Cyflwyno… cameos o gynfyfyrwyr yn ein ffilm raddio
Edrychwch ar rai o’r cynfyfyrwyr oedd yn ein ffilm yn croesawu Graddedigion 2020, 2021 a 2022 i gymuned y cynfyfyrwyr.
Dangoswyd ein ffilm raddio yn Stadiwm Principality yn ystod y seremonïau Graddio diweddar. (Nid ydych wedi ei weld eto? Gwyliwch ef nawr.) Mae’n cynnwys nifer o gameos gan aelodau o’n cymuned o gynfyfyrwyr, yn ogystal â staff a myfyrwyr.
Rydyn ni’n mynd i ganolbwyntio ar un neu ddau o’r straeon difyr y tu ôl i sêr y sgrîn fawr.
Liz Clements (BA 2017)
Liz Clements, newyddiadurwr Newyddion BBC Cymru a myfyriwr graddedig o Gaerdydd oedd y llefarydd yn serennu yn ein ffilm raddio.
Cyfrannodd Liz at y ffilm, gan asio’r Gymraeg a’r Saesneg gyda’i gilydd yn ein sgript a gomisiynwyd yn arbennig.
Daeth Liz i seremoni Graddedigion 2022 i weld y ffilm ar y sgrîn fawr, ac ymateb y graddedigion a’u teuluoedd yn y stondinau.
Dywedodd Liz wrthon ni: “Roedd hi’n daith hel atgofion, ac roeddwn i’n teimlo’n hiraethus a hapus wrth edrych yn ôl ar fywyd yn y Brifysgol trwy’r gerdd hyfryd hon. Roedd yn bleser ac yn fraint cael bod yn rhan o’r broses.”
Dr Numair Masud (PhD 2021)
Daeth Numair, Uwch Dechnegydd Ymchwil, i Gaerdydd i astudio ar gyfer ei PhD yn y Biowyddorau ac roedd yn un o’r graddedigion a gafodd sylw yn y ffilm, gan ddathlu eiliad allweddol o gyflawniad wrth iddo ymddangos ar y sgrîn fawr.
Yn ogystal â’i waith yn wyddonydd, mae Numair hefyd yn ymgyrchydd LHDTC+, ac ochr yn ochr â Vishal Gaikwad, mae’n helpu i redeg y grŵp actifydd Glitter Cymru ar ôl sylwi ar ddiffyg lleoedd ar gyfer lleiafrifoedd ethnig LHDTC+.
Wrth astudio ar gyfer ei PhD, llwyddodd Numair i hawlio lloches, gan fethu â dychwelyd i’w wlad enedigol ym Mhacistan rhag ofn erledigaeth oherwydd ei rywioldeb.
Jane Goodfellow (BScEcon 1991)
Ar ôl graddio ym 1991, gwnaeth Jane MSc cyn dychwelyd i Gaerdydd i weithio yng Ngwasanaeth Gyrfaoedd y brifysgol.
Nawr, bron i 20 mlynedd yn ddiweddarach, Jane yw Pennaeth Dyfodol Myfyrwyr. Mae hi’n goruchwylio gwasanaeth Dyfodol Myfyrwyr y brifysgol, gan gefnogi’r genhedlaeth nesaf o gynfyfyrwyr Caerdydd wrth iddynt baratoi ar gyfer byd gwaith a bywyd ar ôl y brifysgol.
Sanjiv Vedi (BSc 1984)
Ar ôl graddio o’r Gyfraith a Gwleidyddiaeth ym 1984, mae Sanjiv wedi gweithio mewn sawl rôl amlwg yn Llywodraeth Cymru.
Ymunodd â’n ffilm i gynrychioli ein cynfyfyrwyr (credwch neu beidio) o 40 mlynedd yn ôl ac mae’n rhan o’r pwyllgor cynllunio ar gyfer aduniad cynfyfyrwyr o’r 80au ym mis Medi.
