Ewch i’r prif gynnwys

Mae Gwobrau (tua) 30 Prifysgol Caerdydd yn dathlu llwyddiannau cynfyfyrwyr sydd wedi gwneud cyfraniad cadarnhaol i'w cymuned, a'r cyfan cyn eu bod yn 30 oed. Wel, (tua) 30.

Gan osgoi’r fformat traddodiadol o gael rhestr o '30 o dan 30', roedd Gwobrau (tua) 30 yn agored i gynfyfyrwyr o dan 30, yn ogystal â rhai hŷn, ond sy'n teimlo eu bod (tua) 30. Cafodd y Gwobrau eu creu i gydnabod cynfyfyrwyr o Brifysgol Caerdydd sydd wedi creu newid, arloesi a thorri tir Newydd, cafwyd ymateb anhygoel.

Cafodd cynfyfyrwyr o bob cwr o'r byd ac ystod eang o ddiwydiannau eu henwebu naill ai ganddyn nhw eu hunain neu gynfyfyrwyr eraill, staff neu gydweithwyr.

Ar ôl cryn ystyriaeth, dewiswyd enillwyr (tua)30 a'u gwahodd i ddigwyddiad gwobrwyo arbennig ar 10 Hydref. Cynhelir yn adeilad arloesol sbarc | spark y Brifysgol. Cynhelir y digwyddiad gan Lywydd ac Is-Ganghellor newydd Prifysgol Caerdydd, yr Athro Wendy Larner.

Rydym wedi trefnu'r rhestr yn grwpiau i'ch helpu i lywio drwy straeon ein henillwyr:

Larissa Ann Louis (PgDip 2015)

Mae Larissa yn gyfreithiwr hawliau dynol, sydd ar hyn o bryd yn arwain yr uned pro bono yn y cwmni cyfreithiol Azri, Lee Swee Seng & Co. Y cyntaf o'i fath ym Malaysia, sefydlodd Larissa yr uned sydd wedi ennill nifer o achosion mawr, ac yn fwyaf nodedig, diflaniad gorfodol yr ymgyrchydd cymdeithasol Amri Che Mat. Cafodd y fuddugoliaeth hon effaith aruthrol ar yr hawl i ryddid ar sail cred neu grefydd ar lefel genedlaethol a byd-eang. Arweiniodd cyfraniad Larissa i'r achos hwn at gael ei dewis i gynrychioli Malaysia yn UDA ar gyfer “Professional Fellows On-Demand Religious Freedom & Interfaith Dialogue”.

Yn 2022, cafodd Larissa ei hethol yn aelod o Gyngor y Bar – sy’n golygu mai hi yw’r person ieuengaf erioed i’w hethol – a chafodd ei phenodi’n Gyd-Ddirprwy Gadeirydd y Pwyllgor Hawliau Dynol. Yn 2023, cafodd ei hail-ethol ac mae bellach yn Gadeirydd y Pwyllgor Hawliau Dynol, gan arwain tîm o gyfreithwyr i roi newid ar waith.

Mae diffyg gwladwriaeth yn broblem enfawr ym Malaysia ac mae Larissa wedi siarad ochr yn ochr â gweinidogion, comisiynwyr ac arweinwyr. Cafodd ei phenodi’n gyd-bennaeth clwstwr dinasyddiaeth “CSO Platform for Reform”, sef clymblaid o gyrff anllywodraethol sy’n canolbwyntio ar ddiwygiadau sefydliadol ar gyfer Malaysia well. Sefydlodd hefyd gwmni o'r enw "HaKita (ein hawliau)" sy'n brwydro dros alluogi hawliau dynol i unrhyw un a phawb.

Larissa Ann Louis (PgDip 2015) 

Vasileios Pristouris (MA 2017)

Mae Vasileios yn grëwr cynnwys digidol deinamig ar gyfer sianeli’r cyfryngau cymdeithasol sefydliad Diogelwch Sifil a Gweithrediadau Dyngarol Ewropeaidd. Mae'n rhagori mewn cynhyrchu cynnwys fideo a ffotograffau deniadol sy'n tynnu sylw at deithiau cymorth dyngarol a diogelwch sifil yr UE ledled y byd.

Mae'n ceisio rhoi llais i'r rhai heb lais ac mae ganddo ddawn am straeon sy'n dal sylw'r cyhoedd. O wacáu cleifion meddygol Wcráin i'r Rohingya yn Bangladesh a ffoaduriaid o Syria yn yr Iorddonen, mae Vasileios yn chwilio am straeon personol pobl sy'n taflu goleuni ar wrthdaro ac argyfyngau, yn ogystal â'u canlyniadau. Mae wedi adrodd straeon am ymateb yr UE i’r rhyfel yn Wcráin, y daeargrynfeydd yn Nhwrci a Syria, argyfwng y Swdan, tanau gwyllt yng Ngwlad Groeg, a mwy.

Mae Vasileios yn frwd dros ddefnyddio llwyfannau digidol i ymhelaethu ar faterion hollbwysig ac adrodd straeon sy’n cydio.

Vasileios Pristouris (MA 2017) 

Panagiotis Papakonstantinou (MSc 2019)

Panagiotis (Panos) yw rheolwr gweithredol Jazzy Nomads, sefydliad dielw a sefydlodd ar y cyd yn 2021, wedi'i leoli yng Ngwlad Groeg. Roedd yn rhagweld creu tîm symudol, wedi’i sbarduno gan y gymuned, sy’n hygyrch, yn fforddiadwy, ac yn ymgysylltu â phlant a phobl ifanc, gan greu mentrau effeithiol sydd o fudd i gymunedau lleol.

O dan ei gyfarwyddyd, mae'r sefydliad wedi cwblhau prosiectau cymunedol niferus sydd wedi ymgysylltu â dros 1,000 o blant a phobl ifanc ledled Gwlad Groeg.

Mae'r sefydliad yn canolbwyntio ar hyrwyddo cyfranogi gweithredol trwy fentrau wedi’u harwain gan y gymuned. Mae'n gweithredu ar draws meysydd amrywiol gan gynnwys celf, iechyd, ac addysg, gyda'r nod o roi’r grym yn nwylo pobl ifanc trwy ymgysylltu'n ystyrlon â materion cymdeithasol a datblygiad cymunedol.

Mae eu gweithgareddau'n cynnwys prosiectau celfyddydau perfformio rhyngweithiol a mentrau sydd â’r nod o feithrin ymwybyddiaeth o ddinasyddiaeth a hawliau dynol.

Mae Jazzy Nomads yn cydweithio â rhwydwaith eang o bartneriaid a chefnogwyr i roi’r rhaglenni hyn ar waith ac i sicrhau effaith gymunedol eang.

