Ewch i’r prif gynnwys

Dros 110 mlynedd yn ôl, cychwynnodd y chwilotwr, Capten Scott, ar ei fordaith gan hwylio o Gaerdydd i’r Antarctig. Heddiw, mae Prem Gill, sy’n anturiaethwr ei hun o Gaerdydd, yn gweithio yn y Sefydliad Ymchwil Begynol eponymaidd yng Nghaergrawnt, lle mae'n astudio’r Antarctig o'r gofod.

Gan weithio ar y cyd ag Arolwg Antarctig Prydain a Chronfa Bywyd Gwyllt y Byd (WWF), mae Prem yn defnyddio delweddau lloeren manwl i fonitro poblogaethau o forloi. Drwy fonitro’r morloi hyn, mae Prem yn dysgu am newidiadau i'w cynefinoedd, a thrwy hynny, yr effeithiau y mae newid hinsawdd yn eu cael ar ecosystem yr Antarctig.

Ni chychwynnodd Prem ei yrfa yn yr Antarctig ar wyliau drud nac ychwaith mewn clybiau gwyddoniaeth ar ôl ysgol. Y gwir yw daw ei ysbrydoliaeth o’r byd digidol, a'i blentyndod mewn aelwyd dosbarth gweithiol yng nghrombil y ddinas.

“Cefais fy magu gyda Pokémon ar fy Game Boy a David Attenborough ar y teledu,” meddai Prem. “Pokémon oedd fy mywyd pan o’n i’n blentyn, ac mae'n efelychu’r hyn rydw i’n ei wneud ar hyn o bryd. Rwy’ dal i ganfod anifeiliaid mewn llefydd anarferol, ond nawr rwy’n gwneud hyn gan ddefnyddio delweddau lloeren. Rwy'n cofio gwylio rhaglenni dogfen Attenborough, ac wedyn yn gorwedd yn y gwely a meddwl, 'Ar hyn o bryd, mae tylluan, llwynog neu fochyn daear yn cerdded o amgylch y lle'. Ro’n i eisiau bod fel David.”

O dan anogaeth ei chwaer, byddai Prem yn gwneud cais yn hwyrach drwy glirio i astudio daearyddiaeth forol ym Mhrifysgol Caerdydd. Fe wnaeth ef lwyddo i sicrhau y lle olaf ar y cwrs, graddio drwy fod y myfyriwr a berfformiodd orau yn ei flwyddyn olaf, a byddai'n parhau i gael ei ysbrydoli gan olygfeydd o’r Antarctig ar y rhaglen Frozen Planet. Wedi hynny, fe barhaodd i ddilyn ei ddiddordeb mewn morloi drwy wneud PhD yng Nghaergrawnt, ac ers hynny, mae wedi teithio i rannau mwyaf anghysbell y byd.  

Yn anffodus, roedd un o'r teithiau hyn wedi'i drefnu ar gyfer mis Mawrth 2020. Y mis hwnnw, hedfanodd Prem a'i dîm o Lundain i Dde America, cyn teithio ymlaen i ganolfan y DU yn yr Antarctig – ac erbyn iddyn nhw gyrraedd yno, roedd COVID wedi ymledu ledled y byd.

Yn ôl bryd hynny, doedd gan y tîm ddim unrhyw brofion swab wrth law, a thybiwyd y byddai dewis doeth Prem o wisgo gorchudd wyneb wrth deithio yn ormodol. Newidiodd hyn yn gyflym: yn fuan iawn byddai straeon newyddion oedd yn araf yn cyrraedd yr Antarctig yn cadarnhau difrifoldeb y pandemig.

Wrth deithio adref, llwyddodd y tîm i ddianc rhag pob arosfa wrth i ffiniau’r gwledydd gau y tu ôl iddyn nhw, a chyrhaeddodd Prem yn ôl yn y DU ar adeg pan ddechreuodd y cyfnod clo.

Yn sgîl gohirio ei PhD, gwnaeth cyfarwyddwr rhaglen Frozen Planet II y BBC gysylltu â Prem i gynnig cyfle gwaith anhygoel iddo. Ac yntau oedd yr un cyfarwyddwr a wnaeth ysbrydoli Prem pan oedd e’n las-fyfyriwr yng Nghaerdydd. “Roedd y bennod a arweiniodd imi ddod yn wyddonydd morloi wedi’i ffilmio ganddi yr holl flynyddoedd yn ôl,” gwenai Prem. “Roedd yn foment gwblhau’r cylch eithaf rhyfedd.”

Roedd anturiaethau Prem o greu ffilmiau wedi mynd ag ef i’r Lapdir, lle astudiodd yr achos rhyfeddol o freninesau’r gwenyn yn gaeafu, gan rewi dan ddaear cyn dirgrynu eu hadenydd a dadrewi adeg y gwanwyn. “Doedd neb erioed wedi dod o hyd i nyth y wenynen hon o’r blaen, a ninnau oedd y bobl gyntaf i'w ffilmio yn magu ei hepil,” meddai. Yn ogystal â serennu yn y bennod, roedd breninesau'r gwenyn yn ddarganfyddiad newydd sbon i David Attenborough, arwr yn ystod plentyndod Prem.

