O’ch achos chi
O’ch achos chi, mae Prifysgol Caerdydd yn gallu achub, newid a chyfoethogi bywydau. Rydych chi'n galluogi ymchwil sy'n newid bywydau ac yn rhoi'r sylfaen i fyfyrwyr ffynnu.
O’ch achos chi, mae Prifysgol Caerdydd yn gallu achub, newid a chyfoethogi bywydau. Rydych chi'n galluogi ymchwil sy'n newid bywydau ac yn rhoi'r sylfaen i fyfyrwyr ffynnu.
P’un a ydych wedi:
- gwneud rhodd i gefnogi myfyrwyr, ymchwil feddygol neu unrhyw brosiect arall
gan Brifysgol Caerdydd - ymuno â Chylch Caerdydd
- penderfynu gadael rhodd i Brifysgol Caerdydd yn eich ewyllys
- ymuno â #TeamCardiff i godi arian
- cefnogi myfyrwyr yn eu gyrfaoedd
- rhoi o’ch amser i wirfoddoli fel Llysgennad Cynfyfyrwyr
… rydych chi wedi helpu i ysgrifennu’r straeon yr ydych ar fin eu darllen a llawer mwy. Diolch am wneud gwahaniaeth go iawn i fywydau yma yng Nghymru ac ar draws y byd.
O’ch achos chi, rydyn ni'n dysgu sut i ail-ysgogi mecanweithiau amddiffyn y corff er mwyn atal canser y pancreas
Dyma Josh D'Ambrogio (Y Biowyddorau 2021-), y mae ei PhD wedi'i ariannu gan yr elusen Amser Justin Time.
"Mae fy ymchwil yn canolbwyntio ar sut mae gordewdra’n effeithio ar allu'r pancreas i amddiffyn ei hun rhag cellwyriadau a allai ddod yn gelloedd canseraidd.
"Mae ein hymchwil eisoes wedi dangos bod gallu cynhenid gan bancreas iach i atal tiwmorau ond, weithiau, bydd y mecanwaith hwnnw'n methu, gan arwain at ganser y pancreas.
Credwn mai gordewdra yw un o'r ffactorau sy’n achosi i’r broses hon fethu. Ein cam nesaf yw deall yn llawn sut mae'r corff yn amddiffyn ei hun rhag canser.
"Gallai hyn, yn ei dro, arwain at driniaethau newydd sy'n ail-ysgogi mecanweithiau amddiffyn y pancreas a’i amddiffyn rhag y celloedd hynny sy'n achosi canser ar gam cynnar.
"Drwy ddeall sut mae ffactorau risg megis gordewdra’n achosi canser, gallwn ddylanwadu ar bolisïau a strategaethau atal canser yn y dyfodol. Nid yw ein gwaith yn bosibl heb yr unigolion hynny sy’n ein cefnogi."
O'ch achos chi, gall myfyrwyr dawnus gael yr addysg orau waeth beth fo'u sefyllfa ariannol
Dewch i gwrdd â Hamda Abdisalam (Mathemateg 2023-) sydd wedi cael bwrsariaeth i gefnogi ei hastudiaethau.
"Cefais i fy ysbrydoli i astudio yng Nghaerdydd oherwydd y cwrs ac am resymau diwylliannol. Rwy’n hoff iawn o’r ddinas oherwydd ei hanes cyfoethog, ei hatyniadau amrywiol, a'i chymuned groesawgar.
"Mae'n lle delfrydol ar gyfer twf academaidd a phersonol.
"Mae fy nghwrs yn ddifyr iawn. Mae’n rhoi boddhad enfawr ac yn ysgogi'r meddwl. Rwy'n dwlu ar ddatrys problemau, felly mae codio gyda gwahanol feddalwedd a datrys problemau mathemategol cymhleth yn fy siwtio i’n berffaith.
"Mae gen i well dealltwriaeth o nodiant mathemategol a phrofion theorem o ganlyniad i’r astudiaethau trylwyr a damcaniaethol yma. Rwy'n mwynhau edrych ar ddefnydd ymarferol modiwlau gan gynnwys ystadegau swyddogol ac algebra llinol.
"Yn y dyfodol, rwy'n gobeithio dilyn gyrfa ym maes addysgu. Mae fy angerdd am fathemateg yn fy ysgogi, ac rwy’n awyddus i rannu fy ngwybodaeth ac ysbrydoli eraill.
"Roedd y fwrsariaeth a gefais i yn hollbwysig ac mae wedi fy ngalluogi i gael mynediad at adnoddau a chanolbwyntio ar fy astudiaethau."
O’ch achos chi, mae myfyrwyr yn ennill profiadau amhrisiadwy i’w helpu i ddechrau eu gyrfaoedd
Dewch i gwrdd â Gwion Ifan (BA 2023, Newyddiaduraeth 2023-), derbynnydd Ysgoloriaeth Dr James Thomas a sefydlwyd gan roddwr er cof am aelod o'r teulu.