Panagiotis Papakonstantinou (MSc 2019) 

Tom Gerken (BA 2011)

Cafodd Tom ei eni gyda dyspracsia a dim ond un llygad yn gweithio, ond nid yw byth wedi cuddio rhag her. Dechreuodd ei yrfa yn ymchwilydd gyda BBC Cymru, a thros gyfnod o ddegawd mae wedi dringo’r ysgol i fod yn newyddiadurwr yn adran dechnoleg Newyddion y BBC, lle mae’n rhannu ei amser rhwng rolau yn Olygydd ar Ddyletswydd y tîm ac Arweinydd Newyddion Ar-lein.

Ond peidiwch â dechrau sgwrs gydag af am ei bodlediad, neu ni fydd e byth yn cau ei geg. Mae'n cyd-gyflwyno 'Our Dads Died' gyda'i ffrind gorau, y comedïwr Rich Spalding. Ac fel mae'r enw'n awgrymu, mae'n bodlediad gan ddau foi y bu farw eu tadau tra'n ifanc.  

Mae'r podlediad ar gyfer unrhyw un sydd wedi profi colled (felly, pawb yn y bôn) ac mae'n manylu ar ran arbennig o'n diwylliant - sef bod pobl Prydain yn hoffi syllu ar farwolaeth yn ei hwyneb a chwerthin. Mae Tom a Rich yn ei wneud bob wythnos, ac mae'n eu helpu i ymdopi. Gobeithio y bydd yn eich helpu i ymdopi hefyd.

Tom Gerken (BA 2011) 

Ceri Jones (BMus 2003)

Mae Ceri yn addysgu ac yn ysgrifennu am fwyd, ac yn gogydd. Symudodd i weithio ym maes bwyd ar ôl 10 mlynedd lwyddiannus yn gweithio ym maes rheoli cerddorfaol ar ôl i'w rhieni farw.

Yn 2024 cyhoeddodd Ceri ei llyfr coginio cyntaf 'It Starts with Veg: 100 Seasonal Suppers and Sides' gyda Pavilion/Harper Collins, sef canllaw i goginio gyda 40 o lysiau gwahanol a sut i’w gwneud yn rhan ganolog o’ch pryd.

Yn y 10 mlynedd y mae hi wedi gweithio ym maes bwyd mae hi wedi dysgu cannoedd o ddosbarthiadau coginio, gan ysbrydoli pobl o bob oed i goginio o'r newydd, gwella eu sgiliau coginio a'u gwybodaeth, a bwyta'n well iddyn nhw eu hunain ac i'r blaned. Mae ei dosbarthiadau yn y Garden Museum yn Llundain, lle mae'n gweithio'n rhan-amser ar hyn o bryd yn addysgwr ar fwyd, yn canolbwyntio ar fwyd sy'n seiliedig ar blanhigion i blant, teuluoedd a'r gymuned leol. Mae ei dosbarthiadau wedi cynnwys nifer o brosiectau a oedd wedi’u rhagnodi’n gymdeithasol lle mae coginio gyda'i gilydd wedi cael effaith gadarnhaol ar iechyd meddwl y rheiny a gymerodd ran.

Yn ogystal â dysgu coginio, mae Ceri yn gogydd ac mae wedi dod o hyd i swydd ddelfrydol yn coginio mewn encilion lles ledled y byd.

Ceri Jones (BMus 2003)

Justin Eghaghara (MSc 2024)

Mae Justin yn optometrydd angerddol ac ymroddedig sydd wedi datblygu mentrau iechyd llygaid yn sylweddol yn Nigeria. Ers ennill ei radd Doethur mewn Optometreg yn 2012, mae Justin wedi canolbwyntio ar welliant proffesiynol a gwella cymunedau, gan ddarparu gofal llygaid fforddiadwy a hygyrch i leihau dallineb y mae modd ei osgoi ymhlith pobl ddifreintiedig. Yn 27 oed, lansiodd raglen Better Vision for a Changing Nation, gan ddarparu gwasanaethau meddygol a gofal llygaid am ddim i dros 5,000 o bobl.

Yn gyd-sylfaenydd y Vision Redefined for Youth Empowerment Foundation, ac aelod gweithgar o'r Family of Optometric Mentors, mae Justin wedi mentora dros 400 o optometryddion ac wedi sefydlu llwyfan e-ddysgu sydd o fudd i filoedd. Mae ei waith yn meithrin gallu ac uwchraddio cymwyseddau ar gyfer optometryddion ifanc wedi helpu i sicrhau eu bod yn cael hyfforddiant o safon a phrofiad o safon fyd-eang.

Mae ei waith ar y cyd ag amrywiol sefydliadau wedi arwain at brosiectau allgymorth iechyd llygaid llwyddiannus mewn cymunedau sydd ddim yn cael eu gwasanaethu’n ddigonol. O ganlyniad, mae wedi ennill gwobrau niferus, gan gynnwys y Wobr Anhunanoldeb wedi’i dyfarnu gan Gymdeithas Optometreg Nigeria am ei gyfraniad tuag at hyrwyddo gofal llygaid yn Nigeria.

Mae ymrwymiad Justin i wella gwasanaethau iechyd llygaid o safon, effaith gymunedol sylweddol, ac ymroddiad i fentora wedi trawsnewid bywydau ac wedi dyrchafu safonau gofal llygaid yn Nigeria.

Justin Eghaghara (MSc 2024) 

Dr Mat Legut (PhD 2017)

Yn wyddonydd sydd wedi troi’n entrepreneur, Mat yw Prif Swyddog Gweithredol sylfaenydd OverT Bio, cwmni biotechnoleg yn ninas Efrog Newydd Lansiodd OverT Bio yn 2024 gyda buddsoddiad o $16 miliwn i ddatblygu therapïau celloedd T gan ddefnyddio peirianneg y genhedlaeth nesaf ar gyfer canserau tiwmor solet.

Wrth ddilyn PhD mewn imiwnoleg canser ym Mhrifysgol Caerdydd, cafodd Mat ei ysbrydoli gan botensial therapïau celloedd ar gyfer trin ac efallai hyd yn oed wella canser. Ar yr un pryd, roedd yn cydnabod cyfyngiadau dulliau presennol ac aeth ati i fynd i'r afael â nhw, gan arwain at lansio OverT Bio.

Mae OverT Bio yn cyfuno technolegau peirianneg celloedd blaengar â dulliau data mawr i fynd i'r afael ag anghenion meddygol mawr sydd heb eu diwallu mewn tiwmorau solet. Mae platfform craidd y cwmni, a gafodd ei ddatblygu gan Mat a'i gyd-sylfaenydd, yn chwilio pob genyn yn y genom i nodi'r addasiadau genetig gorau i waddoli celloedd imiwnedd â phriodweddau newydd.

Mae OverT Bio yn datblygu therapïau celloedd effeithiol a diogel ar gyfer tiwmorau solet gyda'r potensial i helpu miliynau o gleifion canser ledled y byd.

Dr Mat Legut (PhD 2017)

Konstantinos Kousouris (BSc 2021)

Mae Konstantinos yn entrepreneur dylanwadol o Wlad Groeg ac yn gyd-sylfaenydd a Phrif Swyddog Gweithredol Blink. Straen ariannol yw un o'r pryderon mwyaf ymhlith Gen Z, ac mae cwmni newydd technoleg ariannol Blink yn helpu oedolion ifanc i reoli eu harian a theimlo eu bod yn cymryd rheolaeth.

