Cynfyfyriwr Caerdydd yn ‘ymestyn am yr entrychion’
Mae Dr Jenifer Millard (MPhys 2016, PhD 2021) yn gyfathrebwr gwyddoniaeth sy’n arbenigo ym maes seryddiaeth. Mae ei gwaith yn cyflwyno’r podlediad Awesome Astronomy a’i dawn i rannu ei hangerdd, wedi sicrhau cryn waith iddi ym maes cyflwyno ar y teledu a’r radio. Buom yn siarad â hi am ei hamser yng Nghaerdydd a sut mae merch o’r Barri yn ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o fenywod ym maes STEM.
Mae Dr Jenifer Millard (MPhys 2016, PhD 2021) yn gyfathrebwr gwyddoniaeth sy’n arbenigo ym maes seryddiaeth. Mae ei gwaith yn cyflwyno’r podlediad Awesome Astronomy a’i dawn i rannu ei hangerdd, wedi sicrhau cryn waith iddi ym maes cyflwyno ar y teledu a’r radio. Buom yn siarad â hi am ei hamser yng Nghaerdydd a sut mae merch o’r Barri yn ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o fenywod ym maes STEM.
Wrth sgwrsio â ni o’i chartref ychydig ddyddiau cyn ei phen-blwydd yn 30 oed, mae Jeni’n siarad yn frwd am ei phrosiectau diweddaraf. A hithau eisoes wedi cyflawni gymaint, a hithau mor ifanc, nid yw’n syndod iddi gael ei chydnabod yng Ngwobrau (tua)30 Prifysgol Caerdydd 2022 – rhestr o 30 o gynfyfyrwyr ysbrydoledig, sydd yn (tua)30 oed, o Brifysgol Caerdydd.
Wrth siarad am pam y dewisodd Brifysgol Caerdydd, dywedodd Jeni bod ei phenderfyniad yn seiliedig ar nifer o ffactorau.
“Roeddwn i’n gwybod bod adran Ffiseg a Seryddiaeth Prifysgol Caerdydd gyda’r gorau yn y byd,” meddai. “Maen nhw’n gwneud gwaith rhyfeddol ym mhob maes ffiseg a seryddiaeth, ac roeddwn i wir eisiau bod yng nghwmni’r gorau.”
“Roeddwn i’n wirioneddol falch o allu mynd i rywle a oedd yn ennyn cymaint o barch ledled y byd, ond sydd hefyd yn agos at adref. Oherwydd dwi’n caru fy nheulu.” Meddai Jeni wrthon ni.
Er ei bod yn mwynhau bod yn agos i’w chartref, wnaeth hyn ddim atal Jeni rhag gwneud y mwyaf o bob cyfle o ran bywyd myfyrwyr yng Nghaerdydd, ac mae wedi gwneud ffrindiau oes. “Rwy’n dal yn cadw cysylltiad agos â nifer o’r bobl y gwnes i gyfarfod â nhw yng Nghaerdydd, yn ystod fy astudiaethau israddedig a PhD. Yn wir, mae rhai o fy ffrindiau gorau yn bobl y gwnes i eu cyfarfod yn y brifysgol,” ychwanegodd.
“Cefais hyfforddiant gan Brifysgol Caerdydd gan fy mod yn helpu gyda Diwrnodau Agored ac yn ymgysylltu â’r cyhoedd yn yr Amgueddfa Genedlaethol,” cofia â gwên. “Cefais fy mhrofiad cyntaf o fod ar y radio yng Nghaerdydd hefyd. Fe wnaeth hynny oll, yr hyfforddiant a chael rhyngweithio yn y modd hwnnw â’r cyhoedd yn y digwyddiadau hyn, wneud i mi sylweddoli fy mod yn hoff iawn o wneud gwaith allgymorth.”
Dechreuodd y cariad at seryddiaeth yn gynnar ym mywyd Jeni. “Dw i’n meddwl fy mod i wastad wedi bod â meddwl gwirioneddol chwilfrydig, ond o ran ymddiddori ym maes seryddiaeth, bai fy nhad yw hynny’n llwyr,” chwarddodd. “Mae fy nhad wedi bod â diddordeb angerddol mewn seryddiaeth erioed, ond heb gael addysg ffurfiol yn y maes, a phan oeddwn i’n wyth oed, fe ddangosodd y Lleuad i mi trwy ei delesgop.”
“Doeddwn i ddim yn gallu credu’r hyn roeddwn i’n ei weld. Roeddwn i’n gallu gweld cysgodion y craterau, y cadwyni mynyddoedd, a’r dyffrynnoedd, ac yn sydyn, daeth y cyfan yn fyw o flaen fy llygaid.”
Yn ogystal â’i gwaith ar y podlediad Awesome Astronomy, mae Jeni’n brif olygydd ac awdur erthyglau ar gyfer Fifth Star Labs – y cwmni sy’n gyfrifol am yr ap ar gyfer syllu ar y sêr Sky Guide. Yn ogystal â hyn, mae hi’n parhau i fod yn gyflwynydd ar gyfres Weatherman Walking y BBC gyda’i chyd-frodor o’r Barri, Derek Brockway.
Wrth siarad am ei rolau presennol, yn aml dyw Jeni methu credu fod y cyfan yn digwydd. “Rwy’n pinsio fy hun weithiau oherwydd rwy’n teimlo’n lwcus iawn fy mod i’n caru fy swydd, ac rydw i wir yn caru’r hyn rydw i’n ei wneud,” meddai.
Yn hanu o’r Barri yn Ne Cymru, mae Jeni’n falch o gynrychioli ei thref enedigol trwy ei gwaith podledu, a’i gwaith ar y teledu a’r radio. “Weithiau dwi wir jyst yn teimlo fel merch o’r Barri, ac rydw i hefyd wedi gwneud pethau rhyfeddol yn fy ngyrfa. Dydw i ddim eisiau i hynny ymddangos fel tawn i’n canu fy nghlodydd fy hun, ond rydw i’n falch iawn o’r hyn rydw i wedi’i gyflawni.”
Wrth gydnabod ei chyflawniadau ei hun, mae Jeni yn ymwybodol iawn o’r rôl y mae’n ei chwarae o ran bod yn fenyw sy’n gweithio ym maes STEM (gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg, a mathemateg). “Dyna un o’r rhesymau dw i wir yn mwynhau gwneud gwaith teledu. Er mwyn i mi allu bod y person hwnnw sydd ar y sgrîn a bod merched eraill yn gallu dweud ‘hwre, mae hi’n ferch, mae hi’n dod o dref fach. Edrychwch beth mae hi’n ei wneud - efallai y galla i wneud hynny hefyd?’”
Rhoddodd Jeni ei chyngor ei hun i unrhyw fenyw sydd am ddilyn gyrfa ym maes STEM. “Rydw i bob amser yn annog unrhyw ferch i ymddiddori ym maes STEM os mai dyna beth rydych chi eisiau ei wneud - dilynwch eich breuddwydion a gwnewch yr hyn sy’n eich gwneud chi’n hapus. Os ydych chi am fod yn seryddwr, yn gemegydd yn ffisegydd, yn beiriannydd, ewch amdani! Gallwch chi gynrychioli’r newid.
Mae Jeni yn serennu ym maes seryddiaeth ac mae wedi dod o hyd i ffordd unigryw o rannu cyfrinachau’r sêr gyda chynulleidfaoedd newydd. Mae ei brwdfrydedd, ei hangerdd a’i dawn i wneud hyd yn oed y pynciau mwyaf cymhleth yn hygyrch i bawb, yn ysbrydoli cenhedlaeth newydd o seryddwyr a ffisegwyr.