Gadael gwaddol i gerddorion y dyfodol
Daeth Michael Bell MBE (BM 1981)) i Gaerdydd i astudio cerddoriaeth yn 1978. Ef yw arweinydd Cerddorfa Ffilharmonig Caerdydd, a sefydlwyd ganddo ym 1982. Ar ôl dros 40 mlynedd a bron i 400 o gyngherddau yn ddiweddarach, mae Michael wedi dewis gadael rhodd i Brifysgol Caerdydd i gefnogi myfyrwyr cerddoriaeth y dyfodol, na fyddent o bosibl yn cael cyfle i fynd i’r brifysgol fel arall.
Rwy’n dod o Gastell-nedd ac es i ysgol oedd â thraddodiad hir o ragoriaeth mewn cerddoriaeth a gweithgareddau chwaraeon. Roeddwn yn adnabod sawl disgybl oedd wedi astudio cerddoriaeth ym Mhrifysgol Caerdydd, lle’r oedd cyfuniad o’r byd academaidd a gwneud cerddoriaeth ymarferol heb ei ail. Y cydbwysedd hwnnw a’m denodd i ddod i Gaerdydd, a dechreuais fy astudiaethau yn hydref 1978 a graddio yn haf 1981 gyda gradd Baglor mewn Cerddoriaeth.
Yn ystod fy amser ym Mhrifysgol Caerdydd, fe wnes i fwynhau cwrdd â chymaint o bobl o wahanol rannau o’r DU, ac o gefndiroedd gwahanol. Dyma lle dechreuais arwain, yn gyntaf yng nghyngherddau Cymdeithas Cerddoriaeth y myfyrwyr ac yn ddiweddarach, wedi fy annog gan Clifford Bunford - arweinydd Côr a Cherddorfa’r Brifysgol - i’w gynorthwyo i baratoi cyngherddau. Roedd y cyfan yn brofiad gwych i mi, ac rwy’n edrych yn ôl ar fy nghyfnod yn fyfyriwr gyda hoffter mawr.
Yn ystod y cyfnod yr oeddwn yn fyfyriwr gallem wneud cais am grantiau, yn seiliedig ar incwm ein rhieni. Nid oedd yn rhaid talu’r grantiau hyn yn ôl, felly nid oedd gennym y lefel o ddyled sydd gan fyfyrwyr heddiw. Roeddwn i eisiau rhoi rhywbeth yn ôl i bobl ifanc sy’n mynd i gael yr un profiad sy’n newid bywyd a ges i ym Mhrifysgol Caerdydd, blynyddoedd yn ddiweddarach! Rwy’n gadael rhodd i helpu myfyrwyr yn yr Ysgol Cerddoriaeth, sydd dan anfantais ariannol, ac yn enw fy Hen Fodryb Winifred annwyl.
Rwy’n gobeithio y gall fy rhodd helpu mewn rhyw ffordd. Ar ôl i mi wneud fy nghyswllt cyntaf roedd yn hawdd iawn, a theimlais fy mod wedi fy nghefnogi drwy gydol y broses gan Sarah Morgan-Davies. Os gallwch wneud hynny, ystyriwch adael rhodd yn eich Ewyllys i Brifysgol Caerdydd, gan fod y cymorth y bydd yn ei roi i fyfyrwyr y dyfodol yn anfesuradwy.
Darganfod Fwy
Darganfod fwy am gefnogi myfyrwyr Prifysgol Caerdydd, neu ymchwil gyda rhodd yn eich Ewyllys.