Enillodd Blink ei fuddsoddiad cyntaf gan Startupbootcamp, un o'r cronfeydd mwyaf yn Ewrop, ac ers hynny mae wedi ennill gwobr gan Fanc Cenedlaethol Gwlad Groeg yng nghystadleuaeth cychwyn busnes fwyaf y wlad.

Ar gyfer ei ddoniau entrepreneuraidd, mae Konstantinos wedi’i restru yn Forbes 30 dan 30 2024 Gwlad Groeg ac mae wedi cyrraedd Rownd Derfynol Byd-eang ar gyfer Gwobrau Alumni Study UK ym maes busnes ac arloesi.

Konstantinos Kousouris (BSc 2021) 

Diksha Dwivedi (MA 2014)

Yn angerddol dros adrodd straeon a gyda dawn am adeiladu brandiau dylanwadol, mae Diksha wedi canolbwyntio ei gyrfa ar helpu arweinwyr i lunio naratifau personol gafaelgar.

A hithau’n sylfaenydd gwefan newyddiaduraeth sy’n cael ei phweru gan bobl AkkarBakkar.com a’r asiantaeth frandio YOSO Media, mae hi wedi llywio strategaethau cynnwys arloesol a thechnegau adrodd straeon pwerus, gan gyrraedd miliynau yn fyd-eang.

Mae ei gwaith proffesiynol yn rhychwantu rolau amrywiol, o ysgrifennu erthyglau nodwedd yn Yahoo! i arwain ar waith marchnata’r brand yn Invideo.io.

Mae Diksha hefyd wedi ysgrifennu sawl llyfr ac yn ddiweddar mae wedi dod yn Gadeirydd Cymdeithas Cyn-fyfyrwyr India Prifysgol Caerdydd, gan gyd-arwain ein Cangen yn New Delhi.

Cenhadaeth eithaf Diksha yw rhoi’r gallu i sylfaenwyr ac entrepreneuriaid fynegi eu straeon, cysylltu â'u cynulleidfaoedd, ac adeiladu brandiau personol parhaus.

Diksha Dwivedi (MA 2014)

Paul Stollery (BSc 2010)

Defnyddiodd Paul ei radd Rheoli Busnes yn fan cychwyn ar gyfer gyrfa yn entrepreneur di-dor. Fe yw cyd-sylfaenydd a chyfarwyddwr creadigol Hard Numbers, asiantaeth cysylltiadau cyhoeddus technoleg ag 20 o staff a throsiant o ychydig llai na £2 filiwn. Cafodd y busnes ei enwi’r asiantaeth cysylltiadau cyhoeddus newydd orau gan wobrau’r CIPR, PR Moment a’r UK Agency.

Cyn hynny, sefydlodd yr asiantaeth farchnata arobryn i bobl ifanc Hype Collective. Gadawodd y busnes hwn yn llwyddiannus yn 2023 gyda swm chwe ffigur. Mae hefyd yn fuddsoddwr ac yn aelod o fwrdd Magic Digits, cwmni gwasanaethau proffesiynol sydd â throsiant chwe ffigur.

Mae Paul, sy’n berson creadigol sydd wedi ennill gwobrau, wedi derbyn clod gan Ŵyl Creadigrwydd Cannes a chyrff cysylltiadau cyhoeddus gan gynnwys PRCA, CIPR, ac AMEC. Mae hefyd wedi gweithio gyda rhai o gwmnïau technoleg mwyaf y byd, gan gynnwys Adobe, Deliveroo, Microsoft, X a PlayStation.

Yn ei amser hamdden, mae Paul yn helpu’r genhedlaeth nesaf o entrepreneuriaid i ddatblygu eu syniadau busnes. Mae'n gyd-gyflwynydd Rebel Meetups, gofod ar gyfer sylfaenwyr, gweithwyr llawrydd, entrepreneuriaid, a phobl sy'n awyddus i fod yn entrepreneuriaid, ac mae wedi bod yn ddarlithydd gwadd yng Ngholeg Cyfathrebu Llundain.

Paul Stollery (BSc 2010)

Perri Lewis (BA 2006)

Perri yw cyd-sylfaenydd a Phrif Swyddog Gweithredol Mastered, math newydd o sefydliad sy'n ymroddedig i ddysgu gydol oes yn y diwydiannau creadigol. Dros 10 mlynedd, maen nhw wedi cefnogi mwy na 6,000 o bobl greadigol proffesiynol o dros 95 o wledydd, gyda chleientiaid amrywiol megis grŵp ffasiwn moethus LVMH a’r datblygwr gemau Prydeinig Sumo Group.

Dechreuodd Perri ei gyrfa yn olygydd Gair Rhydd, yna aeth ymlaen i weithio’n olygydd comisiynu yn The Guardian a chylchgrawn Psychologies. Yn 2012 cyhoeddodd ei llyfr cyntaf, 'Material World', canllaw i grefft a'r mudiad DIY yn cynnwys cyfraniadau gan Grayson Perry, Tracey Emin, a thros 100 o bobl eraill.  
Ochr yn ochr â’i gwaith yn Mastered, mae’n ymddiriedolwr The Spitz, elusen sy’n ymroddedig i fynd i’r afael ag unigrwydd ac unigedd trwy gerddoriaeth fyw.

Perri Lewis (BA 2006) 

Yong Zheng Low (MBA 2018)

Mae Yong yn uwch gynghorydd busnes “person rhifau” sy'n gweithio fel y Prif Swyddog Ariannol ar gontract allanol ar gyfer GCFO, cwmni ymgynghori sy'n cefnogi busnesau bach a chanolig ym Malaysia i dyfu a thrawsnewid.

Dechreuodd y fenter gyda'i bartneriaid busnes, ac mewn pum mlynedd maen nhw wedi sefydlu chwe changen yn Kuala Lumpur gyda chant o staff. Mae GCFO wedi ennill tair gwobr fusnes flynyddol hyd yma.

Trwy ymgynghori, mae'r cwmni'n darparu atebion trawsnewid ariannol a busnes i fusnesau bach a chanolig, gan wella eu fframwaith gweithredol a’u heffeithlonrwydd.

Mae ei dîm yn ymwneud â 61 o brosiectau codi arian gyda chyfanswm gwerth o RM 105 miliwn a gafodd ei godi mewn dim ond 36 mis. Ar hyn o bryd mae hefyd yn chwarae rhan weithredol mewn 23 o gwmnïau sydd â maint portffolio gwerth RM 400 miliwn, gyda dau brosiect angori yn ceisio cyllid cyhoeddus am y tro cyntaf.

Mae data yn sbarduno Yong, gan ganolbwyntio ar refeniw i gyflawni llwyddiant annibynnol. Ymddangosodd yn Brif Feirniad Cystadleuaeth Banc Syniadau JCIKLM 2023 ac roedd yn siaradwr yng nghyfres 2 o Rifyn BFM Caijin Medi 2023.

