Llongyfarchiadau i Undeb y Myfyrwyr, wrth iddo droi’n 50 oed
Yng nghrombil dinas Caerdydd, saif Undeb y Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd yn fegwn hirsefydlog. Mae brics a morter yr adeilad yn destament i hanner canrif o chwerthin, cyfeillgarwch, a phrofiadau a rannwyd dros y blynyddoedd.
Ac yntau wedi’i agor ym 1974, dyluniwyd yr adeilad gan Syr Alexander John Gordon CBE (Dip 1948, Hon 1989), cyn-fyfyriwr balch o Ysgol Pensaernïaeth Cymru y Brifysgol. Yn ogystal, ef a ddyluniodd yr Ysgol Cerddoriaeth a Theatr y Sherman hefyd. Yn dathlu ei ben-blwydd yn 50 oed eleni, mae Undeb y Myfyrwyr wedi gweld miloedd o fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd yn mynd a dod dros y degawdau diwethaf. Mae’r undeb wedi bod yn dyst i ffrindiau newydd yn cael eu creu, sawl cusan gyntaf, perthnasau’n dod i ben, colur, a phopeth arall dan haul. Dyma’r fan lle daeth ffrindiau’n deulu, a dinas Caerdydd yn gartref i gynifer.
Pan agorodd yr adeilad am y tro cyntaf, fe’i gydnabuwyd yn Undeb y Myfyrwyr ar y Cyd (JSU) rhwng Sefydliad Gwyddoniaeth a Thechnoleg Prifysgol Cymru (UWIST) a Choleg y Brifysgol, Caerdydd (UCC).
"Hebrwng cyfnod newydd i mewn a wnaeth 1974. Cyn hynny, nid oedd gan UWIST na’r UCC eu Hundeb Myfyrwyr eu hunain, ond yn hytrach, roedden nhw’n rhannu'r JSU.
"A minnau’n lasfyfyriwr bryd hynny, lle dyna’r cyfan roeddwn i’n ei wybod ac yn gyfarwydd ag ef, roedd gweld yr adeilad newydd sbon hwn wir yn agoriad llygad ac yn antur gyffrous newydd i mi.
"Serch hynny, i nifer o fyfyrwyr a oedd yn dychwelyd ar yr adeg honno, roedd yn gyfnod lle gwelwyd cryn anfodlonrwydd. O’r adeg honno ymlaen, ni fodolodd hunaniaeth bob coleg yn eu mannau Undeb Myfyrwyr neilltuol (fel o’r blaen).
"Yr hyn a ddaeth yn ei sgil oedd holltiad eithaf anffurfiol – ar y naill law, yr UWIST ym Mar Morgannwg a oedd yn debyg i ysgubor (mynediad iddo drwy’r drws ar y dde), ac ar y llaw arall, yr UCC ym Mar Gwent a fu’n lle mwy cyfforddus a thrwsiadus (mynediad iddo drwy’r drws ar y chwith).
"Cafodd Bar Dyfed (ger y Neuadd Fawr, a leolwyd un llawr islaw) ei ddefnyddio yn bennaf ar gyfer nosweithiau cyngerdd a disgo, ond golygai'r golau pŵl a'r naws gysurus mai dyma lle'r aethoch chi am ddêt!"
James Myatt (LLB 1978), Llywydd Undeb Myfyrwyr UWIST 1978-1979
Gwnaeth yr adeilad gynnal Wythnos y Glas i bob un o’r sefydliadau; pob un yn ei dro. Er na chafodd y gofod ar y cyd hwn groeso mawr gan bawb o’r cychwyn cyntaf, wrth i’r blynyddoedd fynd heibio, bu i’r holltiad yma ddechrau diflannu’n araf deg.
Ym 1983, yn dilyn gwaith gan y tîm SAB, bu newid yn statws Undeb y Myfyrwyr Caerdydd; roedd bellach yn gwmni cyfyngedig.
"Roedd dod yn gwmni ynddo'i hun yn golygu yr oedd modd inni gynnal mwy o ddigwyddiadau a defnyddio'r adeilad yn fwy at ddibenion adlonni myfyrwyr.
"Fe weddnewidion ni’r undeb i’w wneud yn un o’r Undebau mwyaf cyffrous yn y wlad. Yno, gwnaethon ni gynnal y gyngerdd wrth-apartheid gyntaf erioed yn y brifysgol a'r gyngerdd reggae gyntaf erioed, lle croesawon ni’r band Steel Pulse.
"Gweithion ni’n ddiwyd er mwyn ceisio ei gynnal fel busnes (a chynhyrchu trosiant gweddol ar yr un pryd), ac a wnaeth, yn ei dro, ddiogelu buddsoddiad enfawr a arweiniodd at greu The Hanging Gardens."
Sanjiv Vedi OBE (BSc 1984), Llywydd Undeb Myfyrwyr Coleg y Brifysgol, Caerdydd 1983-1984
Ym 1986, ar ôl tair blynedd o gynllunio a gwaith adeiladu a gostiodd dros £200,000, agorodd The Hanging Gardens.
Ar yr adeg honno, man adloniant o'r radd flaenaf a oedd yn unigryw ymhlith Undebau Myfyrwyr yn y DU, ac a sefydlodd Caerdydd yn un o'r goreuon yn y wlad.
