Ewch i’r prif gynnwys

Roedd 2023/24 yn flwyddyn eithriadol i ddyngarwch yng Nghaerdydd. Gyda’i gilydd, rhoddodd ein cefnogwyr swm anhygoel o £10.3 miliwn.

Gyda diolch mawr i chi, mae ein hymchwilwyr yn cynnig ymchwil o safon fydeang, ac mae gan ein myfyrwyr y sicrwydd ariannol i ganolbwyntio ar eu hastudiaethau a dilyn eu breuddwydion.

Mae cymuned Cylch Caerdydd wedi tyfu ac erbyn eleni mae ganddi 94 o aelodau, gyda chynrychiolaeth ar bum cyfandir. Eleni, roedden ni’n hynod ddiolchgar i dderbyn £2.4 miliwn o roddion mewn ewyllysiau, sef bron i chwarter cyfanswm y rhoddion dyngarol a gafwyd.

Mae’r haelioni rhyfeddol hwn yn cael effaith fawr ar ein myfyrwyr a’n hymchwil am flynyddoedd i ddod. Diolch unwaith eto am eich cefnogaeth barhaus a’r gwahaniaeth rydych chi’n helpu i’w wneud ym Mhrifysgol Caerdydd.

Cafodd Wobr John ac Enyd Miles ei sefydlu gan roddwyr Cylch Caerdydd, y brodyr Owen a David Miles (BSc 1986) er cof am eu rhieni a fu’n astudio Meddygaeth yng Nghaerdydd yn y chwedegau.

Mae’r fwrsariaeth yn cefnogi myfyrwyr meddygol Prifysgol Caerdydd o deuluoedd incwm isel yn Ne Cymru. Sirat Gandhi (Meddygaeth 2023-) sy’n disgrifio sut mae ei hangerdd a'i sgiliau wedi datblygu diolch i’r gefnogaeth gafodd hi.

"Rwyf mor ddiolchgar am y cyfle i astudio yng Nghaerdydd. Mae’r dyddiau clinigol yn flinedig ond roeddwn i’n gwybod y bydden nhw pan benderfynais i astudio Meddygaeth. Rwyf eisoes wedi cyfarfod ag amrywiaeth o gleifion, gan roi damcaniaethau’r ddarlithfa ar waith mewn sefyllfaoedd bywyd go iawn.

"Rwyf bellach wedi gwirfoddoli i fod yn gyfwelydd ar gyfer yr un Cynllun Mentora Mynediad Ehangach i Feddygaeth ag y gwnes i elwa ohono cyn gwneud cais am fy ngradd. Mae’n teimlo fel bod y cylch wedi cael ei gwblhau.

"Rwyf hefyd wedi cofrestru i fod yn fentor mewn cynhadledd ar gyfer myfyrwyr Safon Uwch sydd â diddordeb mewn Meddygaeth, ac rwy’n gwirfoddoli yn Ysgol Haf Prifysgol Caerdydd ar gyfer pobl ifanc yn eu harddegau o Grangetown. Ar ôl derbyn Gwobr John ac Enyd Miles, roeddwn i’n meddwl ei bod hi ond yn iawn rhoi rhywbeth yn ôl.”

“Mae’r gefnogaeth y mae’r Wobr yn ei rhoi i mi a myfyrwyr eraill i gyflawni ein breuddwydion yn y Brifysgol wedi fy ysbrydoli.”

Sirat Gandhi (Meddygaeth 2023-)

Mae Dr Matt McKenna, clinigwr ac ymchwilydd, yn ceisio triniaethau newydd ar gyfer canser y coluddyn.

“A finnau’n llawfeddyg dan hyfforddiant, rwy’n gweld â’m llygaid fy hun fwy o bobl, a phobl iau, yn dod aton ni am driniaeth canser y coluddyn bob blwyddyn. Nid yw canser y coluddyn yn cael ei sgrinio ymhlith pobl o dan 50 oed, felly daw’r diagnosis yn ddiweddarach. Mae hyn yn golygu bod angen cemotherapi ar y bobl hynny’n aml cyn llawdriniaeth, a gall fod yn rhy hwyr i atal y canser rhag lledu. Mae gwneud y rownd gyntaf honno o driniaeth yn fwy effeithiol yn bwysig iawn.