Yong Zheng Low (MBA 2018)

Prem Gill (BSc 2017)

Mae ymchwil PhD Prem, Seals from Space, yn defnyddio lloerennau i fonitro morloi’r Antarctig. Ac yntau’n sylfaenydd Polar Impact, rhwydwaith i gefnogi lleiafrifoedd ym maes ymchwil y pegynau, mae wedi arwain prosiectau sy'n denu talent o gefndiroedd anhraddodiadol i faes cadwraeth, gan newid delwedd archwilwyr y pegynau.

Mae’r gwaith hwn yn rhychwantu amrywiaeth o gynulleidfaoedd a fformatau, o gynnal gweithdai gwyddoniaeth i ddinasyddion yng Nghaergrawnt, a oedd yn hyfforddi myfyrwyr ym maes technegau cadwraeth o’r radd flaenaf, i gynhyrchu cerddoriaeth Grime o seiniau morloi’r Antarctig, i gynnal arddangosfa gelf yr Amgueddfa Forwrol Genedlaethol wedi'i chynhyrchu ar y cyd â myfyrwyr lleol. Mae ei brosiect allgymorth diweddaraf, Polar Portals, yn cysylltu plant ysgol canol y ddinas ag amgylcheddau sy'n newid gyflymaf yn y byd, a hynny mewn ffordd arbennig iawn. Mae plant yn cael cardiau post o Antarctica gyda chyfrinach – o’u sganio, maen nhw’n dod yn fyw gyda dyddiaduron teithiau Realiti Estynedig sy’n datgelu taith y gwyddonwyr a gludodd eu cardiau.

Y tu hwnt i'w waith allgymorth, cafodd Prem ei gyflogi i weithio ar Frozen Planet II a gafodd ei lleisio gan David Attenborough, a helpodd i ffilmio ymddygiad anifeiliaid a gafodd ei weld am y tro cyntaf erioed. Bu hefyd yn darlithio i fyfyrwyr gradd meistr yn Rhydychen ar y defnydd o ddeallusrwydd artiffisial a thechnoleg ymdrochol ym maes cadwraeth, cael gwobr ‘Emerging Explorer 2021’ National Geographic, a’i ethol yn ymddiriedolwr i’r Gymdeithas Ddaearyddol Frenhinol.

Prem Gill (BSc 2017)

Freddie Hodkin (BMus 2018, MA 2021) a Chris Roberts (BMus 2017)

Yn 2023, cychwynnodd y ddeuawd werin Filkin's Drift (Chris Roberts ar y gitâr a Seth Bye ar y ffidil), gyda chymorth eu ffrind a’r cerddor Freddie Hodkin, ar ddull radical o deithio. Penderfynon nhw gerdded 870 o filltiroedd Llwybr Arfordir Cymru, gan chwarae 50 gig ar y ffordd i lansio eu EP 'Rembard's Retreat' a hyrwyddo cynaliadwyedd yn y diwydiant cerddoriaeth.

Gyda straeon am artistiaid byd-eang yn teithio milltiroedd helaeth yn yr awyr, gan gynhyrchu allyriadau helaeth, roedden nhw'n cwestiynu a oedd ffordd well o deithio, un a fyddai'n caniatáu iddyn nhw gael ymdeimlad o bob man y bydden nhw’n ymweld ag ef, cyfuno cariad at natur â'u celf, a herio arferion sefydledig y diwydiant.

Trwy ymweld â lleoliadau nad oedd artistiaid yn eu cyrraedd yn aml, daethon nhw o hyd i gynulleidfaoedd hynod o leol a fyddai wedi clywed am y gig ar lafar gwlad. Roedd cael cyfyngiadau o ran yr hyn y gallen nhw ei gario yn eu gorfodi i fireinio eu perfformiad ar y llwyfan, ac roedd bod y tu allan am ddau fis yn caniatáu iddyn nhw gymryd rhan mewn cynlluniau gwyddoniaeth i ddinasyddion ar hyd y ffordd.

Mae profiadau'r daith hon, o'r enw CERDD//ED o ‘cerddoriaeth’ a ‘cerdded’, eisoes wedi bwydo i mewn i waith creadigol sydd ar ddod. Sicrhaodd cyfres ar y we a oedd yn dilyn y prosiect, yn ogystal â sylw yn y cyfryngau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol, eu bod nhw’n cyrraedd eu targed codi arian ar gyfer yr elusen Live Music Now.

Freddie Hodkin (BMus 2018, MA 2021) a Chris Roberts (BMus 2017) 

Yetunde Deborah Fadeyi (MSc 2021)

Mae Deborah yn ymarferydd ynni a chynaliadwyedd gyda degawd o brofiad traws-ddisgyblaethol yn rhychwantu sectorau megis rheoli gwastraff, mynediad at ynni, ac awyrofod. Mae ei harbenigedd technegol ym meysydd polisi a dylunio sector, cynaliadwyedd corfforaethol, ynni, pontio i sero net, a dylunio technoleg.

Yn ei rôl yn Rheolwr Cynaliadwyedd yn y Sefydliad Technoleg Awyrofod, mae’n cymhwyso ei dysgu traws-sector o’r sectorau ynni adnewyddadwy ac anodd eu hatal. Mae hi’n cyfrannu at strategaeth dechnoleg y DU ar awyrofod wrth olrhain cynlluniau datgarboneiddio mewnol, datblygu arweinyddiaeth meddwl, a chyflwyno cyfleoedd perthnasol ar gyfer datgarboneiddio’r sector.

Cyn hyn, bu'n gweithio gyda llywodraeth Nigeria yn Brif Swyddog Cynaliadwyedd i ddarparu atebion economaidd-gymdeithasol i wasanaethau rheoli gwastraff gan ymateb iddyn nhw drwy dechnoleg.

Y tu hwnt i'w chyfrifoldebau corfforaethol, mae'n cyfrannu ei harbenigedd at drafodaethau lefel uchel, gan ymgysylltu â sefydliadau megis yr Asiantaeth Ynni Ryngwladol i eirioli dros drawsnewid sy'n canolbwyntio ar bobl trwy REES Affrica, corff anllywodraethol yr oedd hi wedi’i sefydlu. A hithau’n arloeswr cymdeithasol, datblygodd ddyluniadau cyfannol i gymell defnyddwyr ynni glân trwy roi gwerth ariannol ar effaith gymdeithasol a hinsawdd.

Mae hi hefyd yn awdur llyfrau plant ac mae wedi cael ei henwi yn Gymrawd Three Cairns, yn gystadleuydd yn rownd derfynol 50 Uchaf Menywod ym maes Peirianneg, ac yn Ysgolhaig Chevening.

