Rhoi’r cyfleoedd gorau i fyfyrwyr archaeoleg y dyfodol
Daeth Julia Wise (BA 1986) i Gaerdydd i astudio archaeoleg ym 1983 ac mae bellach yn gweithio i Dîm Treftadaeth ac Archaeoleg Cyngor Swydd Buckingham. Mae hi wedi addo rhodd yn ei hewyllys i helpu i sicrhau bod y genhedlaeth nesaf o archaeolegwyr yn gallu astudio ym Mhrifysgol Caerdydd, yn rhydd o bwysau pryderon ariannol.
“Roeddwn i’n gwybod er pan o’n i’n ifanc fy mod i eisiau bod yn archaeolegydd. Roedd fy rhieni a fy neiniau ac fy nheidiau bob amser yn ymddiddori yn y byd o'u cwmpas, ac roedd hynny wedi fy ysbrydoli i hefyd.
"Ro’n i eisiau astudio Archaeoleg Prydain ond wnes i ddim yn dda iawn yn fy Safonau Uwch, felly bues i’n gweithio am bum mlynedd, gan wneud dosbarthiadau nos i gael fy nghymwysterau.
"Ro’n i'n ffodus bod Prifysgol Caerdydd yn canolbwyntio'n fawr ar fyfyrwyr aeddfed ac yn barod i gymryd siawns ar rywun â dwy Lefel A yn unig. Ro’n i hefyd yn ffodus iawn i dderbyn grant llawn i dalu'r costau.
"Dyna oedd wedi gwneud fy astudiaethau yn bosibl - hebddo, mae'n debyg na fyddwn i wedi mynd i'r brifysgol.
"Ro’n i eisiau gwneud i rywbeth tebyg ddigwydd ar gyfer myfyrwyr Archaeoleg Prifysgol Caerdydd y dyfodol, i'w helpu gyda chostau prifysgol er mwyn iddyn nhw allu elwa yn yr un ffordd â fi.
"Does dim dibynyddion gyda fi a ces i fy annog gan fy chwaer i wneud rhywbeth a oedd yn wirioneddol bwysig i mi o ran fy ewyllys.
"Os oes rhywun sy’n ystyried gwneud yr un peth, os oedd eich profiad o fynd i’r brifysgol yn hollbwysig i chi, yna byddwn i’n dweud wrtho am ystyried gadael rhodd.
"Roedd y broses yn rhwydd iawn a gallwch chi helpu myfyrwyr y dyfodol i ddilyn eu breuddwydion.”
Os ydych chi'n ystyried ysgrifennu neu ddiweddaru'ch Ewyllys, yn ein gweminar ysgrifennu Ewyllys cewch gyngor annibynnol gan y cyfreithiwr cyswllt a’r cyn-fyfyriwr Laura Ikin (LLB 2006, PgDip 2007).
Cefnogi myfyrwyr yng Nghaerdydd
Gall rhodd wneud gwahaniaeth parhaol i genedlaethau’r dyfodol, gan ysbrydoli ein myfyrwyr i holi, bod yn arloesol a gwneud newid gwirioneddol i’r byd yr ydym yn byw ynddo.