"Ond i drin canser y colon a’r rhefr, rydyn ni wedi defnyddio’r un cyffuriau ers 1958. Bryd hynny, dim ond 10-20% o gleifion a fyddai’n ymateb iddyn nhw. Nawr rydyn ni’n defnyddio’r cyffur ar y cyd â llawdriniaeth, sy’n fwy effeithiol, ond dim ond tua hanner y bobl sy’n ymateb ac mae bron pob un ohonyn nhw’n datblygu ymwrthedd. Mewn geiriau eraill, mae’r canser yn dod yn ôl.

"Mae fy ymchwil yn canolbwyntio ar ddau brotein yn ein celloedd - o’r enw ‘cludwyr’ - sy’n byrth pwysig ar gyfer cyffuriau canser yn y corff. Mae’r pyrth hyn yn caniatáu i gyffuriau fynd i mewn i’r corff, ond rydyn ni hefyd wedi darganfod eu bod yn annog cyffuriau i adael y corff hefyd.

"Mewn gwirionedd, mae’n ymddangos bod cael mwy o byrth yn y corff yn golygu bod eich ymwrthedd i driniaeth yn uwch.

"Mae’r cludwyr hyn yn allweddol i ragweld a fydd rhywun yn ymateb i driniaeth. Yn y dyfodol, gallen ni ddefnyddio hwn i edrych ar gyfansoddiad biolegol pob claf i bennu i beth fyddan nhw’n ymateb. Mae hyn yn golygu y bydd y driniaeth yn fwy effeithiol, bydd llai o bobl yn datblygu ymwrthedd, a fydd dim rhaid i gleifion ddioddef sgileffeithiau cyffuriau sydd ddim o bosibl yn gweithio.

"Mae bod yn llawfeddyg a chael cyswllt â chleifion yn ychwanegu cyd-destun i’m hymchwil. Rwyf bob amser yn meddwl, ‘Sut gall hyn gyd-fynd â’r hyn rwy’n ei wneud?’ a sut y galla i roi’r hyn rwy’n ei ddefnyddio ar waith yn ymarferol.

"Rwyf am ddweud diolch i’r rhoddwyr. Nid fi yn unig sy’n elwa o’ch haelioni, ond bydd ymchwilwyr eraill yn elwa ohono am flynyddoedd i ddod.

"Rwyf bellach wedi cael cyllid pellach gan Goleg Brenhinol y Llawfeddygon i ymestyn fy ngwaith. Fyddai hynny ddim wedi bod yn bosibl heb y cyllid sbarduno hwn a’r canlyniadau rwyf wedi llwyddo eu cael. Diolch yn fawr.”

“Rydych chi’n galluogi ymchwil o’r labordy i’r claf - ymchwil a fydd yn trosi’n uniongyrchol i ganlyniadau gwell i gleifion.”

Dr Matt McKenna

Mae Emma Weir (Y Biowyddorau 2021-) yn tyfu celloedd yr ymennydd i fodelu gweithrediad yr ymennydd yn y labordy.

“Mae fy ymchwil yn canolbwyntio ar fecanweithiau anhwylderau niwroddatblygiadol megis ADHD, awtistiaeth, a sgitsoffrenia. Yn benodol, mae’n ymwneud â newidiadau DNA sy’n arwain at ddatblygiad annormal yn yr ymennydd ac sy’n cynyddu’r risg o ddatblygu anhwylderau niwroddatblygiadol.

"O bryd i’w gilydd, byddwn ni’n gweld newidiadau genetig mawr yn DNA cleifion, pan fydd rhanbarthau o gromosomau naill ai wedi cael eu dileu neu eu dyblygu. Nid yw’r newidiadau hyn yn digwydd yn aml, ond hwyrach eu bod yn dangos a fydd rhywun yn datblygu cyflwr niwroddatblygiadol a’r tebygolrwydd y bydd rhai symptomau, megis nam gwybyddol, yn bresennol.

