Gwybod beth hoffech chi ei wneud ar ôl tyfu i fyny – Bossing It
Manteisio ar ddoethineb a gwybodaeth eich cymuned o gynfyfyrwyr am yrfaoedd. Mae ein cyfres 'Bossing It' yn dwyn ynghyd gyngor ar yrfaoedd gan ystod o gynfyfyrwyr. Mae cynfyfyrwyr llwyddiannus yn rhannu eu profiadau ym mhob rhifyn i helpu cenhedlaeth nesaf cynfyfyrwyr Caerdydd. Mae'r rhain yn cynnwys awgrymiadau ymarferol ar gyfweliadau a CVs, blas ar fyd gwaith, ac ati.
‘Beth hoffech chi ei wneud ar ôl tyfu i fyny?’ Mae hwn yn gwestiwn a ofynnir yn aml i blant, ond tra bod rhai yn cyflawni dyheadau eu plentyndod, efallai bod eraill yn dal i chwilio am eu swydd ddelfrydol pan yn oedolyn ac ni ddylai hynny fod yn dabŵ! Cawsom sgwrs gyda rhai o'ncyn-fyfyrwyr anhygoel am y cwestiwn oesol hwn.
Sam MacGregor (BSc 2020)
Ar hyn o bryd, mae Sam MacGregor (BSc 2020) yn cyd-gyflwyno’r sioe Weekend Breakfast ar BBC Radio 1. Cychwynnodd ar ei daith i fyd y cyfryngau gan wirfoddoli gyda Xpress Radio yn Undeb Myfyrwyr Caerdydd. Ar ôl iddo ennill sawl gwobr, gan gynnwys y wobr “Sioe Adloniant Orau” gan Gyfryngau Myfyrwyr Caerdydd a’r “Cyflwynydd Radio Gwryw Gorau” yn y Gwobrau Radio Myfyrwyr yn 2019, buodd yn llwyddiannus wrth gipio’r cyfle i weithio i BBC Radio 1 am y tro cyntaf, a hynny dim ond blwyddyn yn ddiweddarach. Dros y tair blynedd diwethaf, mae wedi bod yn gyflwynydd ar sawl sioe radio, sy’n cynnwys, yn eu plith, 'The Official Chart', Early Breakfast ac roedd yn gyflwynydd radio a theledu byw yn ystod gwyliau cerddorol fel Reading a Leeds, Boardmasters, a Big Weekend Radio 1. Mae Sam hefyd yn cyflwyno digwyddiadau byw ac yn DJ, yn aml yn ymddangos ar lwyfannau ledled y DU.
Dywedwch ‘ie’
Rydw i wastad wedi bod yn berson chwilfrydig iawn, ac wrth imi dyfu i fyny, roeddwn i'n gwybod mai gweithio mewn amgylchedd cymdeithasgar oedd fy nyhead. Pan oeddwn i’n ifanc, byddwn i’n gwrando ar y radio ar y ffordd i'r ysgol. Yn aml iawn, byddwn i’n tueddu i feddwl am 'y bobl hynny' yn siarad ar y radio, a gwnaeth daro deuddeg â fi bod rhywun yn cael ei dalu (!) i eistedd gyda’i ffrindiau a chael sgwrs a sbri yng nghwmni eu gilydd, tra bod eraill yn gwrando. Roedd gen i obsesiwn â gwybod mwy, ac eisiau bod yn rhan o'r difyrrwch, pan wnes i diwnio i mewn.
