Ewch i’r prif gynnwys

Myfyriwr PhD yn ei hail flwyddyn yw Laura Abram (Meddygaeth 2023-), sy’n gweithio yn y Sefydliad Arloesi er Niwrowyddoniaeth ac Iechyd Meddwl, Prifysgol Caerdydd.

Mae ei gwaith yn edrych ar Dystonia, sef cyflwr niwrolegol sy'n achosi gwingiadau cyhyrol nad oes modd eu rheoli, ac amcangyfrifir ei fod yn effeithio ar 100,000 o bobl yn y DU.

Dyma Laura yn trafod ei gwaith gyda ni, ac â’i ddiben yw deall yr anhwylder yn well er mwyn ceisio datblygu iachâd yn y pen draw.

"Anhwylder niwrolegol yw Dystonia, sy'n achosi gwingiadau cyhyrol anwirfoddol, gan arwain at osgo annormal neu symudiadau ailadroddus. Mae’r symptomau hyn yn gallu bod yn boenus iawn, a gallan nhw ddechrau ar unrhyw oedran. Mae rhai pobl sy’n dioddef o ddystonia hefyd yn profi symptomau iechyd meddwl, aflonyddwch cwsg, a namau gwybyddol.

"Ar hyn o bryd, nid oes iachâd yn bodoli, ac mae’r triniaethau’n anelu at reoli symptomau’r unigolyn neu lawdriniaethau ymwthiol i osod mewnblaniadau. Er mwyn gallu cynnig gwell triniaethau, mae’n bwysig ein bod yn deall yn union beth sy’n achosi’r anhwylder.

Laura Abram (Meddygaeth 2023-)

"Astudiais i Beirianneg Feddygol ym Mhrifysgol Abertawe, ac yna Technolegau Bôn-gelloedd a Meddygaeth Adfywiol ym Mhrifysgol Nottingham, a bellach, rydw i’n defnyddio bôn-gelloedd i ymchwilio i weithrediad yr ymennydd mewn unigolion sydd â Myoclonus Dystonia.

"Ac yntau wedi'i achosi gan fwtadiad genetig, mae'r math hwn o dystonia yn arwain at gynhyrchu math penodol o brotein mewn modd annormal.

"Er ein bod yn gwybod pa brotein a gaiff ei effeithio gan Myoclonus Dystonia, mae ei swyddogaeth yn yr ymennydd neu sut mae hyn yn arwain at symptomau’r claf yn dal i fod yn aneglur.

"Er mwyn ateb y cwestiynau hyn, rydyn ni’n edrych ar sut mae'r protein hwn yn effeithio ar wahanol fathau o gelloedd yn yr ymennydd. Rydyn ni’n casglu samplau gwaed gan gleifion i greu 'bôn-gelloedd amlbotensial cymelledig' y byddwn ni’n eu defnyddio i gynhyrchu niwronauv

"Mae niwronau yn fathau o gelloedd yn yr ymennydd sy'n tanio signalau trydanol ar draws y rhwydwaith. Gallwn ni fesur gweithgarwch trydanol y niwronau o fewn y rhwydwaith neu oddi mewn i gelloedd unigol.

"Mae hyn yn ein galluogi i ymchwilio i elfennau penodol o’r gweithgarwch hwn a allai, o bosib, gael ei effeithio gan Myoclonus Dystonia.

"Hefyd, rydyn ni’n ymchwilio i’r rhan y mae’r protein hwn yn ei chwarae mewn astrocytau, sef celloedd cefnogol yn yr ymennydd.

"Mae rhoddwyr wrth galon yr ymchwil hon, gan ein bod yn dibynnu ar y cyllid hanfodol y maen nhw’n ei roddi i barhau i ddefnyddio ein hoffer.

"Diolch yn fawr iddyn nhw, ac ein gobaith yw ennill dealltwriaeth ddyfnach o Myoclonus Dystonia.

"Drwy ddysgu am y protein sydd wedi’i effeithio, gallwn ni ddeall achos yr anhwylder yn well a byddwn ni’n un cam yn nes at ganfod iachâd.

Gweithgarwch trydanol oddi mewn i un gell wedi'i fesur gan ddefnyddio rig profi electroffisiolegol

Yr ymchwilwyr a’r myfyrwyr yr ydych wedi helpu i’w cefnogi

Darllenwch am y gwaith sy’n cael ei wneud i achub a newid bywydau yng Nghymru a thu hwnt, a pharatoi’r genhedlaeth nesaf o fyfyrwyr ar gyfer bywyd ar ôl Caerdydd.

Deall sgitsoffrenia ac anhwylder deubegwn

Mae Elle Mawson (Meddygaeth 2021-) yn gwella ein dealltwriaeth o’r hyn sy’n digwydd yn ymennydd cleifion â seicosis.

Atal lledaeniad twbercwlosis

Mae Dr Tamas Barry (MBBCh 2020, PhD Meddygaeth 2022-) yn helpu i wella dulliau o ganfod twbercwlosis a gofal twbercwlosis ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.