"Hwyrach bod rhywun sydd â mwtaniad yn asymptomatig, neu efallai y bydd ei gyflwr yn un difrifol. Efallai hefyd nad ydyn nhw yn ymwybodol bod ganddyn nhw risg genetig o ddatblygu cyflwr hyd nes iddyn nhw drosglwyddo’r risg genetig hyn i’w plant. Fy ngwaith yw trin a thrafod y fioleg sy’n sail i’r achosion hyn o ddyblygu a dileu a’r hyn mae hyn yn ei olygu i gleifion.

"Er bod pethau wedi datblygu’n sylweddol, mae cymaint o hyd nad ydyn ni’n ei wybod am yr ymennydd, gan fod gwneud biopsïau ar yr organ benodol hon yn anodd. Felly, mae ein tîm yn defnyddio techneg labordy arbennig er mwyn cael rhagor o wybodaeth am y cysylltiad rhwng newidiadau mewn DNA a chyflyrau niwroddatblygiadol.

"Trwy gymryd samplau gwaed sy’n cynnwys DNA cleifion, gallwn ni greu bôn-gelloedd ac yna tyfu celloedd yr ymennydd a modelau 3D. Yn y bôn, mae modelau’r ymennydd bach hyn - a elwir yn organoidau - yn gopïau unfath yn enetig o ymennydd claf penodol.

"Mae’r modelau hyn yn arloesol yng nghyd-destun ein hymchwil. Maen nhw’n ein galluogi i ail-greu gweithrediadau’r ymennydd o dan amodau labordy, fel y gallwn ni brofi damcaniaethau a thriniaethau na fydden ni yn gallu eu profi fel arall. Er enghraifft, gallwn ni ddefnyddio organoidau i ymchwilio i ba fathau o gyffuriau a allai weithio orau i leddfu cyflyrau penodol.”

“Mae ein hymchwil yn chwyldroi ein dealltwriaeth o’r ymennydd, gan ein galluogi i roi diagnosis mwy manwl gywir i gleifion, arbenigedd meddygol mwy personol a chymorth amserol yn gynharach.”

Emma Weir (Y Biowyddorau 2021-)

Sefydlwyd Ysgoloriaeth PhD Louise Lambert Prifysgol Caerdydd gan roddwr o Gylch Caerdydd, Corin Frost (BScEcon 1991) er cof am ei chwaer, Louise Lambert (Frost gynt) (BSc 1990).

Mae derbynnydd y rhodd, Oliver Scourfield (BSc 2018, MSc 2020, Meddygaeth 2022-) yn ymchwilio i mesothelioma, canser yn y leinin sy’n amgylchynu’r organau, sydd fel arfer yn effeithio ar yr ysgyfaint ac sy’n cael ei achosi bron yn ddieithriad ar ôl dod i gysylltiad ag asbestos.

“Mae diagnosis mesothelioma fel arfer yn angheuol. Mae tiwmorau’n ymosodol iawn ac mae’r holl opsiynau triniaeth presennol yn lliniarol. Y driniaeth rheng flaen yw cemotherapi, ond gallwn ni ond ymestyn bywyd cleifion am fisoedd. Rwy’n edrych am ffyrdd o wella ymateb system imiwnedd y corff ei hun i’r canser hwn.

"Yn ddiweddar mae cyffuriau imiwnotherapi, sy’n helpu’r system imiwnedd i frwydro yn erbyn canser, wedi bod yn addawol wrth drin cleifion mesothelioma. Mae’r system imiwnedd yn sganio’r corff yn gyson am bethau na ddylai fod yno ac yn cael gwared arnyn nhw. Ond pan fydd canserau’n datblygu, maen nhw’n dysgu ffyrdd o guddio rhag y system imiwnedd. Rwy’n dod o hyd i ffyrdd o hybu ymateb y system imiwnedd i mesothelioma, a hynny drwy ymchwilio i ddull brechu. Mae hyn yn golygu ein bod yn hyfforddi’r system imiwnedd fel bod y corff yn barod pan fydd bygythiad penodol yn codi. Ond mae angen targed da ar gyfer brechlyn llwyddiannus.