Roedd cymaint o swyddi o ddiddordeb i mi, ond nid tan i mi ddod i'r brifysgol y cefais y cyfle i roi cynnig ar ystod o brofiadau newydd sydd bellach yn llywio'r gwaith rwy'n ei wneud. Er y gwnaeth astudio Daearyddiaeth roi boddhad i mi ar yr ochr academaidd, y cymunedau a'r cyfleusterau a fu i Gaerdydd eu cynnig i mi a wnaeth danio fy angerdd. Gwnes i wirfoddoli gyda Xpress Radio a arweiniodd at gyflwyno rhaglenni byw, cyfweld ag artistiaid, bod yn gyflwynydd ar y llwyfan, cynllunio digwyddiadau elusennol, a llawer mwy. Fel rhan o fy nhymor dramor yn Sydney, fe wnes i hyd yn oed gyflwyno rhaglenni dros nos ar orsaf radio yn Awstralia. Hon oedd y sioe unigol gyntaf imi erioed ei chynllunio, ei chynhyrchu a’i chyflwyno, a’r holl beth ar fy mhen fy hun – gwnes i hyd yn oed ferlota 30 munud drwy dirwedd wyllt er mwyn cyrraedd yn brydlon i gyflwyno’r slot hanner nos tan 4am! Os nad oeddwn wedi dilyn fy chwilfrydedd ym mêr fy esgyrn, ni fyddwn wedi gallu ymroi fy hun a gweithio yn y diwydiannau creadigol fel rwy’n ei wneud ar hyn o bryd.
Felly, fy nghyngor i yw rhoi cynnig ar gymaint o brofiadau newydd â phosib, gan ddysgu sut i fethu ar hyd y ffordd! Gwthiwch eich ffiniau a dysgwch o'r profiadau newydd a gewch chi drwy hynny. Gwnaeth ddweud 'Ie' fy arwain at gwrdd â ffrindiau gydol oes a dysgu set o sgiliau gwerthfawr na allwn wedi’i chael drwy 'ddarllen llyfr'. Rydw i o’r farn yr ydych chi’n dysgu’r gwersi gorau wrth dreialu pethau newydd a gwneud camgymeriadau ar hyd y ffordd, ac mae’r ddau brofiad wedi fy nhywys i ble rydw i heddiw.
Sheilla Mamona (BSc 2016)
Newyddiadurwr Llawrydd yw Sheilla Mamona, a adnabyddir fel arall fel Shei [SHAY] gyda chydnabyddiaeth mewn cyhoeddiadau fel Vogue, GLAMOR Magazine, Allure, The Sunday Times STYLE, Cosmopolitan a The Telegraph. Ers graddio mewn Mathemateg mae hi bellach yn treulio amser yn ysgrifennu am harddwch, chwaraeon, adloniant a ffordd o fyw yn ogystal â chyfweld â rhestr hir o enwogion. Mae amlygrwydd a gwaith Sheila wedi ennill Gwobr Canmoliaeth Uchel British Society of Magazine Editors Awards (BSMEs). Mae hi'n teimlo’n angerddol am gydraddoldeb hil, a bellach yn treulio llawer o amser yn eirafyrddio, sglefrio a theithio.
Anaml y bydd llwybr bywyd yn gwbl syth, gwnewch beth sy'n eich gwneud chi'n hapus
Ar ben hynny Siŵr o fod, pan fyddwch chi'n graddio, byddwch yn ansicr o hyd o’r hyn rydych chi eisiau bod pan fyddwch chi'n tyfu. Mewn gwirionedd, wrth i chi dyfu, efallai byddwch yn ceisio o hyd i ddarganfod beth rydych chi eisiau bod pan fyddwch chi wedi 'tyfu lan'. Mae'n gas gen i ddweud hyn, ond lluniad cymdeithasol mewn gwirionedd yw amser. Yn blentyn roedd gen i lawer o ddyheadau mewn golwg: meddyg, cyfreithiwr, cantores, actores, peiriannydd, newyddiadurwr, athletwr, (roedd rhain yn gymharol gyfyngedig i'r hyn oedd y gymdeithas yn dangos i fod yn llwyddiannau).
Pan gyrhaeddais i lefel TGAU, Deintyddiaeth oedd y dewis, ond erbyn i ddiwrnod canlyniadau safon uwch gyrraedd, penderfynais setlo ac astudio gradd Mathemateg yn y brifysgol. Heb unrhyw uchelgais o fod yn fathemategydd (ro’n i wastad yn gwybod fy mod yn greadigol wrth galon). Y cyfan ro’n i'n ei wybod oedd bod angen cynllun wrth gefn arnaf, rhag ofn na fyddai bywyd fel newyddiadurwr, cyflwynydd, athletwr yn gweithio’n dda. (Rhybudd: fe wnaeth)
I mi (gyda’r pwyslais arna I) roedd y cynllun wrth gefn hwn yn rhoi hyder llawn i mi ddilyn fy mreuddwydion eraill, gan wybod pe bai popeth yn mynd o’i le, byddwn bob amser yn iawn. Hwn oedd y penderfyniad gorau y gallwn i fod wedi ei wneud bryd hynny ac nid wyf wedi edrych yn ôl ers hynny.