Yetunde Deborah Fadeyi (MSc 2021)

Tara Irwin (BSc 2017)

Mae Tara yn Ddadansoddwr ESG (amgylcheddol, cymdeithasol a llywodraethu) yng nghwmni cyllid Hargreaves Lansdown, gan hyrwyddo buddsoddi cynaliadwy, yn fewnol ac yn y diwydiant ehangach. Mae hi wedi cynllunio strategaeth sero net ar gyfer asedau dan reolaeth gwerth £9 biliwn o lwyfan buddsoddi mwyaf y DU ar gyfer buddsoddwyr preifat.

Mae Tara wedi creu dangosfwrdd cronfa berchnogol arloesol ar gyfer y cwmni, sy'n rhoi’r gallu i ddadansoddwyr y cwmni asesu rhinweddau ESG grwpiau cronfa yn rhan o’u hatebion. Mae hi hefyd wedi cynllunio strategaeth ymgysylltu sy'n integreiddio cynaliadwyedd ar draws pob agwedd ar reoli cronfeydd.

Yn fewnol, mae Tara wedi dod â phobl ynghyd i weithredu ar yr hinsawdd, gan arwain HLFM i ymrwymo i fenter Climate Action 100+ ac ymrwymo’n gyhoeddus i flaenoriaethu hinsawdd yn thema ymgysylltu.

Y tu hwnt i’w rôl yn HLFM, mae Tara yn aelod o fwrdd Partneriaeth Hinsawdd a Natur Bryste. Mae hi hefyd yn noddwr-gyfarwyddwr ar gyfer Cronfa Gymunedol Gweithredu ar yr Hinsawdd ac mae ganddi rolau ymgynghorol gyda Net Zero Investment Lab Cyngor Dinas Bryste.
Mae angerdd diwyro Tara dros ysgogi cyllid i frwydro yn erbyn argyfwng yr hinsawdd yn amlwg ym mhob agwedd ar ei gwaith.

Tara Irwin (BSc 2017) 

Rishabh Moudgill (LLB 2019)

Yn gyfreithiwr hyfforddedig, mae Rishabh wedi bod ar reng flaen datblygu rhyngwladol a gweithredu ar y newid yn yr hinsawdd drwy gydol ei yrfa. Wedi'i leoli yn Ne Korea ar hyn o bryd, mae'n Swyddog Polisi a Gwerthuso yn y Gronfa Hinsawdd Werdd (GCF) - cronfa hinsawdd amlochrog fwyaf y byd, lle mae wedi cyfrannu at benderfyniadau strategol sy'n llywio dyfodol cyllid yr hinsawdd byd-eang.

Mae wedi gweithio ar adroddiadau gwerthuso hanfodol i lywio penderfyniadau Bwrdd GCF, wedi hwyluso penderfyniadau polisi hanfodol, wedi datblygu safonau gwerthuso ar gyfer y gronfa, ac wedi casglu tystiolaeth feirniadol o Dde America, Affrica ac Asia i lywio buddsoddiadau yn yr hinsawdd gwerth biliynau o ddoleri. Cynrychiolodd ei Uned hefyd yn yr UNFCCC COP28 yn Dubai, gan drafod cyllid parodrwydd a mynediad at gyllid ynghylch yr hinsawdd er mwyn gweithredu ar yr hinsawdd yn fyd-eang mewn perthynas ag addasu a lliniaru.

Cyn ymuno â'r GCF, bu Rishabh, ochr yn ochr â thimau rhanbarthol, yn arwain y gwaith o weithredu menter addysg amgylcheddol 'Ek Prithvi' WWF-India, a effeithiodd ar 130,000 o fyfyrwyr mewn 200 o ysgolion ar draws 11 talaith.

Yn ogystal â’i LLB o Brifysgol Caerdydd, mae ganddo LLM o Brifysgol Bryste a DipÔl-raddedig o Brifysgol Genedlaethol y Gyfraith, Delhi.

Rishabh Moudgill (LLB 2019)

Stella Nderitu (MScEcon 2022)

Mae Stella yn hyrwyddwr cyfiawnder cymdeithasol ffeministaidd, sy'n arbenigo mewn ymgysylltu â merched ifanc Affrica ym meysydd arweinyddiaeth a llywodraethu.

Hi yw sylfaenydd Menter DadaPower, sefydliad hawliau menywod ar lawr gwlad yn Kenya sy'n gweithio gyda merched yn eu harddegau a menywod ifanc ym meysydd hawliau dinesig, cyfiawnder ynghylch yr hinsawdd, ac arweinyddiaeth ffeministaidd. Dyfarnwyd Cymrodoriaeth Cambria Prifysgol Caerdydd iddi yn 2021 am ei syniad menter gymdeithasol eithriadol ar weithredu ar yr hinsawdd dan arweiniad menywod yn Sir Murang'a, Kenya.

Stella yw Cyfarwyddwr Rhaglenni a Phartneriaethau yn Emerging Leaders Foundation-Africa, sefydliad sy'n gwasanaethu ieuenctid sy'n meithrin arweinwyr sy'n seiliedig ar werthoedd trwy fentora a hyfforddiant. Mae'n aelod o'r Bwrdd Agenda Ieuenctid ac mae'n rhan o Bwyllgor Ymgynghorol Cenedlaethol ‘Voices for Just Climate Action’ (VCA).

Hi hefyd yw Cynullydd y Glymblaid Cyfiawnder o ran Rhywedd ar Drafnidiaeth Gyhoeddus, a ddatblygodd y côd ymddygiad trafnidiaeth gyhoeddus i wella diogelwch menywod. Mae hi'n rhagweld byd lle mae pob merch a menyw yn ffynnu heb ofn na phrofiad o unrhyw fath o drais.

Stella Nderitu (MScEcon 2022)

Sarah Lynn (LLB 2014)

Mae Sarah yn arweinydd cynhwysiant yn un o elusennau mwyaf y DU, y Samariaid. Gan weithio ar y tîm Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant, ac am gyfnod yn ei arwain yn bennaeth dros dro, eu gwaith yw newid y diwylliant a gwella amrywiaeth a chynhwysiant yn yr elusen, yn ogystal ag yn y gwasanaeth amhrisiadwy maen nhw’n ei ddarparu.

Ers 2014, mae Sarah hefyd wedi arwain “Impact”, y grŵp ieuenctid LHDTC+ hynaf yng Nghaerdydd, gan sicrhau bod amgylchedd ar gyfer pobl ifanc LHDTC+ o’r ddinas a thu hwnt i’w cefnogi a rhoi’r grym yn eu dwylo. Mae Sarah wedi ymddangos ar Restr Pinc Cymru ac mae’n gweithio’n gyson i wella’r gymuned LHDTC+ yn Ne Cymru a’r cyffiniau.

Sarah Lynn (LLB 2014) 

Shreya Sharma (LLB 2021)

Sefydlodd Shreya blatfform cyfreithiol Rest The Case ar ôl y bod yn y brifysgol, yn 21 oed yn unig. Wedi'i leoli yn India, mae'r cwmni'n paru aelodau'r cyhoedd â'r cymorth cyfreithiol cywir ar gyfer eu hanghenion, yn ogystal â darparu gwybodaeth ac adnoddau, yn rhad ac am ddim.