“Mae’r cyfleoedd rydw i wedi’u cael trwy gydol fy ngradd wedi bod heb eu hail. Cefais gyfle i gyfweld â Ciaran Jenkins o Channel 4 a Steffan Powell o BBC Radio 1 (LLB 2008, PgDip 2009) ar gyfer podlediad Cymraeg yr Ysgol Newyddiaduraeth.
"Rwy’ hefyd wedi cael y profiad anhygoel o ohebu o’r Eisteddfod yn rhan o gynllun Llais y Maes, ac wedi gweithio am bron i bythefnos yng Ngŵyl y Gelli.
"Alla i ddim gorbwysleisio pa mor ddiolchgar ydw i am y cyllid hael dw i wedi ei dderbyn i fy helpu i gwblhau fy ngradd meistr mewn Newyddiaduraeth. Mae'n gydnabyddiaeth o fy ngwaith caled dros y tair blynedd diwethaf.
"Bydd yn fy helpu i roi fy angerdd am ohebu a chyflwyno ar waith, a bydd yn fy ngalluogi i wireddu fy mreuddwyd o weithio ym myd radio.
"Mae wedi bod yn hwb perffaith i fy hyder wrth i fi ddechrau ar fy mhedwaredd flwyddyn yng Nghaerdydd. Rwy’n hynod o ddiolchgar am hynny.”
O’ch achos chi, rydyn ni’n treialu triniaethau newydd i leddfu iselder ymhlith y rhai sy’n dioddef o Glefyd Huntington
Dyma Phoebe Norton (MSc 2023 Biowyddorau 2023-). Mae gwaith ymchwil Phoebe yn y Grŵp Trwsio’r ymennydd wedi cael cymorth drwy roddion hael.
"Mae fy ngwaith ymchwil yn treialu cyffuriau newydd i helpu lleddfu symptomau o iselder a gorbryder mewn cleifion sydd â chlefyd Huntington. Cyflwr genetig, dirywiol yw hwn, sy’n effeithio ar system nerfol y corff.
"Mae symptomau'n datblygu rhwng 30-50 oed ac maen nhw’n gynyddol, gan effeithio ar symudiadau corfforol, gwybyddiaeth ac iechyd meddwl y claf.
"Er bod y dirywiad corfforol yn achosi effeithiau llethol, mae’r symptomau iechyd meddwl yn cael effeithiau sylweddol nid yn unig ar y claf, ond ar ffrindiau a’r teulu, ac maen nhw’n arbennig o heriol i fyw gyda nhw.
"Mae triniaethau cyfredol yn gyffredinol iawn ac yn gallu achosi nifer o sgil-effeithiau, gan gynnwys blinder.
"Rwy’n gweithio gyda’r Sefydliad Darganfod Meddyginiaethau ym Mhrifysgol Caerdydd gyda chyffuriau newydd, sy’n targedu derbynyddion GABA penodol yn yr ymennydd heb achosi effaith dawelu.
"Gan nodi’r cyffuriau a’r dos cywir, rydyn ni’n gobeithio gwella ansawdd bywyd y rhai sy’n goddef o’r clefyd anodd hwn."
O’ch achos chi, gall myfyrwyr elwa o gyngor, arweiniad a chymorth ar gyfer eu gyrfaoedd
Dewch i gwrdd â Justin Ng (Y Gyfraith 2022-) a drefnodd Gyflwyniad Gyrfaoedd ar gyfer Cymdeithas y Gyfraith.
"Fi yw Cyswllt Gyrfaoedd Cymdeithas y Gyfraith. Gwelais gyfle i gael rhagor o wybodaeth am gyfraith cystadleuaeth, a gwahoddais y cyn-fyfyriwr Charles Whiddington (LLB 1979) i siarad â ni.
"Mae Charles yn siaradwr gwych a weithiodd yn galed i gyrraedd y brig yn ei faes, ac roedd ei gyngor yn amhrisiadwy.
"Mae cyn-fyfyrwyr yn chwarae rhan hollbwysig yn y gwaith o feithrin hyder myfyrwyr; yn aml, nid ydym yn sylweddoli beth sydd o fewn ein gallu ar ôl graddio.
"Mae cyflwyniad Charles wedi fy helpu mewn sawl ffordd. Yn bennaf, mae wedi cadarnhau fy mhenderfyniad i ddilyn gyrfa ym maes cyfraith cystadleuaeth.
"Gall cyn-fyfyrwyr ysbrydoli a thawelu meddwl myfyrwyr a all fod yn wynebu cyfnod pryderus ac anodd yn eu bywydau. Y rhwydwaith o gyn-fyfyrwyr yw’r hyn sy’n gwneud y Brifysgol yn wych.
"Mae'r gallu i gysylltu â phobl o amrywiaeth o feysydd a chefndiroedd, sydd i gyd yn rhannu elfen gyffredin, mor bwysig."