Gwahoddir cynfyfyrwyr Prifysgol Caerdydd (gan gynnwys y rhai o UWIST, Coleg Prifysgol Caerdydd a Choleg Meddygaeth Prifysgol Cymru) a ddechreuodd neu a gwblhaodd eu hastudiaethau rhwng 1980-1989, i droi’r cloc yn ôl ar gyfer “Noson 80au i Ailgroesawu Myfyrwyr” ar 10 Medi.
Ali Shaheed (BSc 2022)
O’n myfyriwr graddedig hynaf, i’r un mwyaf newydd yn ein ffilm. Gorffennodd Ali ei BSc mewn Cyfrifeg a Chyllid yn ddiweddar ar ôl dod i astudio i Gymru o Bacistan.
Cyn ei ddiwrnod graddio go iawn, cafodd Ali gyfle i wisgo ei wisg graddio ar gyfer y ffilmio. Mae Ali wedi bod yn fyfyriwr brwdfrydig drwy gydol ei gyfnod yng Nghaerdydd.
Ymunodd â Thîm Croesawu’r brifysgol i gyfarch myfyrwyr newydd ar ei ddiwrnod cyntaf yn y ddinas!
Vaughan Gething (LLB 2001)
Vaughan Gething AS ydy Gweinidog yr Economi, a bu gynt yn Weinidog Iechyd drwy ran helaeth o’r pandemig.
Ef oedd Llywydd du cyntaf UCM Cymru a Llywydd ieuengaf Cyngres Undebau Llafur Cymru.
L E M F R E C K
Artist a chynhyrchydd Cymreig sy’n hanu o Gasnewydd yw Lemarl Freckleton (PgCert 2016) – sy'n adnabyddus fel L E M F R E C K.
Ers graddio yn 2016 mae wedi dod yn un o brif artistiaid rap y sin gerddoriaeth Gymreig, ac mae i’w glywed ar lwyfannau megis BBC Radio 1Xtra yn rheolaidd.
Mae hefyd yn gyfarwyddwr creadigol i Noctown Collective, llwyfan creadigol sy’n cwmpasu cerddoriaeth, newyddiaduraeth, ffasiwn, a ffilm.
Jessica Oliver (BSc 2014) a Charlotte Harris (BA 2013): Team Wild Waves
Jessica Oliver a Charlotte Harris yw Tîm ‘Wild Waves’. Mae’r ddwy wedi gosod record byd newydd ar gyfer rhwyfo ar draws Cefnfor Iwerydd yn 2022.
Er nad oedd ganddynt unrhyw brofiad blaenorol o rwyfo, Jess a Charlotte oedd y ddwy fenyw cyflymaf i rwyfo 3,000 o filltiroedd ar draws Cefnfor Iwerydd, camp a gymerodd 45 diwrnod, 7 awr, a 25 munud.
Cyfarfu’r pâr ym Mhrifysgol Caerdydd 10 mlynedd yn ôl pan ymunodd Jess, a astudiodd y Gwyddorau Biofeddygol, a Charlotte, a astudiodd Hanes, â’r Clwb Hoci.
Richard Browning (BSc 2001)
Richard Browning yw sylfaenydd a phrif beilot profi Gravity Industries, y cwmni sy’n dylunio ac yn creu ei ddyfais unigryw, y Daedalus Flight Pack.
Dyfeisiodd Browning – myfyriwr graddedig mewn Daeareg Fforio – y “siwt jet” a oedd yn un o ddyfeisiadau gorau 2018 yn ôl cylchgrawn Time.
Cefnogwch ein graddedigion mwyaf newydd
Roedd ein ffilm graddio yn dathlu graddedigion 2020, 2021 a 2022, gan eu croesawu i gymuned cynfyfyrwyr Caerdydd.
Gallwch gefnogi ein graddedigion mwyaf newydd drwy ymuno â’n platfform rhwydweithio i gynfyfyrwyr, Cysylltiad Caerdydd. Mae’n gyflym ac yn hawdd cofrestru a gosod eich proffil i ddangos eich bod yn barod i helpu drwy ateb cwestiynau, gwneud cyflwyniadau, cynnig interniaethau neu fentora.