Troi poen yn ddiben: gweledigaeth ar gyfer gofal llygaid sy’n hygyrch i bawb
Optometrydd yw Lucky Aziken (MSc 2023) sy’n darparu gwasanaethau gofal llygaid fforddiadwy a chynaliadwy yn Nigeria a Malawi. Cawsom sgwrs gyda Lucky i drafod creu gyrfa er lles cymdeithasol ac ar wneud newidiadau go iawn mewn cymunedau nad ydyn nhw’n cael eu gwasanaethu’n ddigonol.
Nid oedd taith Lucky i optometreg yn ddewis gyrfaol syml, ond yn hytrach yn ymateb i foment allweddol yn ei fywyd.
Yn 2006, ymosododd lladron arfog ar ei gartref teuluol, gan saethu ei dad yn ei wyneb. Er y sylw meddygol prydlon a gafodd, nid oedd ei dad yn gallu cyrchu’r gwasanaethau gofal llygaid mwyaf syml a chollodd ei olwg mewn un llygad, ac roedd cymhlethdodau eraill wedi peryglu ei olwg yn y llygad arall.
Yn sgil y profiad hwnnw, ymrestrodd Lucky mewn ysgol optometreg, gan wthio ei hun i ddeall beth y gellid ei wneud er mwyn helpu ei dad. “Dechreuais i ddarllen rhagor gan fy mod i wir eisiau achub llygad arall fy nhad. Ac yn y broses, sylweddoles i fod nifer o bobl eraill wedi cael profiadau tebyg. Dyma fi’n meddwl, 'dyma boen y mae’n rhaid imi ei throi'n ddiben',” eglurai.
Gan fod effaith gymdeithasol yn hytrach nag incwm yn bwysicach iddo, yn 2016 sefydlodd Lucky Vision Care Givers International (VCGi), sef sefydliad nid-er-elw sy’n darparu gofal llygaid fforddiadwy mewn cymunedau heb wasanaeth digonol.
“Penderfynais i y byddwn i’n gwneud fy ngorau glas i sbarduno mudiad, i wneud yn siŵr bod gofal llygaid o safon ar gael ym mhob man. Doedd dim dwywaith yn fy marn i mai dyna oeddwn i eisiau ei wneud, a dyna sut y dechreuodd y freuddwyd,” meddai Lucky.
O dan ei arweinyddiaeth, mae VCGi wedi darparu gofal llygaid sylfaenol i fwy na 21,000 o bobl yn Nigeria a Malawi, a deunyddiau addysgol i fwy na 2 filiwn o bobl.
Gan adleisio profiad ei dad, yn aml ni all y cymunedau y mae Lucky yn eu cefnogi gyrchu’r rhan fwyaf o fathau o ofal llygaid. O ganlyniad i adnoddau cyfyngedig a hylendid gwael, mae’n dyst i lawer o achosion o gataractau a glawcoma, yn ogystal â llid yr amrant ymhlith plant.
Heb bresenoldeb gweithiwr proffesiynol cymwys, meddai Lucky, bydd cymunedau’n ceisio rhoi cynnig ar eu triniaethau eu hunain, sy’n gallu gwaethygu’r cyflyrau hyn. Ac yn achos cleifion sydd â gwallau plygiant, mae pâr o sbectol yn gwneud byd o wahaniaeth.
Mae Lucky yn cofio un claf ifanc nad oedd yn gallu darllen y bwrdd du yn yr ysgol, ac oherwydd hyn bu’n copïo gwaith disgyblion eraill ac yn tanberfformio yn y dosbarth. “Yn sgil pâr syml o sbectol roedd wedi gallu adfer ei golwg,” gwenodd Lucky. “Roedd ei llawenydd a’i chyffro yn amlwg i bawb.”
Ar y cychwyn, symudodd tîm Lucky rhwng y gwahanol gymunedau bob pythefnos, gan gynnal archwiliadau ac yn rhoi triniaethau. Fodd bynnag, yn fuan y sylweddolon nhw fod yn rhaid wrth ofal ac addysg gynaliadwy a pharhaus.
