Ewch i’r prif gynnwys

“Roeddwn i'n gwneud llawer yn ystod fy nghyfnod Safon Uwch - roeddwn i'n chwarae tenis i Swydd Efrog ac yn eithaf cerddorol. Nid oedd fy nghanlyniadau'r hyn yr oeddwn yn ei ddisgwyl. Felly roeddwn i’n ddiolchgar iawn i gael lle drwy glirio i ddod i Brifysgol Caerdydd.

Cyrhaeddodd Jo ar y trên o Sheffield ym mis Medi 1979, yn benderfynol o ymroi a gweithio'n galed.

“Fe wnes i ganolbwyntio ar fy astudiaethau gan i mi gael y cyfle gwych yma yng Nghaerdydd. Rwy'n cofio camu i mewn i Adeilad Bute am y tro cyntaf, heb nabod neb. Ond roeddwn i'n benderfynol y byddwn i’n mynd amdani.”

A dyna wnaeth hi. Erbyn diwedd ei blwyddyn gyntaf, roedd hi wedi codi i’r ail safle yn ei dosbarth, gan raddio yn y pendraw gyda 2:1. Arweiniodd ei gradd israddedig at ddoethuriaeth, a pharhaodd i ddilyn ei hangerdd dros chwaraeon, gan hyd yn oed gynrychioli Lloegr mewn tennis.

Ar ôl astudio yn y Brifysgol, roedd Jo yn addysgu Cyfrifiadura a Mathemateg mewn colegau ledled y wlad. Yn gweithio yng Nghymru i ddechrau, aeth wedyn i Orllewin Sussex, Cernyw a Gorllewin Canolbarth Lloegr. Pan gododd cyfleoedd, fe aeth Jo amdani a mentro mewn i brofiad gwbl newydd.

Roedd fy nghyfnod ym Mhrifysgol Caerdydd wedi fy nysgu i fod yn hyblyg ac yn ymaddasol yn ôl y galw. Fe roddodd y dewrder i mi fachu ar y cyfleoedd a ddaeth fy ffordd. Dilynais fy ngreddf ac anwybyddu’r rhai ddywedodd wrtha i na allwn i gyflawni rhywbeth!"

Ym 1997, daeth Jo yn Uwch Ddarlithydd mewn TG ym Mhrifysgol Caerwrangon. Dilynodd rolau ym Mhrifysgol Aston, y Brifysgol Agored, Prifysgol Halmstad, Sweden, a Phrifysgol De Cymru, cyn iddi ddychwelyd i addysgu yng Nghanolfan Dysgu Gydol Oes Prifysgol Caerdydd.

“Mae dychwelyd i Brifysgol Caerdydd yn teimlo fel pe bawn i wedi dod adref. Yn gynnar, roeddwn i'n gwybod fy mod i eisiau addysgu ac fy mod i’n caru Mathemateg. Rwy'n falch iawn o fod yn addysgu yng Nghanolfan Dysgu Gydol Oes oherwydd rwy'n ymgysylltu ag ystod eang o fyfyrwyr cryf eu cymhelliant sy'n astudio Busnes, Rheoli Prosiectau a Thechnoleg Ddigidol sy'n ymdopi â gofynion gwaith, bywydau prysur a chostau cynyddol ochr yn ochr â'u haddysg.”

Roedd deall yr heriau hyn wedi ysgogi Jo i wneud cymynrodd yn ei Hewyllys i gynnig cymorth ariannol i fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd.

“Mae bod yn fyfyriwr yn llawer anoddach y dyddiau hyn. Roeddwn i mor ffodus i gael y cyfle i ddod i Brifysgol Caerdydd - rhoddodd fy amser yma'r hyder a'r sgiliau i mi fynd allan i'r byd a sefydlu’r yrfa rydw i wedi'i chael. Rwy'n ddiolchgar iawn am hyn ac yn awyddus i'w rannu. Roeddwn i eisiau rhoi cyfleoedd i fyfyrwyr ym Mhrifysgol Caerdydd, yr un ffordd ag y gwnaeth clirio i mi.”

Penderfynodd Jo rannu ei rhodd rhwng cefnogi myfyrwyr Mathemateg a'r dysgwyr sy’n oedolion y mae hi bellach yn eu haddysgu.

“Roeddwn i eisiau i’m hanrheg adlewyrchu’r ddwy ran o'm taith ym Mhrifysgol Caerdydd. Hyd yn oed os yw'n cyfrannu tuag at docynnau bysiau neu ginio. Does dim angen iddo fod yn filoedd o bunnoedd - gall ychydig o gymorth wneud gwahaniaeth.”

Roedd Jo o'r farn bod y broses o ddiweddaru ei hewyllys yn llyfn iawn, a rhoddwyd geiriad iddi ei drosglwyddo i'w chyfreithiwr.  

“Rwy'n diweddaru fy ewyllys bob 10 mlynedd gan ei fod yn bwysig ei fod yn aros yn gyfredol, ac roedd ychwanegu'r rhodd yn syml iawn. Hefyd, er nad dyna'r rheswm pam gwnes i hynny, mae cynnwys elusennau yn eich ewyllys yn dwyn buddion rhag treth etifeddiant.

Nid oes angen diolch i mi - rwy'n gobeithio bod fy rhodd o fudd i bobl sydd ei hangen. Gall ychydig o gymorth ar hyd y ffordd gael dylanwad mawr.”

Gofynnwch i'r arbenigwr: Ewyllysiau, treth etifeddiaeth, a chynllunio ystadau

Mae’r gynfyfyriwr Laura Ikin (LLB 2006, PgDip 2007) yn rhannu ei chwestiynau am Ewyllysiau, ymddiriedolaethau, treth etifeddiant a chynllunio ystadau a ofynnir amlaf ganddi.

Sut y newidiodd un rhodd ddienw lwybr bywyd teulu

Mae David yn rhannu stori ei dad ac yn esbonio sut y dechreuodd cymwynaswr dienw daith eu teulu i Brifysgol Caerdydd.

Gwaddol Gofal

Sefydlodd Graham Wobr Goffa Christine Davis. Bob blwyddyn, dyfernir y wobr i fyfyriwr yn yr Ysgol Fferylliaeth i gydnabod ei gyflawniadau.