"Wedi'i agor y llynedd, gwnaeth y Hanging Gardens gosod Undeb y Myfyrwyr Caerdydd ar y blaen yn safle unigryw, heb ei ail, dros unrhyw undeb arall ym Mhrydain. Allan o far difywyd, digymeriad, a ffreutur digon cyffredin, yn debyg i unrhyw ffreutur allan, tyfodd y Gerddi."
Wrth i amser fynd yn ei flaen, gyda phethau’n newid a datblygu, yn yr un modd newidiodd enw’r lle.
Yn ystod y nawdegau, adnabu’r Hanging Gardens wrth yr enw Terminal 396, wedyn newidiodd yr enw i Solus, ac erbyn hyn Y Plas yw’r enw a roddir iddo.
Yn ogystal â hyn, mae'r Neuadd Fawr wedi cynnal cannoedd o gigs gwych dros y blynyddoedd. Ymhlith y rheiny a berfformiwyd yno y bu’r Manic Street Preachers, The Stranglers, The Cure, Radiohead, The Clash, Happy Mondays, Portishead, The Jam, Super Furry Animals, Ocean Colour Scene, a Public Enemy, i enwi ond ychydig.
"Trefnodd y tîm gigs gwych, ac yn y lifft ambell dro, byddwn i’n digwydd cyfarfod rhai o’r bandiau mawr yma. Yn eu presenoldeb, byddwn i'n ffugio ymddwyn yn cŵl, ond mewn gwirionedd, ces i ysgytwad llwyr!
"Gwelais i sawl Bwrdd Cymdeithas y Myfyrwyr (SABs) gwych yn mynd a dod, a swyddogion a staff brwdfrydig ac angerddol hefyd. Un atgof melys i mi oedd y ffordd y byddai Rona Griffiths yn eistedd wrth y ddesg flaen yn dosbarthu tocynnau bws mini i’r gwahanol gymdeithasau, ac yn gwneud i bawb wenu a chwerthin gyda'i synnwyr digrifwch ffantastig.
"Gwnes i symud ymlaen o fod yn Swyddog Menywod i ddod yn Swyddog Cyfle Cyfartal i'r Llywydd. Roeddwn i wrth fy modd yn cwrdd â chyd-fyfyrwyr, clywed eu hanghenion a’u gofynion, a’u rhoi ar waith. Fe wnaethon ni greu hyb cyfle cyfartal, sefydlu dosbarthiadau hunanamddiffyn am ddim, a chynnal gwasanaethau bws mini am ddim i sicrhau bod myfyrwyr yn cyrraedd adref yn ddiogel.
"Roeddwn i'n dod o aelwyd rhiant sengl lle nad oedd gennym ni fawr o arian. Gweithiais fy ffordd i fyny drwy'r cyfleoedd a wnaeth yr Undeb Myfyrwyr eu darparu i mi, ac roedd yn anrhydedd cael bod yn Llywydd yr Undeb Myfyrwyr gogoneddus hwn mewn adeilad gwych a oedd yn gweddu’n berffaith i ni i gyd. Roedd yn amser anhygoel a wnaeth fy ngalluogi i wynebu’r byd yn fenyw ifanc hyderus ac annibynnol."
Josie Grayson (BScEcon 1994), (Ford gynt), Llywydd Undeb y Myfyrwyr 1995-1996
Mae’r cymdeithasau bob amser wedi bod wrth galon yr Undeb ac erbyn hyn mae yna fwy na 200 i ddewis o’u plith.
Boed hynny’n ceisio cadw at derfynau amser noson gynt ar gyfer y Gair Rhydd, darllediad byw ar Radio Xpress, a bod ar bigau’r drain cefn llwyfan ar nosweithiau agoriadol Act One yw ond rhai o’r sefyllfaoedd lle daeth myfyrwyr di-rif o Gaerdydd o hyd i'w hangerdd, rhoi min ar eu sgiliau newydd, a meithrin cyfeillgarwch am oes.
Wrth i’r amser wibio heibio, ac er nad yw grisiau nodweddiadol Undeb y Myfyrwyr yno bellach, mae enaid yr adeilad yn dal i barhau. Ac yntau bellach wedi’i gosod gerllaw Canolfan Bywyd y Myfyrwyr, ei gymydog yn y byd sydd ohoni ac yn gartref i wasanaethau’r myfyrwyr yn y Brifysgol, mae Undeb y Myfyrwyr yn parhau i gofleidio ei orffennol wrth iddo symud tuag at y dyfodol.
I'r holl gyn-fyfyrwyr a grwydrodd ei neuaddau, dawnsiodd ar ei loriau, a chwrdd â’u cariadon o fewn ei furiau, mae Undeb y Myfyrwyr yn fwy nag adeilad; mae'n gapsiwl amser llawn chwerthin, gobeithion a breuddwydion, a pherthnasau clos, amhosibl eu torri, â balchder Caerdydd. Dyma godi ein gwydrau i hanner can mlynedd o atgofion, ac i hanner cant mwy!
Cymryd Rhan
Os hoffech chi rannu eich atgofion o Undeb y Myfyrwyr, cyflwynwch y rhain ar-lein neu anfonwch e-bost at studentsunion@caerdydd.ac.uk.