Bellach, mae Lucky yn anelu at sefydlu canolfannau gofal llygaid parhaol mewn ardaloedd lle mae’r angen fwyaf, a hynny er mwyn i’r bobl leol fedru cael archwiliadau a thriniaethau fforddiadwy am ddim a phryd bynnag y bydd eu hangen arnyn nhw.
“Mae gwybod y gall rhywun yn ein cymuned ddeffro un diwrnod a cherdded i mewn i ganolfan gofal llygaid yn rhoi llawenydd mawr imi,” meddai. Nod Lucky yn y pen draw, drwy ei gynlluniau tymor hir i sefydlu 1,000 o ganolfannau lleol ar draws Nigeria, yw mynd i'r afael â dallineb y gellir ei osgoi ledled y wlad.
Wedi hynny, mae'r weledigaeth yn un fyd-eang. “Mae’n hawl ddynol sylfaenol i allu cyrchu gofal iechyd. Beth am weddill Affrica? Beth am y cyfandir nesaf?”
Mae Lucky a’i genhadaeth uchelgeisiol at y dyfodol yn cyd-fynd â hanes cryf o lwyddo. Yn 2019 ymwelodd ei dîm â gwersyll ffoaduriaid yn Malawi, sy'n gartref i fwy na 40,000 o bobl nad oedden nhw erioed wedi ymweld ag arbenigwr llygaid.
“Does dim byd arall fyddai’n rhoi mwy o foddhad imi. Rydych chi wrth eich bodd o wybod bod ychydig o ymdrech wedi gwneud gwahaniaeth enfawr."
Y flwyddyn ganlynol, addasodd Lucky ei waith i’r holl gyfyngiadau COVID-19, gan sefydlu clinig llygaid symudol i ddarparu gofal hanfodol yng nghartrefi’r cleifion, yn ogystal â chefnogi carcharorion mewn carchardai gorlawn.
Mewn pedair canolfan wahanol, aeth ati i greu golchiad antiseptig a deunyddiau addysgol ar gyfer 24,000 o bobl.
Drwy gydweithio â llywodraeth UDA, roedd hefyd yn gallu addysgu pobl yn eu harddegau ar sut i barhau â’r ymdrechion a wnaeth ei dîm o ran amddiffyn y cyhoedd. “Does neb mor fach na fedr achosi newid. Gallwch chi bob amser yn gallu gwneud safiad dros un person,” meddai Lucky.
Roedd astudio gradd meistr Optometreg Glinigol ym Mhrifysgol Caerdydd wedi rhoi min ar sgiliau Lucky, gan ei alluogi i roi cymorth pellach i gymunedau.
“Cyn imi fynd i Gaerdydd roeddwn yn berson cwbl wahanol i’r person ydw i erbyn hyn. Fyddai rhoi min ar fy arbenigedd ddim wedi bod yn bosibl heb y profiad a ges i - yn dilyn fy astudiaethau ro’n i’n well clinigwr a hynny oedd wedi fy helpu i wella’r safon i lefel sydd cystal ag unrhyw le yn y byd.”
Ni ddylai fod yn fawr o syndod i Lucky dderbyn gwobr Cydnabyddiaeth Arbennig ym maes Iechyd a Lles i gyn-fyfyrwyr ysbrydoledig y llynedd yng Ngwobrau (tua)30 Prifysgol Caerdydd.
Mae’n rhoi cyngor hynod werthfawr i ddarpar wneuthurwyr newid sydd eisiau cefnogi eu cymunedau.
“Dewch o hyd i'r boen na allwch chi ei goddef a'i newid, os gallwch chi. Ni waeth pa mor fach yw’r newid hwnnw, bydd yna bob amser wahaniaeth y gallwch chi ei wneud.”
Gwobrau (tua)30
Darllenwch straeon enillwyr gwobrau (tua) 30 sy’n rhan o’n rhestr 2023 derfynol o gynfyfyrwyr o Brifysgol Caerdydd sy’n arloesi ac yn torri tir newydd yn ogystal â rheolau.
Darllen fwy