Caerdydd ar blât
Mae'r sîn fwyd yng Nghaerdydd yn newid yn gyflym, a chynfyfyrwyr Prifysgol Caerdydd sy'n gosod y fwydlen.
Tan yn ddiweddar, diddychymyg oedd y dewisiadau ar gyfer bwyta allan, ac ar y cyfan, prydau bwyd ar glud oedd yr arlwy. Ond ymhen dim ond ychydig o flynyddoedd, mae Caerdydd wedi troi'n gyrchfan goginio o’r radd flaenaf. Ac mae cynfyfyrwyr Prifysgol Caerdydd yn arwain y don newydd o gogyddion, entrepreneuriaid ac awduron sy’n gweddnewid y ddinas yn Afallon i unrhyw un sy’n hoff iawn o fwyd.
Cawson ni air gyda chwech o’n cynfyfyrwyr – gan gynnwys dau a gyrhaeddodd rownd derfynol The Great British Bake-off a MasterChef, perchennog rhai o fwytai Caerdydd y mae mynd mawr arnyn nhw, blogiwr bwyd penigamp, barista sydd wedi ennill gwobrau ac ailgylchwr bwyd arloesol – er mwyn eu holi am yr hyn sy’n golygu mai Caerdydd yw’r lle i fwyta allan.
Digonedd o ddewis
Kacie Morgan (BA 2010) yw sylfaenydd The Rare Welsh Bit, blog sy’n canolbwyntio ar fwyta tra byddwch yn teithio.
“Amser maith yn ôl, fel sawl myfyriwr arall yng Nghaerdydd, fy syniad i o fwyta allan oedd bwyd seimllyd yn Ramon’s, prynu rhywbeth cyflym o Venus Kebab House ar ôl noson hwyr, neu, pe byddai’r esgid fach yn gwasgu, darn o dost oedd yn cael ei gynnig am ddim y tu allan i Metros.”
“Nid oedd yr arian yn fy mhoced yn mynd ymhell iawn, ac er bod ambell fwyty roeddwn i’n hoff ohono, doedd dim llawer o rai annibynnol o safon.”
“Ond roedd hyn yn golygu bod y ddinas yn llechen lân bron â bod, gan adael cryn le i bobl arloesi ac arbrofi. Yn fy marn i, y newid mwyaf yn y sîn fwyd yng Nghaerdydd yw’r wmbreth o lefydd sydd yno.”
"Bellach, mae bwyd da ym mhob man. Mae Caerdydd erbyn hyn yn gartref i nifer o gogyddion llwyddiannus iawn ac mae nifer gynyddol o gynhyrchwyr sy’n arbenigo mewn bwyd rhyngwladol a deietau o fathau gwahanol.”
“Mae gan Garchar Ei Fawrhydi Caerdydd hyd yn oed fwyty o’r radd flaenaf lle bydd y carcharorion yn gweini arnoch chi. Mae cynnydd di-baid wedi bod yn ein dinas o ran stondinau bwyd stryd dros dro a gwyliau bwyd.”
“Y dyddiau yma, dwi’n fwy tebygol o flogio am ddosbarth, taith fwyd neu ddigwyddiad bwyd stryd na bwyty,” medd Kacie.
“Mae’r fath amrywiaeth o ran y dewis yn golygu bod pobl Caerdydd bellach yn giniawyr o chwaeth, ac rydyn ni yr un mor chwilfrydig i wybod o ble y daw ein bwyd ag ydym i’w flasu. Rydyn ni eisiau cwrdd â’r bobl sydd wedi gwneud y bwyd anhygoel, clywed am sut cawson nhw’r syniad, deall sut mae’r bwydydd yn cael eu paratoi a rhoi cynnig arni ein hunain efallai!”
Blas cartref
Ym marn y perchennog bwyty Cerys Furlong (MSc 2005, Anrh 2017), mae cynnyrch ffres, lleol a thymhorol yn hollbwysig.
“Dyna sydd wrth wraidd unrhyw sîn fwyd fywiog – ac mae digonedd o ddewis ar gael inni yng Nghymru,” medd Cerys.
Er bod bwytai Caerdydd yn frith o brydau o bob cwr o’r byd, does dim gwadu bod Cymru hithau’n gallu gwneud cryn argraff – cig oen sy’n tynnu’r dŵr o’ch dannedd, caws sy'n toddi yn eich ceg, ffrwythau ffres a phice ar y maen sydd mor fendigedig eu bod yn bryd o fwyd ar eu pennau eu hunain.
Ar ôl gweithio mewn bwytai poblogaidd megis Porro a’r Potted Pig, agorodd Cerys Milkwood yn 2017 gyda’i gwr, y cogydd enwog Tom Furlong, a’i ffrind a’r cyd-gogydd Gwyn Myring.
"Dim ond y cynnyrch gorau rydyn ni'n ei ddefnyddio – caiff y pysgod eu dal oriau’n unig cyn inni eu gweini, daw ein cig eidion o Fro Morgannwg, a thyfir y salad ym Mharc Bute."
