Ewch i’r prif gynnwys

Mae ymchwil Tamas yn ceisio cyfyngu ar effaith TB a diogelu grwpiau sy’n agored i niwed a allai wynebu risg uwch.  

"Dechreuodd fy nhaith ym Mhrifysgol Caerdydd yn 2015, pan ddechreuais i astudio ar gyfer fy ngradd israddedig ym maes Meddygaeth. Rydw i’n falch iawn o fod yn ôl ac yn parhau â’m haddysg yn fyfyriwr PhD, ac rydw i’n canolbwyntio ar sut allwn ni wella profion sgrinio a diagnostig ar gyfer TB yng Nghymru.

"Er ein bod yn tueddu i feddwl am TB yn rhywbeth sydd fwy neu lai wedi’i ddileu yn y DU, mae’n dal i fod yn achos pryder i iechyd y cyhoedd, gydag oddeutu 80 o achosion o TB gweithredol yn cael eu canfod bob blwyddyn yng Nghymru hyd at 2022. Mae llawer mwy o achosion o TB cudd, fodd bynnag, sydd ddim yn heintus nac yn achosi symptomau.

"Mae system imiwnedd llawer o bobl yn clirio TB pan fyddan nhw wedi dod i gysylltiad â'r clefyd (er enghraifft, am fod person wedi’i heintio wedi pesychu’n agos atyn nhw). Bydd rhai, fodd bynnag, yn datblygu TB gweithredol – salwch difrifol sy’n gallu effeithio ar unrhyw ran o’r corff, ond sy'n aml yn achosi peswch a thwymyn ac yn arwain at golli pwysau.

"I eraill, gall TB aros yn segur yn y corff a 'deffro' yn ddiweddarach. Er enghraifft, gallai person oedrannus fod wedi dal TB yn ystod ei blentyndod, ond efallai na fydd y TB cudd yn dod yn TB gweithredol am ddegawdau. Gall unrhyw beth sy'n achosi i'r system imiwnedd wanhau, fel HIV, cymryd cyffuriau atal imiwnedd (fel rhai triniaethau ar gyfer arthritis rhiwmatoid), cemotherapi neu fynd yn hŷn, achosi i TB cudd ddod yn TB gweithredol.

"Yn yr amgylchedd cywir, gall y clefyd ledaenu'n gyflym, gan arwain at nifer fawr o achosion, fel y gwelwyd yn Llwynhendy yng Ngorllewin Cymru yn 2010.

Dr Tamas Barry (MBBCh 2020, PhD Medicine 2022-)

Sgrinio poblogaethau risg uchel

"Mae canfod a thrin TB cudd yn rhan hanfodol o raglenni rheoli TB. Yng Nghymru, rydyn ni’n sgrinio am TB drwy wneud prawf gwaed, fel arfer ar grwpiau penodol sydd mewn mwy o berygl o gael eu heintio a datblygu TB gweithredol.

"Mae’r grwpiau hyn yn cynnwys pobl sy'n teithio i'r DU o wledydd lle mae llawer o achosion o TB, fel Wcráin, a'r rhai sydd ar fin dechrau cymryd rhai meddyginiaethau. Maen nhw hefyd yn cynnwys pobl sy'n byw mewn cymunedau difreintiedig, lle mae dibyniaeth ar gyffuriau ac alcohol a digartrefedd yn gyffredin.

"Bydd rhan o’m hymchwil yn rhoi sylw i ddeng mlynedd o ddata ar brofion a gasglwyd yng Nghymru, gan ein helpu i ddeall ym mhle ddylen ni fod yn targedu ein gwaith sgrinio a sut mae defnyddio ein hadnoddau orau mewn amgylchedd heb ddigon ohonyn nhw.

"Drwy gydweithio ag Iechyd Cyhoeddus Cymru, bydden ni wedyn yn ystyried datblygu canllawiau sgrinio cenedlaethol ar gyfer grwpiau sydd mewn perygl.

Gwella profion clinigol

"Mae'r rhan sy'n weddill o'm hymchwil yn canolbwyntio ar ddatblygu prawf diagnostig newydd ar gyfer TB gan ddefnyddio techneg o’r enw cytometreg llif.

"Ar hyn o bryd, dydy profion gwaed presennol ddim yn gallu gwahaniaethu rhwng gwahanol gamau heintiad, ac mae’r rhain yn aml yn cael eu hallanoli i Loegr neu rywle arall, hefyd. Gobeithio, drwy ddadansoddi ymatebion imiwn cleifion â TB, y gallwn ni ddefnyddio cytometreg llif i ddatblygu prawf gwaed newydd.

"Dylai’r prawf hwn fod yn gyflym ac yn gost-effeithiol a chael ei wneud yng Nghymru, gan leihau effaith amgylcheddol cludiant i labordai. Mae gan y math hwn o brawf y potensial i gael ei fabwysiadu'n fyd-eang a chael effeithiau cadarnhaol dwys er budd cleifion.

Gwaddol personol

"Rydw i’n hynod ddiolchgar bod yr arian ar gyfer fy ymchwil wedi dod o rodd hael mewn ewyllys. Mae'n galonogol bod Mary wedi astudio Meddygaeth yng Nghaerdydd a’i bod wedi eisiau gwneud gwahaniaeth ar gyfer y dyfodol yn dilyn colled drasig ei diweddar ŵr Thomas.

"Rydw i’n falch iawn o fod nid yn unig yn gyrru dulliau o ganfod a thrin TB yn eu blaen ond hefyd yn anrhydeddu gwaddol Mary a'i gwaith yn feddyg.

Rhagor gan gylchgrawn Cyswllt Caerdydd

Cyswllt Caerdydd 2024

Yn rhifyn Haf 2024 o’ch cylchgrawn cyn-fyfyrwyr a ffrindiau, byddwch yn clywed sut mae ein cyn-fyfyrwyr dawnus yn cefnogi’r genhedlaeth nesaf o fyfyrwyr ac yn gwneud gwahaniaeth i’r byd o’u cwmpas. Dysgwch sut mae ein hymchwilwyr yn datblygu ein dealltwriaeth o dwbercwlosis ac yn defnyddio technoleg flaengar i wella iechyd menywod byd-eang.

Gwaddol llawfeddyg o Gymru yma o hyd, ac yn ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o fyfyrwyr meddygol Prifysgol Caerdydd

Gwnaeth angerdd Dr John Thomas dros feddygaeth ac addysg er pawb ysbrydoli ei deulu i sefydlu Bwrsariaeth Dr John Thomas.

Cyn-fyfyriwr o’r Ysgol Cerddoriaeth yn ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o artistiaid ifanc 

Guy Verral-Withers (BMus 2013) yn cyflwyno opera i gynulleidfaoedd newydd a chynnig llwyfan i artistiaid ifanc fedru llwyddo.