Nododd Shreya fod pobl yn India yn aml heb yr wybodaeth gyfreithiol i ddeall pa fath o gyfreithiwr y mae angen iddyn nhw siarad â nhw, neu sut i ddod o hyd i'r un iawn. Mae Rest The Case yn helpu i wneud hynny’n hawdd – gan baru unigolion â chyfreithwyr wedi’u dilysu mewn mwy na 500 o ddinasoedd, ag arbenigwyr mewn dros 60 o arbenigeddau.

Wedi'i sefydlu yn ystod y pandemig pan oedd cyfnodau clo yn ei gwneud hi'n anodd i bobl ddod o hyd i'r cymorth yr oedd ei angen arnyn nhw, adeiladodd Shreya y cwmni o dîm o ddau yn unig, gan gyfarfod yn bersonol â chyfreithwyr i esbonio'r gwasanaeth a'u recriwtio i'r platfform.

Mewn pedair blynedd, mae'r cwmni wedi dod yn arweinydd y farchnad yn y maes hwnnw ac mae'n arloesi defnydd deallusrwydd artiffisial ym maes technoleg gyfreithiol. Mae Rest The Case yn sicrhau bod cymorth cyfreithiol yn fwy hygyrch i filiynau o bobl, gan gynnwys rhai o'r rheiny yn India sydd fwyaf agored i niwed.

Shreya Sharma (LLB 2021)

Bi Luo (MA 2017)

Mae Luo Bi (sheepmaomao) yn artist digidol arloesol a hi yw sylfaenydd Chengdu Sheepmaomao Culture and Art Co. Ltd. Wedi graddio o Brifysgol Amaethyddol Sichuan a Phrifysgol Caerdydd, mae hi wedi cymryd camau breision ym maes celf ddigidol ers 2021.

Mae Luo Bi yn enwog am ei gwaith yn creu planhigion digidol, gan ganolbwyntio ar fioleg ac ecosystemau rhithwir. Mae ei harddull Bywiogrwydd Rhamantaidd unigryw wedi ysbrydoli llawer o artistiaid ac yn hybu rhoi’r grym yn nwylo menywod. Mae ei gwaith nodedig, gan gynnwys “Digital Plum Garden” a “Digital Pomegranate Sprouting”, wedi cael eu harddangos mewn dros 30 o arddangosfeydd ledled y byd, gan gynnwys Biennale Fenis 2024. Yn 2023 cafodd ei dewis yn artist preswyl yng Ngwesty Swatch Art Peace.

Mae gwaith Luo Bi wedi denu llawer o sylw ar-lein ac yn y byd go iawn, gan ddenu mwy na miliwn o wylwyr. Mae ei gwaith ar y cyd â mwy na 30 o frandiau, gan gynnwys Hennessy a La Mer, yn integreiddio celf i fywyd bob dydd, gan amlygu ei dylanwad a’i safle unigryw yn y byd celf.

Bi Luo (MA 2017) 

Jordan Copner (BSc 2018)

Ac yntau’n ddim ond 25 oed, sefydlodd Jordan Copner Biotech Ltd yn 2020 ochr yn ochr â’i dad, cyn-fyfyriwr arall o Gaerdydd, Alan Copner (BSc 1983). Mae’r cwmni’n canolbwyntio ar ymchwilio a datblygu portffolio o gynhyrchion a gwasanaethau ar gyfer y farchnad diwylliant celloedd 3D. Y nod yw lleihau a chael gwared ar anifeiliaid a chynhyrchion anifeiliaid o feysydd hanfodol megis ymchwil canser a pheirianneg meinweoedd.

Mae’r cwmni bellach yn dîm o saith, ac yn cyflenwi cynnyrch ledled y DU, Ewrop ac Awstralia. Yn 2024, cawson nhw eu cydnabod yn gwmni allweddol yn y farchnad diwylliant celloedd 3D byd-eang.

Jordan Copner (BSc 2018)

Shweta Salvankar (MSc 2023)

Mae Shweta yn uwch ymgynghorydd cynaliadwyedd sydd wedi ymuno â Harley Haddow, ymgynghoriaeth peirianneg amlddisgyblaethol yn ddiweddar. Yn y rôl hon, mae'n arwain yr is-adran Perfformiad Adeiladau a Chynaliadwyedd, gan ganolbwyntio ar ddylunio adeiladau sy’n effeithlon o ran ynni trwy ddulliau efelychu uwch.

Graddiodd o Ysgol Pensaernïaeth Cymru y llynedd, ac yn gynnar yn 2024 enillodd y wobr am y "Cyfraniad Mwyaf Sylweddol i Gelf a Gwyddoniaeth Peirianneg Gwasanaethau Adeiladu" yn Symposiwm Technegol CIBSE yng Nghymru.

Gyda chefndir cryf mewn arferion adeiladu cynaliadwy ledled y DU ac India, mae Shweta hefyd wedi ennill cydnabyddiaeth am ei harbenigedd, gan gynnwys Gwobr Modelwr Ifanc CIBSE a medal aur gan Timber Development UK am waith dylunio sy’n ymateb i’r hinsawdd.

Shweta Salvankar (MSc 2023)

Jawad Khan (BEng 2008)

Jawad yw sylfaenydd a Phrif Swyddog Gweithredol TransLinguist, cwmni newydd technoleg lleferydd byd-eang, sy'n arloesi ym maes cyfathrebu amlieithog. Mae'r cwmni'n defnyddio deallusrwydd artiffisial ar gyfer cyfieithu lleferydd deugyfeiriadol di-dor, pontio cymunedau, corfforaethau, a llywodraethau, dileu rhwystrau iaith a meithrin rhyngweithio byd-eang.

Wedi'i hysbrydoli gan heriau cyfathrebu yn sgil y pandemig, mae gweledigaeth Jawad yn cwmpasu datrysiad hybrid ar gyfer dehongli lleferydd yn y fan a’r lle ac o bell. Mae TransLinguist yn gwasanaethu cleientiaid megis y Cenhedloedd Unedig, British Council, a'r GIG, gan fynd i'r afael ag anghenion iaith mewn amser real. O dan arweiniad Jawad, mae'r cwmni'n gwneud y gorau o gynadleddau amlieithog, gan wella effeithlonrwydd ac enillion o fuddsoddiad trwy atebion cyfathrebu arloesol sy'n cael eu sbarduno gan ddeallusrwydd artiffisial.

Mae gweledigaeth gynhwysol Jawad yn ymestyn i ddarparu cymorth iaith arwyddion mewn amser real. Mae offeryn Dehongli Iaith Arwyddion TransLinguist yn cysylltu siaradwyr a defnyddwyr iaith arwyddion, gan alluogi cyfathrebu â chymunedau â nam ar eu clyw.