Ochr yn ochr â'i waith maes, roedd Prem hefyd wedi sefydlu rhwydwaith ar lawr gwlad, sef Polar Impact, a hynny o’i gartref. Drwy'r sefydliad hwn, mae wedi cefnogi lleiafrifoedd ym maes ymchwil begynol, wedi cyrraedd talent o gefndiroedd a dangynrychiolir, ac wedi gweithio i newid delwedd chwilotwyr pegynol. “Pan rydych chi’n clywed y geiriau ‘chwilotwr yr Antarctig’, efallai na fyddwch chi’n dychmygu person ifanc, brown,” meddai. “Efallai’r hyn sy’n dod i gof yw lluniau sepia o chwilotwyr yr Oes Fictoria wedi’u hariannu gan y frenhines, ac ro’n i am newid y rhagdybiaeth honno.”  

Mae Prem yn awyddus i ddangos mai cenhadaeth fyd-eang yw chwilota pegynol, ac wastad wedi bod ers y cychwyn cyntaf. “Roedd archwilio’r Arctig yn bosibl diolch i’r technegau y dysgon ni gan y bobl frodorol,” eglura. “Ac un o'r teithiau mwyaf enwog i’r Antarctig oedd y ras i Begwn y De rhwng y DU a Norwy, Capten Scott ac Amundsen. Ond dyw’r mwyafrif o bobl ddim yn sylweddoli y buodd Siapan yn rhan o’r ras hefyd”

Mae prosiectau allgymorth Prem yn amrywio o hyfforddi myfyrwyr mewn cadwraeth i gynhyrchu cerddoriaeth grime gan ddefnyddio synau’r morloi.

“Mae ganddyn nhw sŵn hynod o annaearol ac arallfydol,” meddai. "Mae ganddyn nhw'r synau hyn maen nhw'n eu defnyddio i gyfathrebu, a des i i sylweddoli eu bod nhw’n swnio’n debyg iawn i’r gerddoriaeth grime y gwnes i dyfu lan yn gwrando arni.”

Ymhlith yr ystod o syniadau creadigol eraill oedd cludo barddoniaeth a gwaith celf y myfyrwyr yr holl ffordd i’r Lapdir, lle gwnaeth y tîm Frozen Plant ysgrifennu ymatebion iddyn nhw â llaw.

Ac, mewn partneriaeth â'r Amgueddfa Forwrol Genedlaethol yn Greenwich, gwnaeth wahodd plant i gynllunio a chyflwyno eu celf pegynol eu hunain, cyn addasu’r rhain i fod yn cardiau post i’w gwerthu yn y Swyddfa Bost anghysbell yn yr Antarctig.

Wedyn, fe aeth Prem ati i ehangu’r prosiectau hyn i greu Polar Portals, a ariennir gan wobr National Geographic. Gan ddod â thiroedd pell yn agosach at ddinasoedd y DU, derbyniodd plant ysgol y wladwriaeth gardiau post o Antarctica a ddyluniwyd gan artistiaid brodorol.

Pan gafodd y rhain eu sganio, daeth y cardiau post yn fyw drwy fapiau rhithwir a dyddiaduron o allteithiau, gan fanylu ar deithiau'r chwilotwyr a'u cariodd. Roedd Prem wedi recriwtio gwyddonwyr a gwneuthurwyr ffilmiau o bedwar ban byd i ddod yn fodelau rôl anturus – a thrwy rannu eu straeon, mae'n gobeithio dangos bod y gyrfaoedd hyn yn rhai posibl a hygyrch.  

O ganlyniad i’w ymroddiad i waith allgymorth ac adeiladu byd gwell i genedlaethau’r dyfodol, cyflwynwyd Gwobr gyntaf erioed yr Is-Ganghellor i Prem yn ystod y Gwobrau tua(30) y llynedd.

Yn 2025, mae ei genhadaeth yn parhau: law yn llaw â gwyddonwyr dinasyddiaeth, mae Prem yn hyfforddi modelau Deallusrwydd Artiffisial i gyflymu ei waith ymchwil, ac i gadw llygad gwyliadwrus ar fywyd gwyllt mwyaf anhygoel y byd yn y pen draw.

Cardiau post Aylah, Ladislav, a Sophie

Gwobrau (tua)30 2024

Darllenwch straeon enillwyr gwobrau (tua) 30 sy’n rhan o’n rhestr 2024 derfynol o gynfyfyrwyr o Brifysgol Caerdydd sy’n arloesi ac yn torri tir newydd yn ogystal â rheolau.

Troi poen yn ddiben: gweledigaeth ar gyfer gofal llygaid sy’n hygyrch i bawb

Optometrydd yw Lucky Aziken (MSc 2023) sy’n darparu gwasanaethau gofal llygaid fforddiadwy a chynaliadwy yn Nigeria a Malawi.

Cynnyrch hunan-lanhau a allai olygu mislif mwy diogel i bawb

Mae Dr Jennifer Edwards (BSc 2003, PhD 2007) a Dr Michael Pascoe (PhD 2020) yn datblygu cynnyrch hunanlanhau arloesol a allai sicrhau mislif mwy diogel i bobl mewn rhai o gymunedau mwyaf bregus y byd.