
Gwaddol Gofal
Mewn neuadd ddawns brysur ym 1965, fe wnaeth Christine (BPharm 1969) gyfarfod â Graham Davis (BEng 1977), y ddau ohonyn nhw ddim ond yn 17 oed. Roedd Christine yn astudio ar gyfer ei harholiadau Safon Uwch, ac roedd Graham yn brentis yng ngwaith dur Caerdydd. I Christine, nid apêl Graham yn unig a ddaliodd ei sylw - ond ei esgidiau dawnsio, rhywbeth mae'n dal i chwerthin amdano hyd heddiw.
Yn fenyw ifanc ddisglair a phenderfynol, gwnaeth Christine yn dda yn ei harholiadau Safon Uwch a sicrhaodd le yn Athrofa Gwyddoniaeth a Thechnoleg Prifysgol Cymru (UWIST) i astudio Fferylliaeth.
Mewn dosbarth sy’n cael ei dominyddu gan ddynion, roedd Christine yn hoelio sylw – nid yn unig fel yr unig fenyw, ond fel myfyrwraig a weithiodd yn ddiwyd i gyflawni ei nodau. Graddiodd yn 1966 gyda chanlyniadau rhagorol ac yn barod i wneud ei marc ar y proffesiwn roedd hi’n mwynhau.
Dechreuodd Christine ei gyrfa yn Fferyllfa Boots yng Nghaerdydd. Roedd yn rôl brysur, ond tra yno sylweddolodd ei bod hi’n gweld eisiau dod i adnabod ei chleifion.
Aeth ymlaen i weithio mewn fferyllfa glinigol yn Ysbyty Llandochau ac yn ddiweddarach, fe wnaeth hi ddychwelyd i fferyllfa gymunedol yn y Bont-faen.
Yn y cyfamser, daeth dyheadau Graham ag ef yn ôl i'r byd academaidd, ac ym 1974 yn 26 oed, dechreuodd astudio Peirianneg Drydanol yn UWIST. Gan ei fod wedi cefnogi Christine trwy ei gradd, fe gefnogodd hi ef trwy ei radd hefyd.
Yn ystod y cyfnod hwn, roedd Christine yn gweithio'n galed, gyda'r uchelgais o fynd mewn i bartneriaeth. Gwireddwyd ei breuddwyd yn 1988 pan ddaeth yn gydberchennog Fferyllfa Washington ym Mhenarth. Yno, roedd hi’n gallu cynnig gofal claf yr oedd mor angerddol yn ei gylch a meithrin perthnasoedd ystyrlon â’r gymuned yr oedd yn rhan ohoni.
Daeth Christine yn ffigwr y gallech chi ymddiried ynddi ac roedd nifer yn eu hedmygu yn y dref. Aeth ei hymroddiad y tu hwnt i ddosbarthu meddyginiaeth; roedd hi'n berson a oedd yn cynnig cymorth, gofal, a charedigrwydd i bawb roedd hi’n cyfarfod â nhw.
Yn 2014, bu farw Christine yn ddim ond 66 oed. Yn benderfynol o’i hanrhydeddu ac er cof amdani, sefydlodd Graham Wobr Goffa Christine Davis. Bob blwyddyn, dyfernir y wobr i fyfyriwr yn yr Ysgol Fferylliaeth i gydnabod ei gyflawniadau. Mae’r cymorth ariannol yn helpu myfyrwyr i dalu am lyfrau, teithio, ac offer, gan eu helpu ar eu taith i fod y genhedlaeth nesaf o fferyllwyr.
Dros yr wyth mlynedd diwethaf, mae Graham wedi mwynhau cwrdd â llawer o'r myfyrwyr hyn yn eu seremonïau graddio. Mae'n gwybod y byddai Christine wedi bod yn falch o'r gwaddol yn ei henw.
Gadawodd Christine Davis ôl parhaol– nid yn unig ar ei theulu a’i chymuned, ond hefyd ar ddyfodol fferylliaeth. Mae ei gwaddol o dosturi a gofal yn parhau i ysbrydoli cenedlaethau i ddod.


Rhoddion er Cof
Drwy ddewis cofio anwylyd drwy roi rhodd i Brifysgol Caerdydd, byddwch yn helpu i achub, newid, a chyfoethogi bywydau yng Nghymru a thu hwnt.