Ewch i’r prif gynnwys

Mae Dr Jennifer Edwards (BSc 2003, PhD 2007) a Dr Michael Pascoe (PhD 2020) yn rhan o dîm o ymchwilwyr o Ysgolion Cemeg, Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol, a Meddygaeth y Brifysgol, sydd wedi datblygu cynnyrch mislif hunan-lanhau sy’n lladd bron 99.999% o facteria pan fyddant yn dod i gyswllt â golau'r haul.

Mae gan y cynnyrch arloesol hwn y potensial i wella ansawdd bywyd pobl sy'n cael mislif mewn cymunedau gwledig ac incwm isel ar draws y byd, lle mae cynhyrchion glanweithdra untro yn aml yn anodd dod o hyd iddynt ac yn gostus.

Gwyliwch ein fideo ar YouTube

Disgwylir i astudiaethau maes ar gyfer y cynnyrch, a ariennir gan y Bill & Melinda Gates Foundation, ddechrau ym mis Tachwedd 2024, pan fydd 300 o badiau gyda mewnosodiad ffabrig yn cael eu dosbarthu mewn cymunedau gwledig anghysbell yn Nepal.

Mae ffabrig y pad, sy’n cynnwys catalyddion metel nad ydyn nhw’n wenwynig, yn defnyddio egni’r haul i ladd bacteria, cael gwared ar staeniau, a niwtraleiddio arogleuon. Y cwbl sydd angen gwneud yw ei rinsio â dŵr ac yna ei adael i sychu yn yr haul i gwblhau'r broses glanhau a diheintio.

Dr Michael Pascoe (PhD 2020) a Dr Jennifer Edwards (BSc 2003, PhD 2007)

Disgrifiodd Dr Jennifer Edwards, arweinydd y prosiect o Ysgol Cemeg y Brifysgol, sut y daeth y syniad ar gyfer y cynnyrch i fodolaeth.

“Ar ôl i fy merch gael ei geni, roeddwn i’n sgwrsio â chydweithiwr cymaint o straen oedd glanhau cewynnau y gellir eu hailddefnyddio.

“Roeddwn i eisiau osgoi gwastraff a chewynnau tafladwy, ond roedden ni’n dal i gael effaith andwyol ar yr amgylchedd wrth ddefnyddio techneg golchi stribyn i’w cadw’n lân. Roeddwn i’n siŵr bod ffordd o ddefnyddio fy ngwaith mewn catalysis i geisio datrys y broblem hon.”

Roedd gan ei chydweithiwr gysylltiad ag elusen o Nepal sy'n dosbarthu cynhyrchion tebyg y gellir eu hailddefnyddio i fenywod i helpu i reoli eu mislif. O ganlyniad i’r cysylltiad hwn, sylweddolodd Jenny fod potensial gan y dechnoleg i gael defnydd llawer ehangach, a dechreuodd hi a’r tîm yng Nghaerdydd ar y gwaith.

Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, mae gwaith ymchwil a datblygu dwys wedi dysgu llawer i'r tîm ynghylch sut i wneud y gorau o'r cynnyrch. “Mae ein gwaith yn y labordy wedi rhoi dealltwriaeth drylwyr i ni o’r ffordd y mae’r ffabrig yn gallu gweithio. Rydyn ni am fynd a’r cynnyrch i gymunedau yn y byd go iawn, lle mae ganddo'r potensial i wneud gwahaniaeth trwy leihau'r risg o heintiau atgenhedlol a’r llwybr wrinol,” eglura Jenny.

Yn 2023, teithiodd y tîm i Nepal, lle amcangyfrifir bod hyd at hanner gweithwyr amaethyddol benywaidd y wlad yn profi heintiau troethgenhedlol ar unrhyw adeg. Mewn gwledydd llai datblygedig, mae'r heintiau hyn yn aml yn gysylltiedig ag iechyd gwael a phroblemau atgenhedlu, gan gynnwys colli plentyn. Gallant hefyd arwain at ferched a menywod yn colli ysgol a gwaith, gan effeithio ar eu gallu i ddysgu ac ennill arian.

Gan weithio gyda’r Ganolfan Treialon Ymchwil (CTR) ym Mhrifysgol Caerdydd, ac arbenigwyr ymchwil ym Mhrifysgol Tribhuvan a Global Action Nepal, mae’r tîm yn ceisio deall anghenion defnyddwyr yn well. Maent yn gwneud hyn trwy gymharu eu padiau prototeip â phadiau golchadwy y gellir eu hailddefnyddio, sydd eisoes yn cael eu defnyddio ar draws y rhanbarth. Unwaith y bydd yr astudiaeth sy’n para am chwe mis wedi'i chwblhau, bydd y tîm ymchwil yn casglu adborth gan gyfranogwyr ac yn cynnal dadansoddiad cemegol a microbiolegol manwl o'r padiau, i'w helpu i ddatblygu'r cynnyrch ymhellach.

Ychwanega Jenny, “Bydd yr astudiaethau maes yn ein helpu i ddysgu am batrymau defnydd yn yr ardal, gan gynnwys golchi a sychu ac, yn enwedig, y sensitifrwydd diwylliannol sy’n ymwneud ag iechyd a hylendid y mislif.

“Byddwn hefyd yn casglu data ar sut mae ein cynnyrch yn ymateb i'r micro-organebau a geir yn Nepal, i sicrhau bod ein prototeip yn effeithiol yn erbyn amrediad eang o bathogenau posibl. Mae deall yr arferion lleol hyn a chasglu'r data’n hollbwysig i ddatblygu ein cynnyrch ar raddfa ehangach, a gobeithiwn y bydd yn arwain at gynnyrch mislif diogel a fforddiadwy ar gyfer y rheini sydd ei angen.”

Dywed Dr Michael Pascoe, darlithydd yn yr Ysgol Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol sydd hefyd wedi gweithio ar y prosiect, “Mae llu o unigolion ledled y byd yn dal yn methu dod o hyd i gynnyrch dibynadwy i reoli eu misglwyf yn ddiogel. Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae ein tîm wedi gwneud cynnydd aruthrol.

“Drwy greu cynnyrch mislif sy’n ddiogel, yn hygyrch yn economaidd, ac yn amgylcheddol gynaliadwy, nid dim ond arloesi ydyn ni. Rydyn ni’n braenaru’r tir am ddyfodol mwy disglair i iechyd mislif ar draws y byd.”

Rhagor gan gylchgrawn Cyswllt Caerdydd

Cyswllt Caerdydd 2024

Yn rhifyn Haf 2024 o’ch cylchgrawn cyn-fyfyrwyr a ffrindiau, byddwch yn clywed sut mae ein cyn-fyfyrwyr dawnus yn cefnogi’r genhedlaeth nesaf o fyfyrwyr ac yn gwneud gwahaniaeth i’r byd o’u cwmpas. Dysgwch sut mae ein hymchwilwyr yn datblygu ein dealltwriaeth o dwbercwlosis ac yn defnyddio technoleg flaengar i wella iechyd menywod byd-eang.

Atal lledaeniad twbercwlosis

Mae Dr Tamas Barry (MBBCh 2020, PhD Meddygaeth 2022-) yn helpu i wella dulliau o ganfod twbercwlosis a gofal twbercwlosis ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Gwaddol llawfeddyg o Gymru yma o hyd, ac yn ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o fyfyrwyr meddygol Prifysgol Caerdydd

Gwnaeth angerdd Dr John Thomas dros feddygaeth ac addysg er pawb ysbrydoli ei deulu i sefydlu Bwrsariaeth Dr John Thomas.