"Mae celloedd mesothelioma yn dangos moleciwl o’r enw 5T4, sy’n brin mewn celloedd iach. Yn wir, mae’r corff yn ei ddefnyddio pan fyddwn ni’n embryo gan ei fod yn annog twf cyflym, ond wedyn mae’n cael ei ddiffodd wrth i ni ddatblygu. Gallai defnyddio 5T4 yn darged gynnig ffordd wirioneddol benodol o dargedu mesothelioma, gan arwain at lawer llai o sgîl-effeithiau na chemotherapi a chanlyniadau gwell i gleifion.

"Ar gyfer fy ngwaith, rwy’n ceisio darganfod pa rannau penodol o 5T4 y mae celloedd T (grŵp o gelloedd gwaed gwyn yn ein system imiwnedd) yn eu hadnabod a sut maen nhw’n gwneud hyn. Yna rwy’n edrych ar ffyrdd o hybu eu cydnabyddiaeth a’u hymateb i 5T4, gyda’r gobaith o brofi hyn mewn samplau cleifion mesothelioma.

"Hoffwn i ddiolch eto i Corin am ei rodd hael, a hebddi fyddwn i ddim wedi gallu cynnal yr ymchwil hon. Gallai ein canfyddiadau fod â goblygiadau enfawr i gleifion yn y DU gan fod gennyn ni un o’r cyfraddau mesothelioma uchaf yn y byd. Ac mae’n ymchwil hanfodol a allai fwydo i mewn i waith i lawer o ganserau eraill lle mae 5T4 yn allweddol.”

Oliver Scourfield (BSc 2018, MSc 2020, Meddygaeth 2022-)

“Mae’r afiechyd creulon hwn wedi effeithio’n uniongyrchol ar fy nheulu. Mae’r ymchwil a gafodd ei chynnal yng Nghaerdydd yn wirioneddol ryfeddol, o ran yr effaith bosibl ar mesothelioma ond hefyd ar gyfer ystod eang o ganserau eraill yma a thramor.”

Corin Frost (BScEcon 1991)

Roedd y rhoddwr Rashid Domingo MBE yn ymwybodol o’r anawsterau y gall myfyrwyr eu hwynebu, gan fod ei ragoriaeth academaidd a’i angerdd ei hun am gemeg wedi’i rwystro gan gyfreithiau apartheid yn Ne Affrica, lle cafodd ei eni.

Yn 2016 gadawodd waddol yn ystod ei oes i greu bwrsariaeth ar gyfer israddedigion sy’n wynebu caledi ym Mhrifysgol Caerdydd.

Yn dilyn ei farwolaeth, mae ei rodd yn parhau i alluogi myfyrwyr i ddal ati, gwireddu eu potensial a mynd i fyd gwaith. Mae dau sydd wedi elwa o’r fwrsariaeth yn esbonio sut mae wedi effeithio ar eu profiad astudio.

“Fe wnaeth y fwrsariaeth fy helpu’n fawr. Oherwydd fy sefyllfa ariannol gartref, roeddwn i wedi bod yn defnyddio’r hyn roeddwn i wedi’i gynilo o fy swydd ran-amser yn achubwr bywydau, ond roedd yn mynd yn anoddach talu am fy nghostau byw cyffredinol.

"Diolch byth, ar ôl gwneud cais am y fwrsariaeth roeddwn i’n gallu cefnogi fy hun a fy addysg.

"Rwy’n astudio Mathemateg Ariannol. Fe wnaeth y fwrsariaeth fy helpu i barhau i weithio’n galed ac rwyf mor falch o fy nghyfartaledd blwyddyn gyntaf, a fydd yn bendant yn helpu fy CV wrth wneud cais am waith yn y dyfodol.

"Rwyf mor ddiolchgar am y cyfle i fyw fy mlwyddyn gyntaf y gorau y gallwn"

"Rwy’n gwerthfawrogi’n fawr werthoedd Mr Domingo a oedd yn credu’n gryf mewn “rhoi’n ôl”, sy’n rhywbeth y bydda i bendant yn ei wneud yn ystod fy nghyfnod yn y Brifysgol.”

