, a fu’n dioddef o glefyd Reye, sy’n haint feirysol a oedd bron â bod bob amser yn angheuol - aeth y bachgen mewn i goma a dim ond oriau oedd ganddo i fyw. Ffoniodd John un o’i gyd-feddygon yn Texas a oedd yn adnabyddus am gyflawni’r weithdrefn feddygol lwyddiannus gyntaf ar y clefyd, ac ar ôl cofnodi ambell beth ar bapur, aeth yn ei flaen i gynnal y llawdriniaeth hynod brin hon am yr eildro yn unig mewn hanes. Er gwaethaf pob disgwyl, roedd y llawdriniaeth yn llwyddiannus, gyda'r claf ifanc, Garth Shipman, yn dod ato ei hun drannoeth.
Rhwng 1972 a 1990, roedd John yn Llywydd Guthrie, a fe a arweiniodd y twf a’r datblygiadau aruthrol a welwyd ym maes gofal, lle defnyddiwyd gweithdrefnau llawfeddygol a meddygol mwyaf arloesol y cyfnod. Gwnaeth ymddeol yn 1991, ac er mai yn yr Unol Daleithiau a sefydlodd ei yrfa a’i deulu, roedd ei wreiddiau'n ddwfn yng Nghymru. Gyda’i deulu, fe deithiodd adref sawl gwaith ac roedd yn siarad Cymraeg yn aml gydag aelodau o’i deulu.
Yn anffodus bu farw John yn 2019, ac yntau’n 86 oed. Ac yntau’n gefnogwr hynod frwd dros elusen drwy gydol ei oes, parhaodd ei ddyngarwch drwy anrheg yn ei Ewyllys.
Bydd rhodd hael o $50,000, sydd wedi’i enwi gan ei deulu i’w goffau, yn cefnogi myfyrwyr meddygol ym Mhrifysgol Caerdydd sydd o gefndiroedd difreintiedig a heb gynrychiolaeth ddigonol.
Bydd Bwrsariaeth Dr John Thomas o gymorth ariannol mawr i nifer o fyfyrwyr meddygol i barhau a chwblhau eu hastudiaethau.
Yn yr argyfwng costau byw sydd ohoni, bydd y bwrsariaethau hyn yn gwneud byd o wahaniaeth i'r genhedlaeth nesaf o feddygon, gan sicrhau y bydd y meddyliau gorau a mwyaf disglair yn gallu gwireddu eu breuddwydion - yn yr un modd â John.
Rhoddion er Cof
Drwy ddewis cofio anwylyd drwy roi rhodd i Brifysgol Caerdydd, byddwch yn helpu i achub, newid, a chyfoethogi bywydau yng Nghymru a thu hwnt.
Rhagor o wybodaeth