Hyrwyddo newid cadarnhaol i iechyd meddwl yn y gymuned Fwslimaidd
Jamilla Hekmoun (MA 2018) yw cadeirydd y Gynghrair Iechyd Meddwl Mwslimaidd (MMHA). Bu’n gweithio’n ddiflino yn ystod y pandemig yn darparu adnoddau a chefnogaeth i’r gymuned Fwslimaidd. Mae hi hefyd yn aelod o fwrdd Cyngor Mwslimaidd Cymru ac yn arwain ymgysylltu cymunedol ar gyfer SEF Cymru. Cawsom sgwrs gyda Jamilla am ei chyfnod ym Mhrifysgol Caerdydd a’r gwaith pwysig y mae’n ei wneud yn y gymuned.
Jamilla Hekmoun (MA 2018) yw cadeirydd y Gynghrair Iechyd Meddwl Mwslimaidd (MMHA). Bu’n gweithio’n ddiflino yn ystod y pandemig yn darparu adnoddau a chefnogaeth i’r gymuned Fwslimaidd. Mae hi hefyd yn aelod o fwrdd Cyngor Mwslimaidd Cymru ac yn arwain ymgysylltu cymunedol ar gyfer SEF Cymru. Cawsom sgwrs gyda Jamilla am ei chyfnod ym Mhrifysgol Caerdydd a’r gwaith pwysig y mae’n ei wneud yn y gymuned.
Roedd Jamilla eisiau dod i Gaerdydd ar ôl astudio modiwl o’r enw ‘Mwslimiaid ym Mhrydain’ yn ystod ei gradd israddedig. Esboniodd, “Fe wnes i ddod o hyd i gwrs MA yng Nghaerdydd o’r enw Islam ym Mhrydain Gyfoes, ac roedd yn swnio’n berffaith.” “Bûm yn ffodus iawn o gael ysgoloriaeth i’m galluogi i astudio’r cwrs.”
Mae’r penderfyniad i astudio’r MA yng Nghaerdydd wedi talu ar ei ganfed. “Roeddwn i’n hoff iawn o’r ddinas ac roedd pawb yn gyfeillgar ac yn barod i helpu. Roedd fy narlithwyr i gyd yn hyfryd!” dywedodd Jamilla wrthym.
Mae Jamilla yn hyrwyddo trafodaethau mwy cadarnhaol ar iechyd meddwl, ac roedd yn cydnabod nad yw hyn yn hawdd i bawb. “Rwy’n credu bod siarad am iechyd meddwl yn helpu pobl i deimlo’n fwy hyderus wrth geisio cefnogaeth. Ond ni ddylent deimlo pwysau i siarad am eu hiechyd meddwl gan ei fod yn bwnc personol.”
Er ei bod yn cydnabod yr angen am fwy o wasanaethau iechyd meddwl, nododd hefyd fod angen mwy o gefnogaeth mewn meysydd eraill a all effeithio ar iechyd meddwl. “Mae goblygiadau tlodi, hiliaeth, ac ati yn bethau na ellir eu datrys trwy therapi.” Mae hyn yn arbennig o gyffredin yng nghanol argyfwng costau byw yn y DU, sef rhywbeth mae Jamilla yn ymwybodol ohono. “I rywun sydd bellach yn gorfod dewis rhwng gwresogi a bwyta, ac yn cael problemau iechyd meddwl, dim ond rhan fach o’r broblem y bydd gwasanaethau fel therapi a chwnsela yn ei datrys. Mae angen ymyrraeth gref ar lefel y llywodraeth.”
Materion fel y rhain, ynghyd â’r pandemig, a arweiniodd Jamilla i ddod yn rhan o’r MMHA. Fe’i sefydlwyd ar ddechrau’r pandemig, ac esboniodd Jamilla pa wasanaethau y mae’r gynghrair yn eu cynnig a pham y daeth yn rhan ohono. “Mae’r MMHA yn rhwydwaith o sefydliadau Iechyd Meddwl Mwslimaidd, ac rydyn ni’n gweithio gyda’n gilydd i gynnig adnoddau wedi’u cydlynu, a chyfeirio at ein gilydd. Rydyn ni wedi trefnu gweminarau a chynnal cynhadledd, a’n nod yw ceisio helpu a chyrraedd cymaint o bobl â phosib.”
“Cefais y fraint o gymryd rhan ar y dechrau trwy fy ngwaith yn y Llinell Gymorth Ieuenctid Mwslimaidd, ac yn fuan wedyn dod yn gadeirydd y Gynghrair.” Aeth ymlaen, “Roeddwn i eisiau cymryd rhan oherwydd roeddwn i’n gallu gweld yr effaith enfawr roedd y pandemig yn mynd i’w chael ar ein cymuned ac roeddwn i eisiau cefnogi lle gallwn i.”
“Rwy’n credu ei bod yn bwysig siarad yn agored am iechyd meddwl ym mhob cymuned,” meddai. “Mae hefyd yn bwysig i ymarferwyr ddeall sut y gall ffydd rhywun, boed yn Fwslimaidd, yn Iddewig, yn Gristnogol ac ati, eu helpu i wella o salwch meddwl, neu sut y gall eu ffydd effeithio ar eu hiechyd meddwl yn fwy cyffredinol.”
Yn ogystal â chefnogi’r MMHA, mae gwaith Jamilla yn arwain ymgysylltiad cymunedol SEF Cymru, sefydliad sy’n ymroddedig i helpu plant i oresgyn tangyflawniad addysgol. “Mae mor bwysig hyrwyddo addysg i bobl ifanc, yn enwedig gan fod cymaint ohonyn nhw wedi colli cyfleoedd oherwydd y pandemig,” esboniodd. “Mae angen i’r disgyblion hyn wybod y posibiliadau diddiwedd sydd ar gael iddyn nhw, ac mae’n bwysig bod ganddyn nhw fentoriaid ac athrawon i’w harwain.”
Beth yw ei chyngor ar gyfer y bobl ifanc hynny? “Manteisiwch ar bob cyfle - gallai hyn arwain at ddiddordeb newydd neu dalent nad oeddent yn gwybod bod ganddynt! Cofiwch ofyn am help os oes ei angen!”
Mae gwaith Jamilla wedi bod yn amhrisiadwy i’r gymuned. Cafodd y gwaith hwn ei gydnabod yn ein Gwobrau 2022 (tua) 30 lle derbyniodd wobr cydnabyddiaeth arbennig y gweithredwr cymunedol am ei hymdrechion diflino. Mae’n amlwg y gellir gwneud rhagor i wella darpariaethau iechyd meddwl yn y gymuned Fwslimaidd ac yn ehangach yn y DU, ond mae gwaith Jamilla gyda’r MMHA yn cymryd camau i helpu.