Ewch i’r prif gynnwys

Ers sefydlu Gŵyl Opera Waterperry, mae cynwysoldeb wedi cymryd canol y llwyfan. Gyda rhaglen amrywiol o berfformiadau yn yr iaith Saesneg – o Mansfield Park i Revolting Rhymes gan Roald Dahl – mae’r ŵyl wedi dod ag opera i gynulleidfaoedd newydd ers 2018. O gefn llwyfan, caiff Guy Withers, sylfaenydd yr ŵyl a chyn-fyfyriwr o Brifysgol Caerdydd, ei ysgogi gan y syniad y gall opera newid bywydau pobl.

“Celf, cerddoriaeth, theatr, dawns – dyma sy’n gwneud bywyd yn arbennig, ondife?” meddai gan wenu. A’r ŵyl bellach yn nesáu at ei seithfed flwyddyn, bu i’w chynulleidfa gynyddu’n sylweddol dros y blynyddoedd, o 900 o bobl yn ei pherfformiad cyntaf a gynhaliwyd dros dridiau, i 5,000 o bobl dros gyfnod o ddeg diwrnod yn 2023.  

Wedi'i lwyfannu yng Ngerddi Waterperry yn Rhydychen, mae'r digwyddiad awyr agored hwn yn hynod bictiwrésg. Ond, er yr amgylchoedd moethus hyn, mae Waterperry yn chwalu rhai o’r rhagdybiaethau cyffredin am opera fel perfformiad sy’n elitaidd neu y tu hwnt i gyrraedd. “Mae'n debycach i Glastonbury na Glyndebourne,” meddai Guy.

Drwy flaenoriaethu gwerthu tocynnau sy’n fforddiadwy a llwyfannu cynyrchiadau sy’n gymdeithasol berthnasol, parha’r ŵyl i groesawu pobl sy’n mynd i’r opera am y tro cyntaf, gan gynnwys teuluoedd sy’n awyddus i fynd yn ôl at fyd natur. Un o uchafbwyntiau arbennig yr ŵyl oedd perfformiad awyr agored o Hansel a Gretel yn y coetir a gynhaliwyd mewn cydweithrediad â chymunedau byddar lleol.

“Yn hytrach na chael cyfieithydd ar y pryd Iaith Arwyddion Prydain, fe wnaethon ni gynnwys cymeriad byddar yn y sioe a arwyddodd ynddi,” eglurodd Guy. “Felly, i’r holl blant yn y gynulleidfa oedd yn fyddar neu’n gallu arwyddo, fe wylion nhw rywbeth oedd yn gweddu iddyn nhw.”  

Daeth angerdd Guy am ganu i’r amlwg pan oedd yn ifanc, ond nid tan ei arddegau y bu iddo ddarganfod opera. “Hyd at y pwynt hwnnw, astudio mathemateg neu beirianneg oedd fy nyhead, a pharhau â cherddoriaeth fel hobi ychwanegol,” meddai. Wedyn, tra oedd ar wyliau gyda’i deulu yn Awstralia, gwnaeth Guy, a oedd yn llawn amheuon am opera ar y cychwyn, weld ei opera gyntaf, ac yn Nhŷ Opera Sydney, lleoliad heb ei ail. Cynhyrchiad modern wedi’i osod yn ystod y 1920au yn Efrog Newydd oedd y sioe a welsai, sef dewis a fyddai’n cael dylanwad mawr ar ei syniadau ynghylch perfformiadau cyfoes. Dyma fe’n disgrifio’r foment honno o ysbrydoliaeth: “Do’n i ddim yn disgwyl iddo fod mor ddiddorol a nwydus - welais i erioed unrhyw beth tebyg o’r blaen. Dywedais wrth fy rhieni, 'dyna beth dw i eisiau ei wneud'.”

Guy Verral-Withers (BMus ​​2013)
Revolting Rhymes gan Roald Dahl, Gŵyl Opera Waterperry

Rhai blynyddoedd yn ddiweddarach, ymgeisiodd Guy am Brifysgol Caerdydd, gan ennill ysgoloriaeth i astudio Cerddoriaeth, rhywbeth a roddodd hwb go iawn i’w hyder: “Roedd yn deimlad arbennig i gael yr ymdeimlad hwnnw o hunangred. Rwy'n credu y gall profiadau o’r fath newid eich bywyd yn wirioneddol." Yn nes ymlaen, byddai'n ymuno â Chymdeithas Opera'r Brifysgol, lle y gwnaeth perfformiad o Pride and Prejudice ei osod ar y trywydd iawn ar gyfer gyrfa ym maes cynhyrchu.