Jawad Khan (BEng 2008) 

Tom Davoren (BMus 2019)

Ers graddio o Gaerdydd, aeth Tom ymlaen i gyflawni ei PhD mewn arwain offerynnau chwyth o Brifysgol Kansas (UDA). Bellach mae ganddo swydd athrawol yng Ngholeg Benedictaidd (UDA) ac mae’n teithio'n rheolaidd i Japan yn Arweinydd Proffesiynol i Tokyo City Brass.

Yn gyfansoddwr, dyfarnwyd Gwobr Gyfansoddi Cymdeithas Bandiau Cenedlaethol America i’w gerddoriaeth ac mae bellach yn cael ei pherfformio yn UDA, Canada, Ciwba, y DU, Sweden, Denmarc, Norwy, Gwlad Belg, Ffrainc, Lithwania, y Swistir, Japan, Tsieina, Seland Newydd , ac Awstralia – unrhyw le mae bandiau pres a chwyth!

Mae hunaniaeth Gymreig Tom yn rhan fawr o'i gerddoriaeth, gyda chân a llên gwerin Gymreig yn aml yn destun pwnc. Cafodd ei ddarn ‘Legacy’ ei berfformio ym Mhalas San Steffan gan Fand Tredegar i ddathlu gwaddol Aneurin Bevan, a chafodd ei ffanffer ‘Degawd’ ei chomisiynu ar gyfer agoriad Brenhinol Cynulliad Cymru, gan Ei Uchelder Brenhinol Tywysog Cymru ar y pryd, a’i pherfformio gan Fand Tywysog Cymru.

Tom Davoren (BMus 2019) 

Ross Clarke (MA 2014)

Mae Ross yn ysgrifennu am deithio, bwyd a gwin ac yn arbenigo mewn bwyd a diwylliant Cymreig. Mae'n gyn-olygydd ar gyfer British Airways a’r Mandarin Oriental Hotel Group, yn aelod o'r Guild of Food Writers a'r British Guild of Travel Writers, ac yn ysgrifennu ar gyfer cyhoeddiadau gan gynnwys The Times, The Independent, National Geographic Traveller, The Guardian, a BBC Travel .

Yn 2021, dechreuodd ei gylchlythyr poblogaidd Substack, The Welsh Kitchen, sy’n dathlu diwylliant bwyd a diod Cymru a chymunedau Cymreig. Gyda mwy nag 80 o rifynnau, mae ei gylchlythyr wedi ennyn canmoliaeth o bedwar ban byd.

Mae Ross hefyd yn gyfrannwr cyson i drafodaethau am goginio Cymreig. Mae wedi bod yn westai ar bodlediad A Slice of Cheese, wedi’i gyflwyno gan yr awdur bwyd enwog Jenny Linford ac mae wedi cael ei gyfweld am fwyd Cymreig ar gyfer cylchgrawn National Geographic Traveller Food.

Yn 2021, cafodd Ross hefyd y pleser o ddychwelyd i Brifysgol Caerdydd yn ddarlithydd ar y cwrs MA Newyddiaduraeth Cylchgronau – y cwrs y graddiodd ohono ddegawd yn ôl. Mae’n parhau yn y swydd hon a’i yrfa newyddiadurol ar ei liwt ei hun, gan ymdrechu i annog y genhedlaeth nesaf o newyddiadurwyr.

Ross Clarke (MA 2014)

William Hayward (BScEcon 2011, MA 2017)

Ers graddio o gwrs mawreddog Newyddiaduraeth Newyddion Prifysgol Caerdydd yn 2016, mae gyrfa Will wedi mynd o nerth i nerth.

Mae wedi sefydlu ei hun yn brif awdurdod ar faterion Cymreig a gwleidyddiaeth Cymru. Yn ystod ei yrfa gymharol fyr mae wedi ennill 14 gwobr am newyddiaduraeth, gan gynnwys cael ei enwi’n newyddiadurwr Cymreig y flwyddyn ar sawl achlysur.

Mae Will hefyd wedi ysgrifennu dau lyfr sydd wedi derbyn canmoliaeth gan feirniaid. Canolbwyntiodd ei lyfr cyntaf ar drywydd y pandemig yng Nghymru, gan roi asesiad trylwyr o'r penderfyniadau a gafodd eu gwneud ym Mae Caerdydd a San Steffan. Roedd ei ail lyfr yn asesiad diduedd o rinweddau annibyniaeth Cymru, sydd wedi cael ei enwi gan nifer am fod yn gyfrifol am osod naws y ddadl ar ddyfodol Cymru.

Mae ei newyddiaduraeth wedi cynnwys ymchwiliadau manwl i dlodi, trais yn erbyn menywod, a GIG Cymru. Mae ei gylchlythyr, sy'n dadansoddi materion gwleidyddol Cymru, wedi denu 2,000 o danysgrifwyr mewn cyfnod o wyth mis.

Yn ogystal â’i waith yn WalesOnline a’r Western Mail, mae hefyd yn gyfrannwr cyson i Sky News, LBC, BBC, Times Radio, a phodlediadau megis Pod Save the UK. Mae Will hefyd wedi siarad yn deimladwy am ei frwydr yn newyddiadurwr â dyslecsia.

William Hayward (BScEcon 2011, MA 2017)

Sagnik Basu (MA 2019)

Ar ôl gorffen ei radd meistr yn 2018, symudodd Sagnik i'r Unol Daleithiau i ddilyn gyrfa yn y cyfryngau. Gyda dim ond $300 yn ei boced a dim cysylltiadau, cychwynnodd ar ei fywyd newydd. Ymunodd â’r Daily Caller yn Washington DC un Uwch Gynhyrchydd, lle enillodd wobrau am ei waith yn dogfennu gwaith anghyfreithlon gan gartelau mewn perthynas â mariwana.

Cafodd ei gyfweliad gyda Llywodraethwr Florida Ron DeSantis sylw yn y Daily Mail, y papur newydd Saesneg ei iaith gyda’r nifer fwyaf o ddarllenwyr yn y byd.

Yn 2022 daeth yn Bennaeth y Cyfryngau Cymdeithasol ac Uwch Olygydd yn FOX Media lle mae’n datblygu sioeau newyddion a phodlediadau yn ymwneud â chwaraeon, diwylliant poblogaidd, a gwleidyddiaeth.

Mae Sagnik hefyd yn gyd-sylfaenydd cwmni cynhyrchu’r cyfryngau sy'n rheoli cynnwys ar gyfer cwmnïau megis a16z, Breaking Points, NOCD, Be OnDeck, a New Founding.

Ochr yn ochr â hyn, mae’n trefnu digwyddiadau yn Efrog Newydd, gan helpu sefydlwyr a phobl greadigol ddawnus o dramor i godi arian, adeiladu cymunedau, a chanfod eu traed yn UDA wrth iddyn nhw geisio cydbwyso mewnfudo ac entrepreneuriaeth.