"Rwy wrth fy modd bod ein bwydlen yn newid yn gyson, a hynny er mwyn adlewyrchu'r tymhorau."
Traddodiadau Cymreig yn gymysg â’r ddawn ryngwladol
Ym marn Beca Lyne-Pirkis (BMus 2004), yr ysgrifenwraig, y ddarlledwraig a’r cystadleuydd yn rownd derfynol y Great British Bake Off, amrywiaeth yw sail llwyddiant Caerdydd.
“Dysgais i gryn dipyn am goginio gan fy mam a fy nain, felly pan roeddwn i’n fyfyrwraig, byddwn i’n coginio ac yn pobi dros y bobl eraill a oedd yn rhannu’r tŷ gyda mi.”
“Wedyn, yn ystod gwyliau’r haf, bues i’n teithio i Wlad Thai, Malaysia a’r Eidal, a dylanwadodd y profiadau hynny’n fawr ar fy arddull goginio.”
“Mae ffefrynnau megis cyri Thai gwyrdd a risotto’n plesio o hyd – heb anghofio’r pethau melys megis fflapjacs, cacen llus a lemwn yn ogystal â chrempogau! Byddai pawb yn arfer edrych ymlaen yn fawr at Ddydd Mawrth Ynyd yn ein tŷ ni.”
“Heb os nac oni bai, roedd fy nghyfnod ym Mhrifysgol Caerdydd yn gymorth i ddatblygu fy arddull goginio, gan roi’r hyder imi wneud cais ar gyfer y rhaglen hynod o boblogaidd.”
Dywedodd Beca fod cyrraedd rownd derfynol y Great British Bake Off yn 2013 wedi “newid fy mywyd”. “Ers hynny, dwi wedi cael pedair cyfres goginio ar y teledu ac rwy’n dechrau ysgrifennu fy ail lyfr.”
Mae hi’n byw yng Nghaerdydd o hyd ac wedi ei chyffroi yn sgîl y newidiadau sy’n digwydd yn niwylliant bwyd y ddinas. “Dwi ddim yn credu bod adeg well wedi bod i wneud swydd fel yr un sydd gen i!”
Camau allan o'r gegin
Amcangyfrifir ein bod yn gwastraffu tua dwy filiwn tunnell o fwyd bob blwyddyn yn y DU. Mae Caerdydd yn gartref i sawl menter gymdeithasol sy'n mynd i’r afael â'r broblem.
Lia Moutselou (Daearyddiaeth a Chynllunio 2002-2005), cyn-ddarlithydd Cyfraith yr Amgylchedd yng Nghaerdydd, yw sylfaenydd Lia’s Kitchen, sef menter bwyd moesegol ran-amser yn ei chartref.
Dan ysbrydoliaeth bwyd Gwlad Groeg a bwydydd byd-eang yn ogystal â chynaliadwyedd, bydd Lia yn cynnal digwyddiadau bwyd dros dro, ciniawau cymdeithasol gyda’r nos, gweithdai coginio a dosbarthiadau coginio a chiniawau gyda’r nos sy’n trafod lleihau gwastraff.
Hi yw sylfaenydd Cardiff’s Wasteless Suppers, lle bydd gweddillion bwyd sydd ar fin cael eu taflu gan archfarchnadoedd, neu sy’n ei chyrraedd drwy law cynhyrchwyr, yn cael eu rhoi wedyn i gogyddion arbennig o safon – a bydd pob un yn coginio saig benodol ac yn sôn am sut i wneud newidiadau cadarnhaol.
Yn y cyfamser, yng Nghanolfan Gymdeithasol Cathays, mae myfyrwyr o Brifysgol Caerdydd yn helpu i gynnal prosiect ‘Yr Oergell Gymunedol’.
Bydd archfarchnadoedd a busnesau lleol yn rhoddi pob math o gynnyrch, boed ffrwythau, llysiau a brechdanau yn ogystal â chig a physgod wedi’u coginio.
Gall y trigolion lleol fynd i’r Ganolfan Gymdeithasol i gasglu’r bwyd yn unol â chynllun ‘talu yn ôl eich dymuniad’ er mwyn helpu i dalu am y costau cynnal.
Chwaethau newydd
Larkin Cen (LLB 2006, PgDip 2008), a gyrhaeddodd rownd derfynol Masterchef ac sy’n feirniad gwadd, yw cyfarwyddwr Woky Ko a phrif gogydd ‘Cen’ yng Ngwesty’r Celtic Manor.
"Yn fy marn i, adloniant yw bwyta allan. Yn fy mwytai i, gallwch chi wylio cogyddion aruthrol Wok yn coginio o flaen eich trwyn.”
“Mae rhyw wefr yn perthyn i Gaerdydd – dyma ddinas gyffrous sy’n addo llawer a lle mae pobl eisiau profiadau newydd. Mae llawer o fusnesau newydd yn dechrau yma oherwydd eu bod yn cael eu denu gan y sgiliau a’r dalent sydd ar gael yn y Brifysgol.”