“Syrthiais mewn cariad â Chaerdydd a pha mor gerddorol oedd y ddinas,” meddai. “Roeddwn i’n teimlo bod gan yr Adran Gerdd ffydd yn fy ngallu ac roedd y staff yn gefnogol iawn. Roedd yn lle perffaith i mi, ac ni allwn fod wedi dychmygu bod mewn unrhyw le arall.”  

Mae Guy nawr yn rhoi yn ôl am y gefnogaeth honno a gawsai drwy ei waith yn Waterperry. Fel yr eglurai, ar gyfer artistiaid sy'n dod i'r amlwg ac yn dymuno cael mynediad at addysg, gall y diffyg cymorth ariannol a’r prinder cyfleoedd y tu allan i Lundain fod yn rhwystr mawr.

“Mae llawer o hyfforddiant yn rhan o’r broses, ond mae angen cael yr wybodaeth a'r arian i gyrraedd yno yn y lle cyntaf,” meddai.

Yr ateb sydd gan Waterperry i’w gynnig yw'r Rhaglen Artistiaid Ifanc, sef menter a ariennir yn llawn, sydd nid yn unig yn cefnogi cyfranogwyr i arddangos eu doniau, ond sydd hefyd yn eu harfogi â’r offer sydd eu hangen arnyn nhw i lwyddo fel gweithwyr creadigol proffesiynol. Mae darpar artistiaid ar y llwyfan, a’r rheini y tu cefn iddi, yn elwa’n fawr o fentora a lleoliadau gwaith, yn ogystal â chael cyngor ar CVs a chlyweliadau, sy’n amhrisiadwy.

“Mae wedi bod yn eithriadol o fuddiol,” meddai Guy. “Mae gennym ni lwyddiannau i’w hadrodd am bobl fuodd ar y cwrs sydd bellach yn canu yn y Tŷ Opera Brenhinol.” Hyd yma, mae'r fenter eisoes wedi cefnogi 50 o egin artistiaid, ond nid yw uchelgais Guy o ehangu mynediad at y celfyddydau yn dangos unrhyw arwydd o arafu.

Wrth edrych tua’r dyfodol, ei fwriad yw cydweithio ag ysgolion lleol, dod â mwy o gynulleidfaoedd ifanc yn agosach at fyd y celfyddydau, a rhannu’r ysbrydoliaeth greadigol honno a roddodd gychwyn ar ei yrfa ei hun.  

Bydd Gŵyl Opera Waterperry 2024 yn cael ei chynnal rhwng 9 a 18 Awst.

Rhagor gan gylchgrawn Cyswllt Caerdydd

Cyswllt Caerdydd 2024

Yn rhifyn Haf 2024 o’ch cylchgrawn cyn-fyfyrwyr a ffrindiau, byddwch yn clywed sut mae ein cyn-fyfyrwyr dawnus yn cefnogi’r genhedlaeth nesaf o fyfyrwyr ac yn gwneud gwahaniaeth i’r byd o’u cwmpas. Dysgwch sut mae ein hymchwilwyr yn datblygu ein dealltwriaeth o dwbercwlosis ac yn defnyddio technoleg flaengar i wella iechyd menywod byd-eang.

Rhoi’r cyfleoedd gorau i fyfyrwyr archaeoleg y dyfodol

Mae Julia Wise (BA 1986) yn helpu i sicrhau bod y genhedlaeth nesaf o archaeolegwyr yn gallu astudio ym Mhrifysgol Caerdydd, yn rhydd o bwysau pryderon ariannol.

Gwaddol llawfeddyg o Gymru yma o hyd, ac yn ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o fyfyrwyr meddygol Prifysgol Caerdydd

Gwnaeth angerdd Dr John Thomas dros feddygaeth ac addysg er pawb ysbrydoli ei deulu i sefydlu Bwrsariaeth Dr John Thomas.