Newid dyfodol gofal cleifion mewn Uned Gofal Dwys (ICU)
Dr Samyakh Tukra (MEng 2017) yw sylfaenydd a Phrif Swyddog Gweithredol Third Eye Intelligence, sydd wedi datblygu system deallusrwydd artiffisial unigryw a phwerus (AI). Mae’r system yn rhoi rhybudd cynnar i glinigwyr yr Uned Gofal Dwys ynghylch pryd y bydd claf yn datblygu methiant organau.
Dr Samyakh Tukra (MEng 2017) yw sylfaenydd a Phrif Swyddog Gweithredol Third Eye Intelligence, sydd wedi datblygu system deallusrwydd artiffisial unigryw a phwerus (AI). Mae’r system yn rhoi rhybudd cynnar i glinigwyr yr Uned Gofal Dwys ynghylch pryd y bydd claf yn datblygu methiant organau.
Mae gan y dechnoleg hon y potensial I arbed miliynau o fywydau ledled y byd, yn ogystal â gwneud gofal ICU yn fwy diogel, yn fwy effeithlon ac yn gost-effeithiol. Esboniodd Sam beth a’i hysbrydolodd I ddatblygu’r system, a sut y gwnaeth ei gyfnod ym Mhrifysgol Caerdydd ddylanwadu ar ei fenter busnes yn y dyfodol.
Roedd penderfyniad Sam i ddod i Gaerdydd I astudio peirianneg feddygol yn un a seiliwyd ar awydd i ddod . dau o’i ddiddordebau ynghyd. “Ar y pryd roedd gen i ddiddordeb mewn meddygaeth mewn gwirionedd. Fodd bynnag, roeddwn yn dal ychydig yn ansicr a oeddwn am astudio meddygaeth bur,” esboniodd.
“Roedd rhai o’r cyrsiau peirianneg feddygol mewn prifysgolion eraill yn canolbwyntio gormod ar beirianneg fiofeddygol, wedi’u hanelu’n fwy at systemau cellog a biolegol, yn hytrach na pheirianneg fecanyddol a gymhwysir mewn meddygaeth. Roedd gen i fwy o ddiddordeb yn yr olaf, ac oherwydd mai Caerdydd oedd un o’r unig leoedd oedd yn cynnig cwrs o’r fath, cefais fy nenu i ddod yma.”
Tra’n astudio yng Nghaerdydd, llwyddodd Sam i feithrin cysylltiadau cryf â’i gydfyfyrwyr ac mae rhai ohonynt dal yma. Yn ddiweddar mae hyd yn oed wedi recriwtio cyd-gynfyfyriwr o Gaerdydd i dîm Third Eye.
Yn ystod ei amser yng Nghaerdydd y dechreuodd Sam ddysgu rhagor am AI a sut y gellid ei roi ar waith yn ymarferol. “Rwy’n cofio mynd draw i’r labordai cyfrifiadureg a gweld myfyriwr yn edrych ar dudalen we arbennig. Dangosodd algorithm, a oedd yn wifrau yn y b.n, ond roedd yn edrych fel ymennydd,” eglurodd. “Sylweddolais ar .l edrych arno mai AI oedd hwn. Roedd hyn yn real.” Y diddordeb hwnnw mewn deallusrwydd artiffisial a’i harweiniodd I ddatblygu Third Eye Intelligence yn 2019.
“Fy nhad-cu oedd fy ysbrydoliaeth mewn gwirionedd ar gyfer y Third Eye. Bu farw oherwydd methiant organau yn 2017. Ar ôl iddo farw, gofynnais i nifer o glinigwyr ‘pam nad oeddech chi’n gwybod bod hyn yn mynd i ddigwydd?’ Nid oedd yn gwneud synnwyr i mi, gyda’r holl ddata a gwybodaeth yna. Sylweddolais mai dyma’r bwlch yn y broses. Maen nhw’n cofnodi’r holl ddata hyn, ond nid yw’n bosibl prosesu’r cyfan mewn amser real a dod o hyd i’r holl dueddiadau.”
“Pan fydd claf yn dod i mewn i’r uned gofal critigol, mae ganddyn nhw tua phump i chwe diwrnod cyn iddyn nhw fod mewn risg o fethiant organau. Sy’n golygu bod amser yn hollbwysig.” Eglurodd Sam, “Maen nhw wedi’u cysylltu i fonitoriaid lluosog sy’n cofnodi data yn y cefndir yn barhaol.”
Mae ein algorithm yn llyncu’r holl ddata – arwyddion bywyd, sganiau ac ati – ac yn rhagweld a fydd un neu nifer o organau yn methu. Felly gallwn roi rhagor o amser i glinigwyr ymyrryd, a gobeithio newid tynged y claf hwnnw.”
Mae prosesu’r holl ddata hyn yn dasg fawr, fel yr eglurodd Sam. “Nid yw llawer yn ymwybodol o hyn, ond mewn gofal critigol mae tua 253 o newidynnau o fathau neu setiau data gwahanol yn cael eu cofnodi’n gyson ar gyfer pob claf. Mae hynny’n golygu bod 253 o bwyntiau data yn cael eu cofnodi bob pump i ddeg munud, sy’n swm enfawr o ddata i’w ddadansoddi.”
Rhoddodd Sam drosolwg i ni o’r AI a sut mae’n mesur tebygolrwydd i fethiant organau. “Mae’r algorithm yn rhagweld yr amser posibl y bydd y methiant yn digwydd a’i debygolrwydd cysylltiedig.” Ymhelaethodd, “dim ond rhwng sero ac un y gall tebygolrwydd fodoli - un yn hynod hyderus y bydd rhywbeth yn digwydd, a sero na fydd yn digwydd o gwbl.”
“Felly, mae unrhyw beth llai na 0.5 yn golygubod y claf mewn cyflwr iach normal, ni ddylem ddisgwyl unrhyw amodau anffafriol. Ond cyn gynted ag y byddwn ni’n mynd i 0.6, dyna pryd mae’r risg yn cynyddu ac rydyn ni’n rhoi’r rhybudd cyntaf,” dywedodd Sam wrthym.
Mae’r sganio cyson hwn o ddata yn anfon rhybuddion at ymarferwyr er mwyn iddynt fod yn ymwybodol y gallai’r claf fod yn profi methiant organau. “Bîp meddalwedd yw hwn ac mae nyrs neu glinigwr yn cael neges i ddod I weld y claf. Dyna’r pwynt y maent yn ymyrryd yn gynt nag y byddent heb yr AI hwn. Dyna’r pwynt rydyn ni’n newid canlyniadau i gleifion.”
Y dechnoleg arloesol hon yw’r rheswm y derbyniodd Sam Wobr (tua)30 yn 2022. Mae’r gwobrau hyn yn cydnabod y rhai sy’n gwneud newidiadau ac arloeswyr yng nghymuned cynfyfyrwyr Prifysgol Caerdydd, sy’n gwneud gwahaniaeth, cyn iddynt gyrraedd (tua) 30.
“Mae cael y gwerthfawrogiad hwnnw nid yn unig gan gyfoedion rydych chi’n gweithio gyda nhw, ond gan bobl nad ydych chi erioed wedi cwrdd â nhw o’r blaen yn ddilysiad enfawr. Mae’n rhywbeth sydd ei angen ar bob sylfaenydd.”
Gyda threialon clinigol o Third Eye ar y gweill, efallai y byddwch chi’n clywed yn fuan am y dechnoleg arloesol hon sy’n achub bywydau ledled y DU, a ledled y byd.