“Maen nhw’n dod â gweithlu amlddiwylliannol sy’n barod i wario arian ac yn awyddus i flasu pethau newydd.”
“Dwi’n hanu o deulu o fewnfudwyr o Tsieina a aeth wedyn yn gogyddion, a phan roeddwn i’n tyfu i fyny, roeddwn i’n arfer gweld llawer o’r un math o brydau bwyd megis cyw iâr sur a melys mewn bwytai.”
“Doedd hynny ddim yn adlewyrchu bwyd go iawn o Tsieina, yn fy marn i. Rwy’n angerddol dros gymryd yr elfen ddiwylliannol sy’n perthyn i fwyd a chyflwyno rhywbeth sy’n wahanol ac yn gyffrous.”
Hyd yn oed yn y Brifysgol, roedd y diwydiant bwyd yn rhywbeth cartrefol i Larkin.
“Fi oedd yr un oedd yn hoff o fwyd,” meddai. “Ro’n i’n chwarae rygbi dros dîm y Gyfraith a byddai’r tîm yn dod draw i flasu fy reis wedi’i ffrio. Bryd hynny, ro’n i’n gwneud seigiau syml – ond ro’n i wrth fy modd. Ro’n i eisoes yn meddwl fy mod i’n gallu newid y diwydiant hwn a pheri bod pobl yn dechrau dwlu ar fwyd o Asia.”
Blas annibynnol
I nifer ohonon ni, cwpanaid o goffi yw’r ffordd orau o ddechrau’r diwrnod. Mae Teodora Petkova (BA 2018), barista sydd wedi ennill gwobrau, yn cytuno â’r farn honno.
"Mae cymaint i'w fwynhau – y blas, yr arogl, y cyflwyniad – ond pan gyrhaeddais i Gaerdydd, syndod oedd y diwylliant caffi yno."
“Roedd coffi’n rhywbeth i’w gael yn eich llaw – ond roedd pobl yn rhy brysur i'w werthfawrogi. Dwi’n falch bod pethau’n newid,” medd Teodora.
Gan ddod o hyd i’w hangerdd yn yr Eidal (“Roeddwn i wrth fy modd yn gwylio’r baristas yn gweithio yn y siopau coffi crefftus, yn paratoi pob siot o espresso fel pe bai’n hud a lledrith!”), daeth Teodora â chryn nifer o sgiliau trawiadol adref – a chofrestrodd ar gyfer cystadleuaeth baristas Sefydliad Arlwywyr y Prifysgolion (TUCO).
“Roedd fel sefyll arholiad,” meddai. "Roedd yn rhaid imi wneud llawer o ymchwil. Chwilio am y ffa perffaith; treulio oriau yn cydbwyso’r felin goffi ac yn ymarfer technegau a sut i osgoi gwneud camgymeriadau dan bwysau.”
“Ar y diwrnod, roedd ond ychydig funudau gyda ni i gyflwyno pedwar espresso, ein diodydd â llaeth a phedair diod ddi-alcohol arbenigol yn seiliedig ar espresso, a hynny gan sylwebu ar yr un pryd.”
Enillodd y Fedal Aur, a rhannodd gyfrinach ei llwyddiant gyda ni.
Sut i wneud y coffi perffaith
1. Mae pob cwpanaid yn dechrau gyda’r ffa
Gwnewch yn siŵr eu bod yn cael eu cadw mewn lle oer a sych, o olwg yr haul, gwres a lleithder. Mae llawer o bobl yn gwneud camgymeriad drwy eu cadw yn yr oergell. Gall hynny newid y blas yn llwyr. Y lle gorau i storio’r ffa yw yn eu bag wedi'i gau'n dynn, yn y cwpwrdd.
2. Cydbwysedd yw’r cyfan
Os ydych chi’n cael llaeth gyda’r coffi, dewiswch y llaeth cywir ar gyfer eich ffa. Mae’n rhaid ichi allu blasu’r coffi, felly byddwch yn ofalus wrth ddefnyddio llaeth mwy melys megis llaeth braster llawn.
3. Glanhau eich peiriant
Mae olew mewn ffa coffi sy’n gadael ôl ar y peiriant. Mae gwneud yr ymdrech i lanhau eich peiriant yn rheolaidd, hyd yn oed os yw hynny ond gyda dŵr poeth, yn atal yr olew rhag cronni a newid y blas.
4. Dod o hyd i’ch hoff gwpan
Mae’n rhaid i'r cwpan fod y maint iawn (peidiwch byth ag yfed macchiato mewn cwpan 16 owns). Yna, cynheswch ef – arllwyswch ddŵr berwedig a'i sychu cyn arllwys y coffi. Bydd baristas yn cadw’r cwpanau ar ben y peiriant coffi i'w cadw ar y tymheredd cywir.
5. Peidiwch â bod ofn arbrofi
Rhowch gynnig ar flasau a chyfuniadau anarferol – gwnewch eich surop eich hun gartref, neu ewch ati i ail-greu un o'r diodydd rhyfeddol o wych yr olwg yna ar Instagram. Peidiwch â blino ar roi cynnig ar bethau newydd!