Gwaddol Javi
Cefnogi’r genhedlaeth nesaf o ymchwilwyr.
Daeth Javi Uceda Fernandez (PhD 2018) i Brifysgol Caerdydd yn haf 2013 ar leoliad i labordy yr Athro Simon Jones yn y Sefydliad Ymchwil Imiwnedd Systemau.
Roedd ei egni anhygoel, positifrwydd cyson, a’i agwedd ddisglair yn golygu ei fod yn aelod hynod boblogaidd o’r sefydliad.
Roedd Simon a’i gydweithwyr yn falch iawn o groesawu Javi yn ôl i Gaerdydd i astudio am ei PhD, lle rhagorodd, gan ddod yn gydweithiwr a ffrind anhepgor.
Yn dilyn ei PhD, ymunodd Javi â’r staff fel ymchwilydd ôl-ddoethurol.
Roedd ei waith yn canolbwyntio ar y system imiwnedd a sut mae proteinau, a elwir yn cytocinau, yn cyfrannu at reoli heintiau bacteriol a datblygu clefydau llidiol imiwnedd.
Fodd bynnag, yn ystod lleoliad mewn diwydiant 12 wythnos, bu farw Javi yn drasig ac yn sydyn.
Roedd ei farwolaeth yn sioc enfawr i’w gydweithwyr yng Nghaerdydd - roedd colled enfawr ar ei frwdfrydedd, ei optimistiaeth a’i ffocws.
Yn fuan ar ôl ei farwolaeth, penderfynodd rhieni Javi, Luis ac Espe, sefydlu ysgoloriaeth er cof amdano i helpu ymchwilwyr eraill ar ddechrau eu gyrfa.
Roedd Simon a’i dîm yn benderfynol bod angen i’r ysgoloriaethau efelychu llwybr gyrfa Javi a’r cyfleoedd yr oedd mor ddiolchgar amdanyn nhw.
Yn 2023, bydd Ysgoloriaethau cyntaf Javi Fernandez yn cael eu dyfarnu i ddau ymchwilydd ar ddechrau eu gyrfa, a bydd yn caniatáu iddynt ymgymryd â lleoliadau i helpu i ddatblygu eu gwybodaeth ac adeiladu rhwydweithiau.
Mae Jessica Oliver (Medicine 2020-) iyn cynnal lleoliad 6 wythnos mewn labordy ym Mhrifysgol Monash, Awstralia. Mae’r labordy hwn yn arbenigo mewn dulliau sydd wedi’u cynllunio i ddeall sut mae’r system imiwnedd yn cydnabod celloedd canser. Nod yr ymchwil hon yw cynyddu’r tebygolrwydd y bydd brechlynnau a allai helpu i atal canserau’n symud ymlaen a gallai agor llwybrau ymchwilio newydd i radiotherapi canser.
Bydd Dr Ceri Fielding (PhD 2002) yn defnyddio ei ysgoloriaeth i ymweld â dau labordy ym Mrasil i sefydlu cydweithrediad er mwyn ymchwilio i ryngweithiadau firws RNA sy’n dod i’r amlwg, firws Oropouche (OROV), â’r system imiwnedd. Mae’r feirws hwn yn achosi salwch tebyg i dwymyn dengue ac yn cael ei drosglwyddo i bobl drwy bigiadau mosgito. Nod yr ymchwil hon yw gwella ein dealltwriaeth o sut mae firysau RNA yn rhyngweithio â’r system imiwnedd, a sut y gallai hyn effeithio ar bandemigau’r dyfodol.
Bydd yr ysgoloriaethau hyn yn torri tir newydd i ymchwil ac yn helpu’r genhedlaeth nesaf o wyddonwyr i roi gobaith newydd i gleifion ar gyfer rheoli afiechydon cronig, afiechydon heintus, a chanserau.
Mae cof Javi a’i angerdd dros ymchwil yn parhau yng Nghaerdydd. Bydd ei waddol yn cael ei gario ymlaen gan y genhedlaeth nesaf o ymchwilwyr, gan weithio i wella ein gwybodaeth am y system imiwnedd a heintiau.
Ni fydd ei rieni, ei ffrindiau a’i gydweithwyr byth yn gallu ei amnewid, ond gwybod y gallant anrhydeddu ei gof mewn ffordd addas, a pharhau i rannu ei angerdd a’i frwdfrydedd dros ei waith, yw’r deyrnged orau i berson rhyfeddol.
Gweithio cydweithredol sy’n llywio ymchwil yn ei flaen
Mae’r Athro Simon Jones, Cyd-gyfarwyddwr y Sefydliad Ymchwil Imiwnedd Systemau yn esbonio pam mae cydweithio mor bwysig i ymchwilydd ar ddechrau gyrfa.
“Mae cydweithio rhwng labordai ar draws y byd yn amhrisiadwy wrth sbarduno ymchwil yn ei blaen a hyfforddi’r genhedlaeth nesaf o ymchwilwyr. Drwy feithrin y dolenni hynny, gall ein hymchwilwyr ddatblygu eu gwybodaeth gyda thechnegau a dulliau gwahanol, y gallant wedyn ddod â nhw’n ôl i Gaerdydd.
“Mae’r profiadau hyn yn rhoi cyfle i’n hymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa feithrin cysylltiadau byd-eang, gan gefnogi dilyniant eu gyrfa a’u helpu i hyrwyddo a lledaenu eu gwaith ar lefel ryngwladol.
“Trwy weithio gyda’n gilydd, gallwn gyfuno’r meddyliau gorau, rhannu gwybodaeth a phrofiad, ac yn y pen draw cyrraedd ein nodau ymchwil o ddarparu"
Rhagor o wybodaeth
Rhagor o wybodaeth am gyflwyno rhodd i Brifysgol Caerdydd i gofio am rywun annwyl.