Sagnik Basu (MA 2019) 

Ian Wafula (MA 2023)

Ian yw Gohebydd Diogelwch Affrica ar gyfer y BBC yn Nairobi. Cyn hynny bu’n gweithio ar Focus on Africa, rhaglen newyddion a materion cyfoes flaenllaw’r BBC sy’n cwmpasu’r cyfandir ac yn cael ei darlledu ar y World Service. Helpodd i drosglwyddo'r rhaglen o Lundain i Nairobi.

Yn 2020, ar ddechrau’r pandemig, bu Ian yn gweithio’n Uwch Gyflwynydd i The Breakdown, rhaglen deledu arbennig ar BBC Affrica a helpodd cynulleidfaoedd i wneud synnwyr o’r argyfwng. Cafodd y sioe ei darlledu ar 32 o orsafoedd partner mewn 18 o wledydd. Yn 2018 cyflwynodd ar gyfer Fact Finder, sioe llythrennedd y cyfryngau a gwirio ffeithiau a arweiniodd at ei enwebiad ar gyfer Gwiriwr Ffeithiau’r Flwyddyn Affrica Check 2019.

Mae Ian hefyd wedi gweithio i orsafoedd teledu lleol yn Kenya, gan gynnwys K24 a KTN. Mae ganddo fe BA mewn Cyfathrebu Torfol o Brifysgol Daystar yn Nairobi a Gradd Meistr mewn Newyddiaduraeth Ryngwladol o Brifysgol Caerdydd, a hynny’n gymrawd Ysgoloriaeth Chevening.

Ian Wafula (MA 2023)

Sam MacGregor (BSc 2020) a Danni Diston (BA 2019)

Mae Sam a Danni yn cyd-gyflwyno sioe Weekend Breakfast ar BBC Radio 1. Yn darlledu'n fyw o Gaerdydd, dyma'r sioe reolaidd gyntaf yn ystod y dydd ar yr orsaf i ddod yn fyw o Gymru. Dechreuodd y pâr gyflwyno gyda'i gilydd tra ym Mhrifysgol Caerdydd ar Xpress Radio.

Ychydig flynyddoedd ar ôl ennill y 'Sioe Adloniant Orau' yng Ngwobrau Cyfryngau Myfyrwyr Caerdydd, fe gawson nhw sioe untro ar Radio 1 yn 2020 a chael eu hunain yn darlledu rhaglenni amrywiol ar yr orsaf am y tair blynedd nesaf. Ym mis Medi 2023 cawson nhw eu sioe eu hunain ac yn ddiweddar maen nhw wedi dechrau cyflwyno Friday Early Breakfast ochr yn ochr â hyn.

Maen nhw’n gyflwynwyr llanw rheolaidd ar gyfer 'The Radio 1 Breakfast Show', 'Going Home', a 'The Official Chart on Radio 1'. Yn ogystal â hyn, mae Sam a Danni wedi cyflwyno o Ŵyl Reading a Leeds, Boardmasters, a Radio 1’s Big Weekend Radio ar BBC iPlayer. Nhw hefyd yw DJs preswyl Tân Cymreig yn The Hundred.

Sam MacGregor (BSc 2020) a Danni Diston (BA 2019)

Roha Nadeem (MA 2022)

Darlledwr chwaraeon a chrëwr cynnwys amlgyfrwng o Bacistan yw Roha. Ar ôl chwarae criced proffesiynol ar lefel dan-19 oed, cychwynnodd Roha ar lwybr ym maes newyddiaduraeth chwaraeon yn 16 oed. Erbyn hyn mae’n cadarnhau ei lle yn un o’r ychydig fenywod ym myd darlledu chwaraeon prif ffrwd ym Mhacistan.

Yn 2020, dyfarnwyd Ysgoloriaeth Chevening i Roha er mwyn dilyn gradd meistr mewn Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Chyfathrebu o Brifysgol Caerdydd. Ers hynny, mae hi wedi bod yn gwneud enw i’w hun wrth ddarlledu ar y teledu ac ar blatfformau digidol ym maes chwaraeon.

Ar hyn o bryd mae hi'n cyflwyno sioe fyw’r oriau brig ar rwydwaith PTV Sports yn nhalaith Pacistan. Mae hi hefyd yn curadu ac yn cyhoeddi cynnwys sy’n denu cynulleidfaoedd, gan gynnwys podlediad, ar y platfform digidol Cricwick.

Ar ôl sefydlu gyrfa lwyddiannus mewn diwydiant sydd yn hanesyddol wedi’i ddominyddu gan leisiau gwrywaidd, mae Roha yn ysbrydoli llawer o fenywod ifanc ym Mhacistan i fynd ar drywydd darlledu chwaraeon a chwalu rhwystrau.

Roha Nadeem (MA 2022)

Shruti Tripathi Chopra (MA 2011)

Wedi’i geni yn India, Shruti yw Prif Olygydd Financial News a Private Equity News, dau gyhoeddiad News Corp sy’n cael eu darllen gan gwmnïau cyllid mwyaf y byd ers bron i 30 mlynedd. Shruti yw golygydd ieuengaf erioed y cyhoeddiadau, y person o liw cyntaf a'r fenyw gyntaf i'w phenodi i'r swydd hon.

Dechreuodd Shruti ei gyrfa newyddiaduraeth yn neuaddau Prifysgol Caerdydd, gan fenthyg offer JOMEC i wneud pecynnau newyddion ar gyfer Media Wales. Fe wnaeth y gwaith hwnnw ei helpu iddi gael ei swydd newyddiaduraeth gyntaf yn Llundain – gwireddu breuddwyd lwyr i rywun nad Saesneg yw ei hiaith gyntaf.

Mae Shruti yn hyrwyddwr amrywiaeth a chynhwysiant, gan arwain ar waith rhestr y 100 o Fenywod Mwyaf Dylanwadol ym myd Cyllid i’w chyhoeddiad, sy'n denu sylw enwau mawr y diwydiant.

Mae hi wedi cyfweld â channoedd o bobl busnes yn ei gyrfa gan gynnwys Richard Branson, Boris Johnson, yr Arglwydd Sugar, a Jeremy Hunt ymhlith eraill.

Shruti Tripathi Chopra (MA 2011)

Darllenwch am enillwyr y llynedd

Gwobrau (tua)30 2023

Darllenwch straeon enillwyr gwobrau (tua) 30 sy’n rhan o’n rhestr 2023 derfynol o gynfyfyrwyr o Brifysgol Caerdydd sy’n arloesi ac yn torri tir newydd yn ogystal â rheolau.

Troi poen yn ddiben: gweledigaeth ar gyfer gofal llygaid sy’n hygyrch i bawb

Optometrydd yw Lucky Aziken (MSc 2023) sy’n darparu gwasanaethau gofal llygaid fforddiadwy a chynaliadwy yn Nigeria a Malawi.

Cyn-fyfyriwr o’r Ysgol Cerddoriaeth yn ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o artistiaid ifanc 

Guy Verral-Withers (BMus 2013) yn cyflwyno opera i gynulleidfaoedd newydd a chynnig llwyfan i artistiaid ifanc fedru llwyddo.