Fel rhywun sydd ag Anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd (ADHD) heb ei ganfod, rwyf hefyd yn un o'r oedolion hynny sy'n gorfod archwilio pob hobi posibl a cheisio gwneud bywoliaeth ohono. Lawer gwaith fe wnaeth i mi deimlo nad oedd gen i unrhyw weledigaeth na phwrpas. Dim cyfeiriad clir ar ble roeddwn i eisiau bod, jac o bob crefft wedi drysu’n llwyr a ddaeth yn feistr o rai a’i gwrthdynnu gan freuddwydion a chyfleoedd eraill a ddaeth ar hyd y ffordd. Anaml y bydd llwybr bywyd yn gwbl syth, ac felly byddai'n wirion mabwysiadu agwedd o’r fath at eich gyrfa, sy’n chwarae rhan allweddol o'ch bywyd.
Doeddwn byth yn gwybod yn iawn beth ro’n i eisiau ei wneud pan oeddwn wedi “tyfu lan”. Mae un peth wedi parhau yn gyson serch hynny: y weledigaeth yw bod yn hapus, y pwrpas yw’r daith wefreiddiol i gyrraedd yno.
Jessica Mullins (BSc 2011)
Mae Jessica Mullins (BSc 2011) yn Dyst Arbenigol a Therapydd Galwedigaethol ar gyfer Goruchaf Lys British Columbia. Ym mis Ionawr 2022, arweiniodd dîm rhyngwladol rhwyfo cefnforol (o’r enw IN DEEP SHIP) 3,000 milltir ar draws Cefnfor yr Iwerydd i godi arian ar gyfer elusen. Cymerodd 42 diwrnod, 4 awr a 54 munud a bu’n rhaid iddyn nhw wynebu newyn, tonnau enfawr, dadhydradu, blinder a rhithwelediadau. Nhw oedd y tîm cymysg cyntaf (tair menyw ac un dyn) yn y byd i rwyfo unrhyw gefnfor.
Os oes gennych ddigon o ddyfalbarhad, gallwch gyflawni be bynnag yr hoffech chi.
Pan rydw i’n edrych yn ôl ar fy llwyddiannau, rydw i’n gallu adnabod un thema hollbwysig — dyfalbarhad. Pan oeddwn i’n blentyn, roeddwn i'n ddigon ffodus i ddysgu y gallwn gyflawni unrhyw beth roeddwn i eisiau, cyn belled â fy mod yn canolbwyntio arno. Rydw i’n ddyslecsig ac nid oeddwn yn athletwr, ond ychydig ddegawdau yn ddiweddarach, rydw i wedi chwalu trwy'r 'rhwystrau' hynny. Rwy'n llwyddiannus iawn yn y gwaith, ac fe wnes i gwblhau un o'r rasys dygnwch anoddaf yn y byd. Pam? Oherwydd rydw i’n credu, pan fydd gennych freuddwyd, mae rhaid i chi weithio’n galed ac yn gyson neu ni fyddwch yn dwyn ffrwyth. Mae'n rhaid i chi anwybyddu'r rhai o'ch cwmpas sy'n dweud wrthych nad oes modd y gall eich breuddwyd ddod yn realiti ac mae’n rhaid i chi ddangos i'r byd na ddylent danbrisio pŵer menyw. Felly, a wyddwn i pan oeddwn i'n ferch fach fy mod i eisiau bod yn ddeiliad record byd pan oeddwn i'n oedolyn? Nac oeddwn, mwy na thebyg. Ond, a oeddwn i'n gwybod fy mod i eisiau bod ymysg y gorau yn yr hyn a wnes i? Yn bendant!