Anoj Rameshprabahar (Mathemateg Ariannol 2023-)

Gadawodd Mrs Anne Meuris Evans (GradDip 1960) rodd yn ei hewyllys i gefnogi ymchwil canser ym Mhrifysgol Caerdydd.

Mae Marc Hillgaertner (Imiwnoleg Canser 2023-) bellach yn astudio ar gyfer gradd PhD sydd â'r potensial i newid triniaeth imiwnotherapi, diolch yn llwyr i'r etifeddiaeth hael hon.

“Pam mae imiwnotherapi’n fwy effeithiol i rai pobl nag i eraill? Sut gallwn ni wella ei effeithiolrwydd i'r rhai sydd ei angen?

"Rwy’n ceisio ateb y cwestiynau hyn drwy ymchwilio i bibellau gwaed arbennig o’r enw ‘gwythienigau endothelaidd uchel’. Maen nhw’n ddefnyddiol oherwydd eu bod yn caniatáu i gelloedd imiwnedd groesi eu leinin lle nad yw pibellau gwaed cyffredin yn gwneud hynny. Yn wir, gall gwythienigau endothelaidd uchel ffurfio o amgylch tiwmorau cadarn ac anfon celloedd imiwnedd yn hawdd ar draws eu leinin i gyrraedd a lladd celloedd canser. Felly, rydyn ni’n gweld bod triniaeth imiwnotherapi’n aml yn fwy effeithiol pan fydd gwythienigau endothelaidd uchel sy’n gysylltiedig â thiwmor yn bresennol.

"Er hynny, nid yw gwythienigau endothelaidd uchel bob amser yn datblygu o amgylch tiwmorau. Mae fy ymchwil yn canolbwyntio ar wella ein dealltwriaeth o'r hyn sy'n sbarduno eu ffurfiant, a pha fecanweithiau sy’n cael eu defnyddio i alluogi celloedd imiwnedd i gyrraedd celloedd y tiwmor. Yn benodol, rwy'n chwilio am ffactorau genetig posibl sy’n sbarduno eu ffurfiant, er mwyn inni allu gweithio ar ddatblygu therapi i ysgogi eu ffurfiant ym mhob tiwmor. Drwy ei gyfuno ag imiwnotherapïau, gallai hyn fod yn hynod effeithiol wrth drin tiwmorau cadarn.

"Rwy’ mor ddiolchgar i’r bobl sy'n dewis cefnogi myfyrwyr PhD a'u hymchwil. Mae rhoddion cefnogwyr yn rhoi hwb i ymchwil a all wneud cymaint ar gyfer nifer fawr o afiechydon. Yn fy achos i, mae haelioni Mrs Evans wedi fy ngalluogi i wneud ymchwil a fydd, gobeithio, yn arwain at ddatblygu therapïau gwrth-ganser newydd yn y dyfodol.”

“Gall rhoddion hael i ymchwil PhD gychwyn proses a fydd, yn y pen draw, yn fuddiol i filiynau o bobl ledled y byd – dyna etifeddiaeth anhygoel i’w gadael.”

Marc Hillgaertner (Imiwnoleg Canser 2023-)

Cylch Caerdydd pin

Helpwch ni i dyfu ein cymuned

Byddem wrth ein bodd yn croesawu mwy o gynfyfyrwyr a ffrindiau i’n cymuned Cylch Caerdydd. Fel llysgenhadon codi arian, rydych yn chwarae rhan hanfodol wrth ysbrydoli eraill a sicrhau dyfodol y brifysgol.

Main building in autumn

Cofrestr rhoddwyr

Mae ein cofrestr rhoddwyr yn cydnabod ac yn diolch i’r bobl hynny sydd wedi cefnogi Prifysgol Caerdydd drwy roi rhodd, naill ai yn ariannol neu drwy roi o’u hamser.

Female student sitting on a wall reading a book

Rhoi yn eich ewyllys

Gall rhodd wneud gwahaniaeth parhaol i genedlaethau’r dyfodol, gan ysbrydoli ein myfyrwyr i holi, bod yn arloesol a gwneud newid gwirioneddol i’r byd yr ydym yn byw ynddo.